2014 – 2020

Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)

Ar gyfer y cyfnod rhaglennu presennol, 2014-20, mae Cymru yn derbyn cyllid gan Ewrop drwy nifer o ffrydiau arian amrywiol. Daw’r cyfraniadau mwyaf sylweddol o’r:

Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd

Mae’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn cynnwys:

Caiff dros hanner y cyllid a ddaw gan Ewrop ei ddarparu trwy Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd. Cânt eu rheoli ar y cyd gan y Comisiwn Ewropeaidd a gwledydd yr UE. Yn achos Cymru, yr awdurdod rheoli yw the Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Diben y cyllid yw buddsoddi mewn creu swyddi ac economi ac amgylchedd cynaliadwy ac iach yn Ewrop. Adran Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) Llywodraeth Cymru sy’n trafod telerau’r rhaglenni â’r Comisiwn Ewropeaidd ac sy’n rheoli’r rhaglenni a gymeradwywyd: cymeradwyo grantiau a monitro perfformiad a chydymffurfio.

Ar gyfer y cyfnod 2014-2020 cymhwysodd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd unwaith eto, fel rhanbarth ‘llai datblygedig’ a dyfarnwyd iddo y lefel uchaf o grant cymorth yr UE o ryw £1.4 biliwn. Dyfarnwyd Dwyrain Cymru yn rhanbarth ‘mwy datblygedig’, a bydd yn derbyn tua £300 miliwn. Mae’r map isod yn dangos ardal ddaearyddol pob rhanbarth.

 

Mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cael mwy o arian ac ar gyfradd ymyrraeth uwch na Dwyrain Cymru. Yn Ne-ddwyrain Cymru mae gennym ni 10 o ranbarthau awdurdod lleol, chwech ohonynt yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd (Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, RhCT, Torfaen) a phedwar yn Nwyrain Cymru (Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd, Bro Morgannwg).

Bydd rhannau o Gymru, a’u cymhwysedd yn cael ei bennu ar lefel ward, hefyd yn gymwys i gael cyllid trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop.

Bydd y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd, ynghyd â chyllid cyfatebol, yn ysgogi cyfanswm buddsoddiad o £3 biliwn ledled Cymru, a fydd yn helpu pobl i waith a hyfforddiant, cyflogaeth i bobl ifanc, cystadleurwydd busnes, ymchwil ac arloesi, ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, seilwaith, cysylltedd a datblygiad trefol a gwledig.