Brexit – Datblygiadau Allweddol

Neidio i:  2017 | 2018 | 2019

23 Mehefin 2016 Cynnal Refferendwm yr UE ar 23 Mehefin 2016 i benderfynu a ddylai’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) neu aros yn aelod ohono. Mae dros 30 miliwn o bobl (71.8%) yn bwrw pleidlais yn y refferendwm. Yn y DU, mae mwyafrif o blaid ymadael â’r UE (51.9% yn erbyn 48.1%). Yng Nghymru, mae 52.5% o bobl yn pleidleisio i ymadael â’r UE. Mae rhagor o fanylion y canlyniadau ar gael yma.
24 Mehefin 2016 Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar ganlyniad Refferendwm yr UE.
13 Gorffennaf 2016 Theresa May yn dod yn Brif Weinidog a David Davis AS yn cael ei benodi’n Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
15 Gorffennaf 2016 Y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cyhoeddi bod Grŵp Cynghori ar Ewrop newydd yn cael ei sefydlu i gynghori Llywodraeth Cymru ar effaith ymadael â’r UE ar Gymru.
13 Medi 2016 Carwyn Jones, y Prif Weinidog yn gwneud Datganiad Llafar – Yr UE – Trefniadau Pontio.
Hydref 2016 Yr Uchel Lys yn clywed achos adolygiad barnwrol Erthygl 50.
4 Hydref 2016 Trysorlys y DU yn rhoi sicrwydd y bydd pob prosiect cronfeydd strwythurol a chronfeydd buddsoddi a lofnodwyd cyn Datganiad yr Hydref yn cael ei ariannu’n llawn, hyd yn oed ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Hefyd, bydd y Trysorlys yn cyflwyno trefniadau ar gyfer asesu a ddylid gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau penodol a allai gael eu llofnodi ar ôl Datganiad yr Hydref tra ein bod yn parhau’n aelod o’r UE. I gael manylion, ewch i https://www.gov.uk/government/news/chancellor-philip-hammond-guarantees-eu-funding-beyond-date-uk-leaves-the-eu.
24 Hydref 2016 Y Prif Weinidog, Carwyn Jones yn gwneud diweddaraf am drafodaethau Brexit.
4 Tachwedd 2016 Yr Uchel Lys yn dyfarnu na all y Llywodraeth danio Erthygl 50 heb awdurdod y Senedd.
8 Rhagfyr 2016 Y Goruchaf Lys yn clywed apêl y Llywodraeth yn erbyn yr Uchel Lys.

2017

24 Ionawr 2017 Y Goruchaf Lys yn dyfarnu na all y Llywodraeth danio Erthygl 50 heb Ddeddf Seneddol, ond nad os rhaid iddi ymgynghori â’r deddfwrfeydd datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Llywodraeth Cymru yn rhydau datganiad yn ymwneud â’r dyfarniad.

23 Ionawr 2017 Cyhoeddi papur Diogelu Dyfodol Cymru sy’n nodi prif bryderon Llywodraeth Cymru wrth i’r DU symud tuag at ymadael â’r UE. Mae’r papur yn cyflwyno 6 maes allweddol:

  • Pwysigrwydd parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl er mwyn cefnogi busnesau, a sicrhau swyddi a ffyniant Cymru ar gyfer y dyfodol
  • Dull cytbwys o fynd i’r afael â mudo, drwy gysylltu hawl i fudo â swyddi ac arferion cyflogaeth da, cadarn sy’n amddiffyn gweithwyr o ba bynnag wlad y maen nhw’n dod
  • O ran cyllid a buddsoddi, yr angen i Lywodraeth y DU wireddu’r hyn a addawyd yn ystod ymgyrch y refferendwm sef na fyddai Cymru yn colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i benderfyniad y DU i ymadael â’r UE
  • Perthynas gyfansoddiadol sylfaenol wahanol rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU – wedi’i seilio ar barch o’r ddwy ochr a chytuno drwy gydsynio
  • Cynnal mesurau diogelu a gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol yr ydym yn ymfalchïo ynddynt yng Nghymru, yn arbennig hawliau gweithwyr, pan na fydd y rheiny yn cael eu gwarantu bellach drwy aelodaeth y DU o’r UE

Ystyriaeth briodol o drefniadau pontio er mwyn sicrhau nad yw’r DU yn syrthio dros ymyl y dibyn o ran ei pherthynas economaidd a’i pherthynas ehangach gydag Ewrop os na fydd cytundeb ynghylch trefniadau tymor hirach ar unwaith pan fydd yn ymadael.

1 Chwefror 2017 Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2017 yn cael ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin.
2 Chwefror 2017 Y Llywodraeth yn cyhoeddi ei phapur gwyn ar ymadawiad y DU â’r UE a’i phartneriaeth newydd â’r UE, gan gyflwyno ei strategaeth yn ffurfiol ar gyfer ymadael â’r UE.
16 Mawrth 2017 Y Senedd yn pasio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sy’n awdurdodi’r Llywodraeth i hysbysu’r UE o dan Erthygl 50.
29 Mawrth 2017 Y Prif Weinidog yn tanio Erthygl 50.

Cafodd Erthygl 50 ei chreu fel rhan o Gytuniad Lisbon, ac mae’n gynllun ar gyfer unrhyw wlad sy’n dymuno ymadael â’r UE.

Mae gan Erthygl 50 Cytuniad Lisbon bum elfen:

  1. Gall unrhyw Aelod-wladwriaeth benderfynu ymadael â’r Undeb yn unol â’i gofynion cyfansoddiadol ei hun.
  2. Bydd Aelod-wladwriaeth sy’n penderfynu ymadael yn hysbysu’r Cyngor Ewropeaidd am ei bwriad. Ar sail canllawiau’r Undeb Ewropeaidd, bydd yr Undeb yn negodi ac yn dod i gytundeb â’r Wladwriaeth, yn cyflwyno’r trefniadau ar gyfer ei hymadawiad, ac yn ystyried y fframwaith ar gyfer perthynas y Wladwriaeth â’r Undeb yn y dyfodol. Bydd y cytundeb yn cael ei negodi yn unol ag Erthygl 218(3) o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yn cael ei gwblhau ar ran yr Undeb gan y Cyngor, yn gweithredu gan fwyaf cymwysedig, ar ôl derbyn cydsyniad Senedd Ewrop.
  3. Bydd y Cytundebau’n peidio â bod yn berthnasol i’r Wladwriaeth dan sylw ar y dyddiad pan ddaw’r cytundeb ymadael i rym, neu yn niffyg hynny, dwy flynedd ar ôl yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff 2, oni bai bod y Cyngor Ewropeaidd, mewn cytundeb â’r Aelod-wladwriaeth berthnasol, yn penderfynu ymestyn y cyfnod hwn yn unfrydol.
  4. At ddibenion paragraffau 2 a 3, ni fydd yr aelod o’r Cyngor Ewropeaidd neu’r Cyngor sy’n cynrychioli’r Aelod-wladwriaeth sy’n ymadael yn cymryd rhan yn nhrafodaethau’r Cyngor Ewropeaidd neu’r Cyngor neu mewn penderfyniadau yn ymwneud â hi. Caiff mwyafrif cymwysedig ei ddiffinio yn unol ag Erthygl 238(3)(b) o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.
  5. Os yw Gwladwriaeth sydd wedi ymadael â’r Undeb yn gwneud cais am ailymuno, defnyddir y weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 49 i ymdrin â’r cais.
30 Mawrth 2017 Papur Gwyn y Bil Diddymu Mawr yn cael ei gyhoeddi.
31 Mawrth 2017 Llywydd y Cyngor Ewropeaidd yn cyhoeddi canllawiau negodi drafft yr UE ar gyfer EU27.
Rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2017 Yr UE yn cyhoeddi naw papur safbwynt yn egluro ei safbwynt ar drafodaethau Brexit, gan gynnwys:

  • nwyddau a roddir ar y farchnad o dan gyfraith yr Undeb cyn y dyddiad ymadael;
  • deunyddiau a chyfarpar diogelu niwclear (Euratom);
  • cydweithredu cyson rhwng yr heddlu a’r farnwriaeth ar faterion troseddol;
  • llywodraethu;
  • cydweithrediad y farnwriaeth ym materion sifil a masnachol;
  • gweithdrefnau barnwrol a gweinyddol parhaus yr Undeb;
  • materion yn ymwneud â swyddogaethau sefydliadau, asiantaethau a chyrff yr Undeb;
  • egwyddorion sylfaenol hawliau dinasyddion;
  • egwyddorion sylfaenol y setliad ariannol.
8 Mehefin 2017 Etholiad Cyffredinol y DU.  Theresa May yn cael ei hethol yn Brif Weinidog.
19 Mehefin 2017 Trafodaethau Negodi Brexit yn dechrau rhwng y DU a’r CE.
21 Mehefin 2017 Mae araith y Frenhines yn ystod Agoriad Swyddogol y Senedd yn cynnwys ‘Bil Diddymu Mawr’ fel rhan o raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth.
26 Mehefin 2017 Llywodraeth y DU yn nodi sut mae’n bwriadu diogelu hawliau dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU.
13 Gorffennaf 2017 Y Llywodraeth yn cyhoeddi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Bydd yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ar y diwrnod pan fydd y DU yn ymadael â’r UE, yn trosglwyddo cyfraith yr UE yn gyfraith y DU, ac yn rhoi dwy flynedd i’r Llywodraeth gywiro unrhyw ddiffygion sy’n deillio o’r trosglwyddiad.
13 Gorffennaf 2017 Mae’r DU yn cyhoeddi tri phapur safbwynt yn nodi ei safbwynt ar y trafodaethau Brexit. Maent yn ymwneud â’r canlynol:

Ym mhob achos, safbwynt y Llywodraeth yw na fydd awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop yn berthnasol i’r DU, ac y bydd y DU yn torri cysylltiad â sefydliadau’r UE.

13 Gorffennaf 2017 Michel Barnier, prif negodydd Comisiwn yr UE, yn cyfarfod â Jeremy Corbyn (arweinydd y Blaid Lafur), Nicola Sturgeon (Prif Weinidog yr Alban) a Carwyn Jones (Prif Weinidog Cymru).
14 Gorffennaf 2017 Yr ail gylch o drafodaethau’r UE yn dechrau.
20 Gorffennaf 2017 David Davis yn gwneud datganiad ar ddiwedd yr ail gylch o drafodaethau ar ymadael â’r UE.
7 Awst 2017 Llywodraeth y DU yn cyhoeddi datganiad o fwriad ar Fil Diogelu Data, a fydd yn diddymu Deddf Diogelu Data 1998 ac yn ymgorffori Rheoliad Cyffredinol yr UE ar Ddiogelu Data yng nghyfraith y DU.
15 Awst 2017 Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cynigion ar berthynas tollau yn y dyfodol â’r UE.
21 Awst 2017 Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur safbwynt yn amlinellu safbwynt y DU ar barhad o safbwynt argaeledd nwyddau ym marchnadoedd yr UE a’r DU wrth ymadael â’r UE.
22 Awst 2017 Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur yn amlinellu safbwynt y DU ar gydweithredu barnwrol sifil trawsffiniol mewn partneriaeth yn y dyfodol.
23 Awst 2017 Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur ar bartneriaeth y dyfodol yn trafod dewisiadau ar gyfer dulliau gorfodi a datrys anghydfod mewn perthynas â chytundebau rhwng y DU a’r UE.
24 Awst 2017 Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur ar bartneriaeth y dyfodol yn trafod dewisiadau ar gyfer cyfnewid a diogelu data personol yn y bartneriaeth yn y dyfodol.
28 Awst 2017 Y trydydd cylch o drafodaethau’r UE yn cychwyn.
6 Medi 2017 Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur ar bartneriaeth y dyfodol yn amlinellu amcanion y DU ar gyfer cytundeb gwyddoniaeth ac arloesi gyda’r UE.
7 a 11 Medi 2017 Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn cael ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin, a’i drafod gan ACau.
12 Medi 2017 Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur ar bartneriaeth y dyfodol yn trafod dewisiadau ar gyfer cydweithio ym meysydd polisi tramor, amddiffyn a datblygu yn y bartneriaeth yn y dyfodol.
12 Medi 2017 Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ennill pleidlais gyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin.
18 Medi 2017 Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur yn trafod dewisiadau ar gyfer cynnal diogelwch, gorfodi’r gyfraith a chyfiawnder troseddol – papur ar bartneriaeth y dyfodol.
22 Medi 2017 Y Prif Weinidog Theresa May yn traddodi araith yn Fflorens yn amlinellu cynlluniau ar gyfer cyfnod pontio dwy flynedd posibl ar ôl Brexit ac i lenwi’r bwlch yng nghyllideb yr UE yn sgil ymadawiad y DU.
25 Medi 2017 Y pedwerydd cylch o drafodaethau’r UE yn cychwyn.
28 Medi 2017 David Davis yn gwneud datganiad.

Y Llywodraeth yn cyhoeddi’r nodyn technegol diweddaraf ar gymharu safbwyntiau’r UE-DU ar hawliau dinasyddion.

9 Hydref 2017 Y pumed cylch o drafodaethau’r UE yn cychwyn.

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papurau polisi ar fasnach a thollau.

10 Hydref 2017 Cadeirydd Pwyllgor Materion Allanol Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at ASau o Gymru er mwyn nodi chwe amcan ar gyfer newid Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael):

  1. Dileu’r cyfyngiad Cymal 11 ar y setliad datganoli.
  2. Sicrhau bod Gweinidogion Cymru a’r Cynulliad yn gyfrifol am gywiro holl elfennau’r gyfraith sy’n deillio o’r UE ym meysydd lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli.
  3. Sicrhau bod pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru o dan y Bil yn gyfyngedig ac wedi’u llunio’n fwy cadarn na’r rhai sydd wedi’u nodi yn y Bil ar hyn o bryd.
  4. Atal Gweinidogion Llywodraeth y DU rhag diwygio elfennau o’r gyfraith sy’n deillio o’r UE ac sy’n effeithio ar Gymru oni bai eu bod yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl.
  5. Atal Gweinidogion Llywodraeth y DU neu Weinidogion Cymru rhag defnyddio pwerau dirprwyedig i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru.
  6. Sicrhau bod y Cynulliad yn gallu pennu ei drefniadau craffu ei hun.

Ochr yn ochr â’r amcanion hyn, anfonodd y Pwyllgor diwygiadau arfaethedig i gyflawni ei chwe amcan.

12 Hydref 2017 David Davis yn gwneud datganiad ar ddiwedd y pumed cylch o drafodaethau.
19 Hydref 2017 Theresa May yn ysgrifennu llythyr agored at ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU.
19 – 20 Hydref 2017 Y Cyngor Ewropeaidd (Erthygl 50), mewn fformat UE 27, yn galw am fwy o gynnydd ym meysydd hawliau dinasyddion, y ffin yn Iwerddon, a goblygiadau ariannol. Arweinwyr UE27 yn cytuno i gychwyn paratoadau mewnol ar gyfer ail gyfnod trafodaethau Brexit.
24 Hydref 2017 Carwyn Jones yn gwneud datganiad llafar ar drafodaethau Brexit.
30 Hydref 2017 Theresa May yn cyfarfod â Carwyn Jones i drafod Brexit.
7 Tachwedd 2017 Y Llywodraeth yn cyhoeddi papur polisi sy’n cynnwys manylion gweithdrefnau gweinyddol arfaethedig y DU ar gyfer sicrhau statws preswylydd sefydledig ar gyfer dinasyddion yr UE, Hawliau dinasyddion: gweithdrefnau gweinyddol yn y DU.
10 Tachwedd 2017 David Davies yn gwneud datganiad ar y cylch diweddaraf o drafodaethau’r UE.
13 Tachwedd 2017 David Davies yn gwneud datganiad i Dŷ’r Cyffredin ar y newyddion diweddaraf am drafodaethau’r UE a chynlluniau ar gyfer Cytundeb Ymadael a Bil Gweithredu.
8 Rhagfyr 2017 Adroddiad ar y cyd yn cael ei gyhoeddi gan yr UE a Llywodraeth y DU yn amlinellu cynnydd yn ystod Cyfnod 1 o’r trafodaethau o dan Erthygl 50.

Cytunwyd mewn egwyddor ar y canlynol:

  1. diogelu hawliau dinasyddion yr Undeb yn y DU a dinasyddion y DU yn yr Undeb;
  2. y fframwaith ar gyfer ymdrin â’r sefyllfa unigryw yng Ngogledd Iwerddon; a’r
  3. setliad ariannol.
11 Rhagfyr 2017 Y Prif Weinidog Theresa May yn rhoi diweddariad i Dŷ’r Cyffredin ar Drafodaethau Brexit.
18 Rhagfyr 2017 Y Prif Weinidog Theresa May yn gwneud datganiad yn y Senedd ynglŷn â chyfarfod diweddaraf y Cyngor Ewropeaidd.
20 Rhagfyr 2017 Y Prif Weinidog Theresa May yn ysgrifennu llythyr agored i wladolion y DU sy’n byw yn Ewrop.

2018

18 Ionawr 2018 Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn cael ei ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ’r Arglwyddi.
26 Ionawr 2018 Y Canghellor, Ysgrifennydd Brexit a’r Ysgrifennydd Busnes yn ysgrifennu llythyr agored i fusnesau yn nodi uchelgais y DU ar gyfer ‘cyfnod gweithredu’ (cyfnod pontio) ar ôl Brexit.
30-31 Ionawr 2018 Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn cael ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi.
2 Chwefror 2018 Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit.
6 Chwefror 2018 Y cylch nesaf o drafodaethau’r UE yn cael ei gynnal.
8 Chwefror 2018 Cyhoeddi Nodyn Technegol yn amlinellu safbwynt y DU ar gytundebau rhyngwladol yn ystod y cyfnod gweithredu.
19-20 Chwefror 2018 Rhagor o drafodaethau’r UE yn cael eu cynnal.
2 Mawrth 2018 Y Prif Weinidog Theresa May yn traddodi araith ar y bartneriaeth economaidd rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.
Mehefin 2018 Cyhoeddi adroddiad cryno yn amlinellu canlyniadau’r ymarferiad ymgysylltu yn ymwneud â Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit.
12 Gorffennaf 2018 Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, yn cyhoeddi 7 aelod newydd o’r Grŵp Cynghori ar Ewrop.
12 Hydref 2018 Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, yn traddodi araith mewn digwyddiad yn ymwneud â chyllid yr UE ar ôl Brexit, gan amlinellu beth ddaw yn lle cyllid yr UE ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.
17 – 18 Hydref Uwchgynhadledd yr UE. Y Prif Weinidog Theresa May yn hysbysu’r arweinwyr am safbwynt y DU ar y trafodaethau. Arweinwyr UE27 yn ailddatgan eu hyder llawn ym Michel Barnier fel y negodydd, a’u hagwedd benderfynol i aros yn unedig. Fodd bynnag, nodwyd nad oes cynnydd digonol wedi’i wneud.
22 Hydref 2018 Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE yn gwneud datganiad ar Bleidlais Ystyrlon.

Theresa May yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar gyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ym mis Hydref.

29 Hydref 2018 Diwrnod Cyllideb y DU, y Canghellor Philip Hammond yn cyhoeddi y bydd £500 miliwn ar gael i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb.
14 Tachwedd 2018 Mae’r Cytundeb Ymadael yn cael ei gytuno mewn egwyddor a’i gyhoeddi, gan amlinellu telerau ymadawiad y DU.
15 Tachwedd 2018 Yr Ysgrifennydd Brexit Dominic Raab yn ymddiswyddo fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Penodir Stephen Barclay y diwrnod canlynol. Sawl Gweinidog arall yn ymddiswyddo.

Y Prif Weinidog Theresa May yn rhoi’r newyddion diweddaraf i Dŷ’r Cyffredin ar y trafodaethau i ymadael â’r UE, ac yn gwneud datganiad wedyn.

16 Tachwedd 2018 Stephen Barclay yn cael ei benodi’n Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
19 Tachwedd 2018 Y Prif Weinidog Theresa May yn traddodi araith i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), gan amlinellu’r canlyniadau ar ôl Brexit y mae’r llywodraeth yn disgwyl eu sicrhau.
21 Tachwedd 2018 Y Prif Weinidog Theresa May yn cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones er mwyn trafod trafodaethau Brexit. Wedyn, mae’n cyfarfod â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, i gwblhau’r cytundeb Brexit.
25 Tachwedd 2018 Y Cyngor Ewropeaidd yn cymeradwyo’r Cytundeb Ymadael a’r datganiad gwleidyddol ar y berthynas rhwng yr UE a’r DU yn y dyfodol.
26 Tachwedd 2018 Y Prif Weinidog Theresa May yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar gyfarfod y Cyngor Ewropeaidd i gwblhau trafodaethau’r DU i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
29 Tachwedd 2018 Keir Starmer, Ysgrifennydd Brexit yr Wrthblaid, yn awgrymu bod y llywodraeth yn atal gwybodaeth ar ôl iddi ddatgan y byddai’n cyhoeddi “datganiad llawn, rhesymegol ar y sefyllfa” ond nid y cyngor cyfreithiol llawn ar Brexit y mae wedi’i dderbyn.
30 Tachwedd 2018 Yn ystod yr Uwchgynhadledd G20 yn Buenos Aires, mae’r Prif Weinidog Theresa May yn dweud wrth arweinwyr y byd bod y cytundeb Brexit sydd wedi’i sicrhau â’r UE yn ‘gytundeb da’ ar gyfer yr economi fyd-eang.
3 Rhagfyr 2018 Y Twrnai Cyffredinol yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar sefyllfa gyfreithiol y Cytundeb Ymadael.
4 Rhagfyr 2018 Aelodau Seneddol yn dechrau pum diwrnod o ddadlau am y Cytundeb Ymadael.
5 Rhagfyr 2018 Y Llywodraeth yn cyhoeddi cyngor cyfreithiol terfynol, llawn y twrnai Cyffredinol i’r Cabinet ar y Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon a’i effaith ar y Cytundeb Ymadael.

Y Prif Weinidog Theresa May yn trafod cynnydd y trafodaethau â Taoiseach Iwerddon, yn enwedig y ‘backstop’ ac ymrwymiad y DU i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith.

Diwrnod 2 o ddadleuon Tŷ’r Cyffredin ar y Cytundeb Ymadael a’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.

6 Rhagfyr 2018 Y Prif Weinidog yn cyhoeddi sefydlu pum cyngor busnes newydd i roi cyngor ar sut i greu’r amodau busnes gorau yn y DU ar ôl Brexit.

Diwrnod 3 o ddadleuon Tŷ’r Cyffredin ar y Cytundeb Ymadael a’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.

10 Rhagfyr 2018 Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd (CJEU) yn cyhoeddi ei ddyfarniad yn achos Wightman. Mae’n datgan bod dirymu unochrog Erthygl 50 TEU yn hawl sofran i unrhyw Aelod-wladwriaeth, ar yr amod nad yw wedi ymrwymo i gytundeb ymadael yn ystod y cyfnod 2 flynedd a nodir yn Erthygl 50, neu yn ystod unrhyw ymestyniad i’r cyfnod hwn sydd wedi’i gytuno.

Y Prif Weinidog Theresa May yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ac yn cyhoeddi y bydd y Bleidlais Ystyrlon, a oedd i fod i gael ei chynnal yfory, yn cael ei gohirio.

Stephen Barclays (yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE) yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin mewn ymateb i ddyfarniad CJEU yn achos Erthygl 50 Wightman.

11 Rhagfyr 2018 Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, Yvette Cooper, yn cael caniatâd i ofyn Cwestiwn Brys am ddyletswydd y Llywodraeth o dan Adran 13 o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 os nad yw cytundeb wedi’i sicrhau erbyn 21 Ionawr 2019.

Wrth ymateb, meddai Is-weinidog Brexit, Robin Walker: “If Parliament were to reject the deal, the Government would be required to make a statement on our proposed next steps and table a motion in neutral terms on that statement”.

Tŷ’r Cyffredin yn cynnal Dadl Frys dan arweiniad yr Wrthblaid ar reolaeth y Llywodraeth o ddadl y bleidlais ystyrlon.

12 Rhagfyr 2018 Syr Graham Brady, Cadeirydd y Pwyllgor 1922, yn cyhoeddi bod digon o ASau Ceidwadol wedi gofyn am bleidlais o hyder yn Theresa May fel arweinydd y Ceidwadwyr.

Yn y bleidlais sy’n dilyn, mae Theresa May yn ennill y bleidlais trwy sicrhau 200 pleidlais yn erbyn 117.

13 Rhagfyr 2018 Mae’r Cyngor Ewropeaidd (yn cyfarfod fel UE27) yn mabwysiadu casgliadau ar Brexit, gan gynnwys rhagor o sicrwydd ynglŷn â’r ‘backstop’ yng Ngogledd Iwerddon.
14 Rhagfyr 2018 Y Prif Weinidog Theresa May yn cynnal cynhadledd i’r wasg ar ôl cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd.
17 Rhagfyr 2018 Y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yr SNP yn gwneud cais i gynnal Dadl Frys ar drafodaethau rhwng y DU a’r UE. Yn ddiweddarach, mae’r Llefarydd yn gwneud Datganiad yn cadarnhau y bydd dadl frys yn cael ei chynnal y diwrnod canlynol.

18 Rhagfyr 2018 Yr SNP yn arwain Dadl Frys yn Nhŷ’r Cyffredin ar y trafodaethau presennol ar Brexit rhwng y DU a’r UE.
19 Rhagfyr 2018 Keir Starmer, Ysgrifennydd Brexit yr Wrthblaid, yn sicrhau Dadl Frys ar baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb.
20 Rhagfyr 2018 Y DU yn dod i gytundeb â’r gwladwriaethau EEA EFTA a’r Swistir ynglŷn â materion ymadael, gan gynnwys hawliau dinasyddion ar ôl Brexit.

2019

3 Ionawr 2019 Y Llywodraeth yn cyhoeddi diweddariad o ganllawiau Brexit ar gyfer gwladolion y DU sy’n byw yn yr UE, os nad oes modd dod i gytundeb ymadael.
7 Ionawr 2019 Jeremy Corbyn yn cael caniatâd i ofyn Cwestiwn Brys yn Nhŷ’r Cyffredin ar newidiadau cyfreithiol i’r Cytundeb Ymadael â’r UE ac amserlen y Tŷ ar gyfer Pleidlais Ystyrlon.

Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn rhyddhau datganiad yn rhybuddio am effaith Brexit heb gytundeb.

8 Ionawr 2019 ASau yn trafod Cyfnod Adrodd a Thrydydd Darlleniad y Bil Cyllid (Rhif 3). ASau yn cymeradwyo gwelliant (303 pleidlais yn erbyn 296) sy’n cyfyngu ar bwerau ariannol y llywodraeth yn dilyn Brexit heb gytundeb.

Prif Weinidog Cymru yn lansio cronfa £50m i helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit.

9 Ionawr 2019 Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn caniatáu gwelliant i gynnig busnes gan Dominic Grieve, sy’n ennill o 308 pleidlais yn erbyn 297. Ar sail y gwelliant hwn, os yw’r llywodraeth yn colli’r ‘bleidlais ystyrlon’ ar 15 Ionawr 2019, bydd rhaid i’r Prif Weinidog gyflwyno ‘Cynllun B’ ar gyfer Brexit o fewn tri diwrnod.

Mae Tŷ’r Cyffredin yn cychwyn pum diwrnod o ddadleuon Brexit.

10 Ionawr 2019 Diwrnod 2 o’r dadleuon Brexit ar y Cytundeb Ymadael â’r UE.
11 Ionawr 2019 Diwrnod 3 o’r dadleuon Brexit ar y Cytundeb Ymadael â’r UE
14 Ionawr 2019 Y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar y sicrwydd a’r eglurdeb ychwanegol sydd wedi dod i law gan yr Undeb Ewropeaidd ynglŷn â phrotocol Gogledd Iwerddon.

Diwrnod 4 o’r dadleuon Brexit.

15 Ionawr 2019 Diwrnod 5 o’r dadleuon Brexit ar y Cytundeb Ymadael â’r UE.

Cynhelir y ‘Bleidlais Ystyrlon’, ac mae’r llywodraeth yn cael ei threchu, gan golli’r bleidlais o fwyafrif o 230 (gyda 202 yn pleidleisio dros gytundeb Brexit y Prif Weinidog a 432 yn pleidleisio yn erbyn).

Mae Arweinydd yr Wrthblaid yn cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth, a chynhelir pleidlais ar y cynnig am 7pm y diwrnod wedyn yn dilyn dadl.

16 Ionawr 2019 Tŷ’r Cyffredin yn pleidleisio ar gynnig o hyder yn y Llywodraeth.
21 Ionawr 2019 Ar ôl colli’r bleidlais ystyrlon ar ei chytundeb Brexit, dyma’r dyddiad olaf i’r Prif Weinidog ddychwelyd i Dŷ’r Cyffredin gyda ‘Chynllun Amgen’.

Mae Yvette Cooper yn cyflwyno Bil Aelod Preifat, Bil yr Undeb Ewropeaidd (Rhif 3) 2017-19. Byddai’r Bil yn creu mecanwaith cyfreithiol er mwyn galluogi Tŷ’r Cyffredin i gyfarwyddo’r Prif Weinidog i ofyn i’r Cyngor Ewropeaidd am ymestyn Erthygl 50 os nad oes penderfyniad yn cael ei gymeradwyo ar gyfer cytundeb ymadael â’r UE.

22 Ionawr 2019 Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn rhyddhau datganiad i’r wasg yn galw ar Lywodraeth y DU i ymwrthod yn llwyr â Brexit heb gytundeb.
23 Ionawr 2019 Llywodraeth Cymru yn lansio gwefan, Paratoi Cymru, sy’n darparu gwybodaeth am yr hyn sy’n debygol o ddigwydd os nad oes cytundeb.
24 Ionawr 2019 Rhyddhau Papur Briffio cyn y ddadl ar 28 a 29 Ionawr ar Ddibenion Adran 13 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
29 Ionawr 2019 ASau yn trafod cytundeb ‘Cynllun B’ y Prif Weinidog sydd wedyn yn cael ei gymeradwyo â 2 ddiwygiad.
7 Chwefror 2019 Y Prif Weinidog yn cyfarfod ag Arlywydd Juncker ym Mrwsel, i adolygu’r camau nesaf ym mhroses Brexit. Yr Arlywydd yn datgan na fydd 27 yr UE yn ailagor y Cytundeb Ymadael, ond yn mynegi ei fod yn agored i ychwanegu geiriau at y Datganiad Gwleidyddol.
12 Chwefror 2019 Y Prif Weinidog yn gwneud datganiad i Dŷ’r Cyffredin, a chadarnhau os na chaiff cytundeb ei negodi erbyn 26 Chwefror 2019, yna bydd y llywodraeth yn gwneud datganiad yr un diwrnod a chynnal trafodaeth ar gynnig y gellir ei wella ar 27 Chwefror 2019.

Datganiad y Prif Weinidog yn cael ei ailadrodd a’i drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi.

13 Chwefror 2019 Dr Liam Fox AS yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, yn ymateb i gwestiwn brys ynghylch y cynnydd a wnaed wrth ailadrodd y cytundebau masnach rhwng y DU a’r gwledydd hynny y mae gan yr UE gytundeb masnach â nhw.

Aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn trafod trafodaethau Brexit parhaus y llywodraeth.

Y Farwnes Smith o Basildon, Arweinydd Yr Wrthblaid yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn cynnig cynnig yn galw ar y llywodraeth i gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau nad yw’r DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth heb gytundeb sydd wedi ei gadarnhau’n llawn gan ddau Dŷ Senedd y DU, a bod – cyn diwedd Chwefror 2019 – cynigion yn cael eu cynnig sy’n cyflawni’r darpariaethau o dan adrannau 13(1)(b) a (c) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Caiff y cynnig ei dderbyn gyda 155 o blaid a 69 yn erbyn.

14 Chwefror 2019 Tŷ’r Cyffredin yn pleidleisio yn erbyn datganiad yn gofyn am gefnogaeth barhaus, a thri gwelliant i’r cynnig gyda 303 o bleidleisiau a 258 o blaid.
18 Chwefror 2019 Y Grŵp Annibynnol yn cael ei ffurfio.

Cyfarfod cyntaf Y Grŵp Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn cael ei gynnal.

20 Chwefror 2019 Prif Weinidog y DU a’r Arlywydd Junker yn cyfarfod i drafod y backstop a chytuno i osgoi ffin galed yn Iwerddon.
26 Chwefror 2019 Y Prif Weinidog yn addo rhoi pleidlais i ASau ar ddiystyru Brexit heb gytundeb neu oedi Brexit petai hi’n colli’r ail ‘bleidlais ystyrlon’ y mis nesaf. Caiff ei datganiad ei ailadrodd a’i drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ddiweddarach.
6 Mawrth 2019 Tŷ’r Arglwyddi yn trafod y Bil Masnach ac yn pleidleisio yn erbyn gwelliant a fyddai’n gorfodi Prydain i geisio aros mewn undeb tollau gyda’r UE.
11 Mawrth 2019 Y Prif Weinidog yn cyfarfod â Jean-Claude Juncker a Michel Barnier, ac wedyn yn cyhoeddi datganiad ei bod wedi sicrhau newidiadau wedi eu rhwymo mewn cyfraith i’w chytundeb Brexit.
12 Mawrth 2019 Y Prif Weinidog yn agor trafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin ar Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

Cynhelir pleidlais ‘Pleidlais Ystyrlon 2’, gyda 242 yn pleidleisio o blaid cytundeb Brexit y Prif Weinidog a 391 yn erbyn.

Y Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd yn agor y ddadl y diwrnod canlynol ar ba un ai tynnu’r dewis o ‘ddim cytundeb’ oddi ar y bwrdd negodi neu beidio.

13 Mawrth 2019 ASau yn trafod Ymadawiad y DU â’r UE ac yn pleidleisio i ddiystyru ‘Brexit heb gytundeb’.

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn cyhoeddi dyraniad ychwanegol o £1.2 miliwn i helpu awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer Brexit.

14 Mawrth 2019 ASau yn trafod Ymadawiad y DU â’r UE ac yn pleidleisio i geisio caniatâd gan yr UE i estyn Erthygl 50.

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bod £1.7 miliwn ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer 2019-20 i alluogi Busnes Cymru i gadw Cronfa wrthsefyll Brexit yn agored.

20 Mawrth 2019 Y Prif Weinidog yn ysgrifennu at Donald Tusk Llywydd Y Cyngor Ewropeaidd, yn gofyn am estyniad i Erthygl 50 tan 30 Mehefin 2019.

Tŷ’r Cyffredin yn cynnal dadl frys dan arweiniad yr wrthblaid ar estyn Erthygl 50.

21 Mawrth 2019 Y Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod, ac arweinwyr 27 yr UE yn cytuno i roi estyniad yn cynnwys dau ddyddiad posibl: 22 Mai 2019, petai ASau yn cymeradwyo’r Cytundeb Ymadael yr wythnos nesaf; neu 12 Ebrill 2019, pe na bai Tŷ’r Cyffredin yn cymeradwyo’r Cytundeb Ymadael.
22 Mawrth 2019 Cynrychiolydd y DU ar gyfer yr UE yn ysgrifennu at Donald Tusk, Llywydd Y Cyngor Ewropeaidd yn cadarnhau’r cytundeb i estyn Erthygl 50.
27 Mawrth 2019 ŷ’r Cyffredin yn trafod ac yn pleidleisio ar wyth pleidlais ddangosol, mewn ymgais i ddod o hyd i gynllun Brexit sy’n cael cefnogaeth mwyafrif yr ASau. Trechir pob un dewis.
29 Mawrth 2019 Y Prif Weinidog yn colli ‘Pleidlais Ystyrlon 3’.
1 Ebrill 2019 Ar ail ddiwrnod y pleidleisiau dangosol, trafododd ASau y pedwar dewis a methu â chytuno ar unrhyw un ohonynt.
2 Ebrill 2019 Y Prif Weinidog yn cyhoeddi y bydd yn gofyn am estyniad arall i broses Erthygl 50 ac yn cynnig cyfarfod ag Arweinydd yr Wrthblaid, i gwblhau cytundeb a fydd yn cael cefnogaeth ASau.

Y Grŵp Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn cyfarfod.

Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn darparu’r newyddion diweddaraf am eu paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb. Petai ymadael heb gytundeb yn digwydd, gelwir y gwasanaeth newydd e-hysbysu’r DU sy’n disodli Cyfnodolyn Swyddogol yr UE yn ‘Find a tender’, y gellir cael gafael arno drwy GwerthwchiGymru.

5 Ebrill 2019 Theresa May yn ysgrifennu’n ffurfiol at Donald Tusk, yn gofyn am estyniad arall i broses Erthygl 50 tan ddiwedd mis Mehefin 2019.
10 Ebrill 2019 Y Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod. Y DU a 27 yr UE yn cytuno i estyn Erthygl 50 tan 31 Hydref 2019.

Llywydd y Cyngor yn rhybuddio’r DU i “beidio â gwastraffu’r amser hwn”.

11 Ebrill 2019 Cynrychiolydd Parhaol y DU ar gyfer yr UE yn ysgrifennu at Y Cyngor Ewropeaidd yn cadarnhau’r estyniad i Erthygl 50.
30 Ebrill 2019 Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, yn rhoi’r Newyddion diweddaraf am Drafodaethau Brexit
1 Mai 2019 Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig ar Brexit a’n Moroedd, a lansio ymgynghoriad ar ddyfodol polisi pysgodfeydd y DU. Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 21 Awst 2019.
2 Mai 2019 Chris Greyling, Ysgrifennydd Trafnidiaeth, yn cyhoeddi datganiad ar y paratoadau pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd, ar gyfer gwasanaethau fferi a nwyddau ar draws y sianel.
21 Mai 2019 Y Prif Weinidog yn dadlennu ei chytundeb Brexit newydd sy’n cynnwys cynnig deg – pwynt i ASau:

Un – bydd y Llywodraeth yn ceisio cwblhau Trefniadau Amgen yn lle’r backstop erbyn Rhagfyr 2020, fel na fydd angen ei ddefnyddio byth.

Dau – Ymrwymiad y bydd y Llywodraeth yn sicrhau y bydd Prydain Fawr yn parhau i gyfochri â Gogledd Iwerddon petai’r backstop yn dod i rym.

Tri – bydd rhaid i amcanion negodi a’r cytuniadau terfynol ar gyfer ein perthynas â’r UE yn y dyfodol gael eu cymeradwyo gan ASau.

Pedwar – Bil Hawliau Gweithwyr newydd sy’n gwarantu na fydd hawliau gweithwyr yn llai ffafriol nag ydynt yn yr UE.

Pump – ni fydd newid yn lefel amddiffyn amgylcheddol pan fyddwn yn ymadael â’r UE.

Chwech – bydd y DU yn ceisio cael masnachu nwyddau mor llyfn â phosib gyda’r UE er y byddwn y tu allan i’r farchnad sengl ac wedi dod â rhyddid i symud i ben.

Saith – byddwn yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf o ran rheolau’r UE ar gyfer nwyddau a chynnyrch bwyd-amaeth sy’n berthnasol i archwiliadau ar y ffin er mwyn diogelu’r miloedd o swyddi sy’n dibynnu ar gadwyni cyflenwi ‘mewn union bryd’.

Wyth – bydd y Llywodraeth yn cyflwyno cyfaddawd tollau i ASau ei hystyried er mwyn datrys yr anghytundeb.

Naw – bydd pleidlais i ASau ar ba un a ddylai’r cytundeb fod yn destun refferendwm neu beidio.

A deg – bydd dyletswydd gyfreithiol i sicrhau newidiadau i’r datganiad gwleidyddol i adlewyrchu’r cytundeb newydd hwn.

22 Mai 2019 Theresa May yn rhoi datganiad i Dŷ’r Cyffredin ar ei chytundeb Brexit newydd: Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
23 Mai 2019 Y DU yn pleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop.
24 Mai 2019 Theresa May yn cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU.
26 Mai 2019 Cyhoeddir canlyniadau etholiadau Senedd Ewrop.
4 Mehefin 2019 Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Crynodeb o Ymatebion i Ymgynghoriad Brexit a’n Tir.

Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit yn rhoi’r Newyddion Diweddaraf am Brexit.

16 Mehefin 2019 ASau yn trafod cynnig ar Ymadael â’r UE: Busnes y Tŷ, symudiad trawsbleidiol wedi ei gynllunio i roi cyfle i ASau basio deddfwriaeth â’r bwriad i atal Brexit heb gytundeb. Gwrthodwyd y cynnig.

Y Comisiwn Ewropeaidd yn cyhoeddi dogfen yn amlinellu’r paratoadau a’r mesurau wrth gefn rhag ofn i’r DU ymadael â’r UE heb gytundeb.

17 Mehefin 2019 Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit yn traddodi araith Brexit a Datganoli yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru.
18 Mehefin 2019 Llywodraeth Cymru, wrth ymateb i Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn cytuno i sefydlu pedwar is-grŵp arbenigol annibynnol yn gwahodd ceisiadau ar gyfer aelodaeth. Y pedwar grŵp fydd:

  1. Is-grŵp Y Fframwaith Cenedlaethol
  2. Is-grŵp Ymchwil, Monitro a Gwerthuso
  3. Is-grŵp Gweithredu / Cyflawni
  4. Is-grŵp gwaith rhyngwladol / trawsffiniol

Bydd y grwpiau yn helpu i lywio fframwaith buddsoddi newydd a bydd yn dechrau gweithredu yn gynnar yn 2021.

24 Mehefin 2019 Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn rhoi’r newyddion diweddaraf am ei baratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb posib.
16 Gorffennaf 2019 Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit yn rhoi datganiad ar Parodrwydd am Brexit
18 Gorffennaf 2019 Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, yn rhoi Y Diweddaraf Ynghylch Dyfodol Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit

Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn cyfarfod.

23 Gorffennaf 2019 Boris Johnson yn dod yn Brif Weinidog ar ôl cael ei ethol yn Arweinydd y Blaid Geidwadol.
25 Gorffennaf 2019 Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru a Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban yn ysgrifennu ar y cyd at Brif Weinidog newydd y DU yn gofyn iddo ddiystyru Brexit heb gytundeb ar unwaith, ac i lywodraeth y DU baratoi ar gyfer ail refferendwm yr UE.

Y Prif Weinidog Boris Johnson yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar flaenoriaethau ei Lywodraeth newydd, gan ymrwymo i’r dyddiad 31 Hydref ar gyfer Brexit a gwrthod diystyru’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb.

31 Gorffennaf 2019 Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn cyfarfod â’r Prif Weinidog Boris Johnson a dweud wrtho y bydd Brexit yn drychinebus i Gymru.
1 Awst 2019 Y llywodraeth yn cyhoeddi cyllid ychwanegol o £2.1 biliwn i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, gan ddyblu’r swm a neilltuwyd yn gynharach ar gyfer y flwyddyn.
1 Medi 2019 Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i ysgolion yng Nghymru ar baratoi ar gyfer allanfa UE dim bargen.
31 Hydref 2019 Diwrnod Brexit: y dyddiad a bennwyd i’r DU ymadael â’r UE

Dyddiadau yn y dyfodol i’w nodi

31 Rhagfyr 2020 Daw’r cyfnod pontio i ben (oni bai y gwneir cytundeb i estyn y cyfnod)
1 Ionawr 2021 Bydd y cytundeb ar gysylltiadau yn y dyfodol yn dod i rym (oni bai y gwneir cytundeb i estyn y cyfnod pontio).