Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gwerthuso prosiect

Gwerthuso

Gwerthusiad Cychwyn ASTUTE 2020

Gwerthuso

ASTUTE 2020 Gwerthusiad Canol Tymor

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

ASTUTE 2020 (Uwch dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy)

Disgrifiad o’r prosiect

Gall ASTUTE 2020 gefnogi lefelau uwch o ymchwil, datblygu ac arloesi ar draws amrywiaeth o sectorau drwy gryfhau gwybodaeth ac arbenigedd i greu nwyddau a gwasanaethau o werth uwch a gwella effeithlonrwydd gyda’r nod o ysgogi cynhyrchiant a thwf yn y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Mae cydweithrediadau ASTUTE yn ysbrydoli cwmnïau gweithgynhyrchu i wella a moderneiddio eu prosesau gweithgynhyrchu, eu cynnyrch gweithgynhyrchu a’u cadwyn gyflenwi, gan greu nwyddau a gwasanaethau sy’n gynaliadwy ac o werth uwch, a’u cynnig i farchnad fyd-eang.

Model Cyflawni

Mae cydweithrediadau gwirioneddol ASTUTE 2020 rhwng diwydiant ac academi yn darparu i gwmnïau:

  • Arbenigwyr academaidd o safon fyd-eang ar draws bartneriaeth prifysgol
  • Ymchwilwyr ac arbenigwyr technegol â chymwysterau rhagorol,
  • Cyfleusterau ymchwil a chyfarpar arbrofi heb eu hail
  • Systemau clyfar, uwch dechnegau a meddalwedd bwrpasol

Trwy hynny, mae’n ysgogi datblygiad o syniadau ac yn hwyluso’r broses o fabwysiadu newid drwy waith ymchwil, datblygu ac arloesi.

Mae ASTUTE 2020 yn ychwanegu at agweddau mwyaf llwyddiannus y prosiect ASTUTE blaenorol (2010 – 2015). Mae ASTUTE wedi bod yn llwyddiannus yn dangos ein bod ni mewn sefyllfa ragorol i gefnogi cwmnïau drwy gyfnewid gwybodaeth a phrosiectau cydweithredol dwys ym maes ymchwil, datblygu ac arloesi technolegau gweithgynhyrchu.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i ardaloedd awdurdod lleol yn ardal y rhaglen yn y Gorllewin a’r Cymoedd.

Targedau penodol

Targedau
Gweithgaredd Mentrau sy’n cydweithio â sefydliadau ymchwil a gefnogir
Mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n ariannol
Arloesedd Patentau cofrestredig ar gyfer cynhyrchion/prosesau
Buddsoddi preifat sy’n cyfateb i gymorth cyhoeddus mewn prosiectau arloesi neu ymchwil a datblygu
Mentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion/prosesau newydd i’r cwmni
Mentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion/prosesau newydd i’r farchnad
Twf Cynyddu cyflogaeth mewn mentrau a gefnogir
Manteision

Hirdymor

 

Cynnydd pellach mewn cyflogaeth
Mwy o fuddsoddiad gan y cwmni
Mwy o wariant yn y gadwyn gyflenwi leol gan y cwmni
Mwy o fuddsoddiad allanol i’r cwmni
Cynyddu refeniw gwerthiannau a ragfynegwyd
Cynyddi refeniw allforio a ragfynegwyd
Arbedion o ran ynni, allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwastraff

Manylion cyswllt

Enw: Rhian Jeffs
E-bost: info@astutewales.com
Rhif ffôn: 01792 606378
Cyfeiriad: Prifysgol Abertawe, Campws y Bae, Coleg Peirianneg – Canolfan Beirianneg A114, Ffordd Fabian, Abertawe, SA1 8EN
Gwefan: WordPress › Error
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47,