Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

BioArloesedd Cymru

Disgrifiad o’r prosiect

Rhaglen hyfforddi lefel uchel sydd wedi’i hanelu at y sectorau bwyd-amaeth a biotechnoleg. Caiff hyfforddiant ei ddarparu ar-lein ynghyd â gweithdai dewisol lle bo hynny’n briodol. Gellir ymgymryd â’r cyrsiau fel datblygiad proffesiynol parhaus neu weithio tuag at amrediad o gymwysterau ôl-raddedig.

Bwriad y prosiect yw cynyddu arloesedd a chynhyrchiant cwmnïau biotechnoleg a bwyd Cymru a gwella eu cadwyni cyflenwi cysylltiedig. Caiff hyn ei gyflawni drwy fynd i’r afael â ‘phroblemau cyflenwol’ y canlynol:

  • Prinder sgiliau lefel uchel a thechnegol ym musnesau bio-seiliedig; a
  • Defnydd annigonol o raddedigion yng Nghymru

Mae’r gweithrediad yn darparu hyfforddiant ar lefel ôl-raddedig i helpu busnesau Cymru i gofleidio’r economi gylchol ac i ddarparu llwybr ar gyfer eu cyflogeion i ennill cymwysterau ôl-raddedig.

Cwmpas daearyddol

Cymru gyfan

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Rhaid i gyfranogwyr fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Byw NEU weithio yng Nghymru
  • O leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol NEU radd

Targedau penodol

Rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd

389 o gyfranogwyr â gradd ôl-raddedig neu gyfwerth yn ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ac arloesedd gyda menter

190 o gyfranogwyr â gradd ôl-raddedig neu gyfwerth yn ennill cymhwyster wrth adael ar lefel gradd Meistr (ISCED 7) neu ddoethurol (ISCED 8)

315 o gyflogwyr wedi’u cynorthwyo

Dwyrain Cymru

193 o gyfranogwyr â gradd ôl-raddedig neu gyfwerth yn ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ac arloesedd gyda menter

101 o gyfranogwyr â gradd ôl-raddedig neu gyfwerth yn ennill cymhwyster wrth adael ar lefel gradd Meistr (ISCED 7) neu ddoethurol (ISCED 8)

158 o gyflogwyr wedi’u cynorthwyo

Manylion cyswllt

Enw: Marty Spittle
E-bost: biastaff@aber.ac.uk
Rhif ffôn: 01970 823224
Cyfeiriad: Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3DA
Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

Fideo

Cliciwch i weld y fideo