Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Caerau Local Heat Scheme

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Cynllun Gwresogi Lleol Caerau yn gynllun arddangos a fydd yn darparu gwres carbon isel i fwy na 700 o eiddo domestig ac ysgol gynradd yng Nghaerau. Dyma ei nod:

  • Dangos potensial buddsoddi a graddfa cynllun ynni adnewyddadwy lleol arloesol.
  • Darparu diogelwch ynni a chadernid gwell i drigolion a busnesau.
  • Rhoi sylw i dlodi tanwydd ac anghydraddoldeb iechyd ymhlith y trigolion.
  • Cefnogi datblygu diwydiant ynni newydd a chreu cyfleoedd i fusnesau’r gadwyn gyflenwi leol.
  • Datblygu lefelau sgiliau ac addysg gymunedol yn yr agenda carbon isel.

Model Cyflawni

Bydd y Prosiect yn defnyddio’r seilwaith a’r systemau cefnogi angenrheidiol i ddefnyddio adnodd geo-thermal lleol (dŵr mwynglawdd).

Mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan Raglen Cyllid Buddsoddi Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd 2014–2020 drwy Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, Blaenoriaeth 3 (Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni). Mae’n bodloni Amcan Strategol 3.2 – Cynyddu nifer y cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fechan sy’n hyfyw yn fasnachol.

Bydd Partneriaeth Ynni Gymunedol (llywodraethu) a Chwmni Gwasanaeth Ynni (ESCO – darparu) sydd wedi’u caffael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) yn rheoli’r ddarpariaeth. Bydd rheolaeth strategol y prosiect, y mewnbwn arloesi a’r llywodraethu lefel uchel yn cael eu harwain gan CBSP mewn partneriaeth â’r corff cenedlaethol: Energy Systems Catapult – Rhaglen SSH.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect yn benodol i Ben-y-bont ar Ogwr.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

  • Tlodi tanwydd difrifol
  • Seiliedig ar ardal
  • Cartrefi y mae’r perchnogion yn byw ynddynt yn bennaf

Targedau penodol

  • Ynni adnewyddadwy: 990 KW erbyn blwyddyn 5 a 2,988 KW erbyn blwyddyn 10 o ynni newydd wedi’i osod.
  • Lleihad carbon: 588 CO2e gostyngiad ym mlwyddyn 5.
  • Cyfleoedd datblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau lleol: gwerth £7.753m i’r gadwyn gyflenwi drwy gaffael.
  • Cyflogaeth leol mewn technoleg uchel, gwerth uchel, diwydiant cyflogau uchel: 8 swydd wedi’u creu.
  • Potensial am gynhyrchu incwm ac arbedion ariannol: 15% mewn biliau cartrefi

Manylion cyswllt

Enw: Mike Jenkins
E-bost: Michael.jenkins@bridgend.gov.uk
Rhif ffôn: 01656 643179
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB

Gwefan: Website

Cynnydd

Mae graddfa’r adnodd o dan y ddaear wedi cael ei phrofi drwy ddrilio twll turio. Mae gwaith ymgysylltu cymunedol wedi digwydd i gynnal a rhoi gwybodaeth i’r gymuned. Mae’r prosiect wedi bod yn destun ymarfer ailbroffilio a bu oedi gydag ef yn ystod hanner olaf 2019. Mae Nordic Heat wedi cael y contract yn awr i gynhyrchu Cynllun Darparu Prosiect Manwl, i edrych ymhellach ar yr adnodd o dan y ddaear ac i ddatblygu’r gwaith technolegol-economaidd sy’n cael ei gynnal gan Challoch Energy. Mae tîm cyfreithiol wedi’i gaffael hefyd i ddatblygu’r SPV.