Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Astudiaeth Achos 1

Pontydd i Waith 2 – Mae’r prosiect hwn wedi’i orffen

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Pontydd i Waith 2 yn brosiect rhanbarthol sy’n cefnogi pobl sy’n economaidd anweithgar a phobl ddi-waith yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tydfil a Thorfaen. Nod y prosiect yw cynnig cefnogaeth er mwyn cael cyflogaeth â thal, sy’n gynaliadwy. Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys mentora, datblygu sgiliau, cyflwyno cymwysterau achrededig a lleoliadau gwirfoddoli.

Nod y prosiect yw:

  • Cefnogi pobl i gael cyflogaeth gynaliadwy â thâl.
  • Darparu hyfforddiant sgiliau a chymwysterau achrededig.
  • Gosod pobl mewn lleoliadau gwirfoddol a lleoliadau gwaith priodol

Bydd aelodau’r tîm prosiect yn helpu cyfranogwyr i ddeall eu rhwystrau i gyflogaeth ac yn cefnogi pobl ar sail unigol er mwyn goresgyn eu rhwystrau.

  • Hyfforddiant sgiliau, cymwysterau a chyrsiau galwedigaethol am ddim.
  • Cymorth gyda chwilio am swyddi, ysgrifennu CV a datblygu sgiliau cyfweliad.
  • Lleoliadau gwirfoddoli a gweithio
  • Cymorth ychwanegol ar gyfer y rhai hynny sy’n wynebau rhwystrau rhag gweithio, megis cyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio, anghenion gofal plant a chludiant.

Cwmpas daearyddol

Gweithredir y prosiect mewn ardaloedd lle nad yw Cymunedau yn Gyntaf yn gweithredu, yn yr awdurdodau lleol canlynol yn ne-ddwyrain Cymru: Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tydfil, Torfaen

Meini prawf cymhwyster hanfodol

  • 25 oed neu hŷn.
  • Heb fod yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf
  • Wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor neu’n economaidd anweithgar.

Targedau penodol

  • 3155 Ymgysylltiad â chyfranogwyr
  • 1621 Ennill Cymhwyster
  • 1196 Unigolion sy’n cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith/gwirfoddoli
  • 694 Unigolion sy’n llwyddo i gael gwaith
  • 515 Unigolion sy’n chwilio am swyddi ar ôl gorffen y prosiect

Manylion cyswllt

Enw: Matthew Davies
E-bost: Matthew.Davies@torfaen.gov.uk
Rhif ffôn: 01633 647745
Cyfeiriad: Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, The Highway, Croesyceiliog, Torfaen NP44 2HF
Gwefan: Website
Facebook: Facebook

Manylion ychwanegol

Ardal ddarpariaeth yr awdurdodau lleol ac enw cyswllt

Pen-y-bont ar Ogwr – Gemma Hayne
Blaenau Gwent – Claire Gough
Caerphilly – Elizabeth Goodwin
Merthyr Tydfil – Deb Ryan-Newton
Torfaen – Angela Shirlow