Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gwerthuso prosiect

Gwerthusiad Canol Tymor ar gyfer CEMET GCC – dim ar gael yn Gymraeg

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

CEMET – Canolfan Rhagoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol

Disgrifiad o’r prosiect

Mae CEMET yn ymgysylltu â BBaChau yn rhanbarth gogledd a gorllewin Cymru a’r Cymoedd er mwyn cynnal prosiectau gwaith ymchwil a datblygu ar y cyd  i greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Mae gan y rhaglen dîm ymchwilio a datblygu mewnol pwrpasol, sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd technoleg newydd gan gynnwys Realiti Rhithiol, Realiti Estynedig, Realiti Cymysg, Deallusrwydd Artiffisial, Technoleg Gemau Addysgol, Rhyngrwyd Pethau a Blockchain. Cyflawnir pob prosiect drwy ddefnyddio’r fframwaith Scrum, gan ymgorffori trosglwyddiad gwybodaeth dwyffordd yn gyson.

Model Cyflawni

Cam 1. Diagnosteg Busnes
Mae cam cyntaf CEMET yn cynnwys asesiad o bob un o’r cwmnïau a ddatganodd diddordeb yn y rhaglen i sicrhau eu bod yn gymwys, yn gredadwy ac yn gymeradwy a bod eu syniad yn ddichonadwy.

Cam 2. Gwaith Ymchwil a Datblygu ar y cyd
Mae’r broses ymchwilio a datblygu ar y cyd yn dechrau yn ystod ail gam y rhaglen. Cyflawnir pob prosiect ymchwil drwy’r fframwaith Scrum ac mae’n ymgorffori cyfnewid gwybodaeth ddwyffordd rhwng CEMET a’r BBaCh.

Cam 3. Llwybr i’r Farchnad
Mae’r cam olaf yn dod â’r cydweithrediad i ddiweddglo trefnus, gan sicrhau bod y prosesau Ymchwil a Datblygu, trosglwyddo gwybodaeth a mapio llwybrau wedi eu cwblhau.

Cwmpas daearyddol

Nydd y prosiect o fudd i bob awdurdod lleol ar draws ardal gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

  • Mae’n rhaid i’r cwmni gael ei leoli yn rhanbarth y Gorllewin a’r Cymoedd
  • I fod yn gymwys rhaid bod yn fusnes bach neu ganolig  (BBaCh)

Targedau penodol

Mae CEMET yn ymgymryd â phrosiectau Ymchwil a Datblygu, ar y cyd â diwydiant, gan gefnogi busnesau i gyflwyno cynhyrchion sy’n newydd i’r farchnad neu sy’n newydd i’r cwmni. Ynghyd â’r targedau penodol hyn mae CEMET yn chwilio am gleientiaid sydd yn y sefyllfa i droi’r gwaith ymchwil a datblygu a wneir yn gyfalaf, er mwyn cael effaith gadarnhaol ar economi Cymru.

Manylion cyswllt

Enw: Matthew Smith
E-bost: Matthew.smith@southwales.ac.uk
Rhif ffôn: 01443 483490
Cyfeiriad: Prifysgol De Cymru, Bloc Johnstown – Ystafell J343, Campws Trefforest, CF37 1DL
Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Cynnydd

Mae’r tabl isod yn dangos cynnydd ar gyfer gweithrediad Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (GCC) hyd at ddiwedd Mehefin 2021.

Targedau cynllun busnes Cronnus GCC hyd at ddiwedd Mehefin 2021Danfon cronnus yn GCC hyd at ddiwedd Mehefin 2021Amrywiad
Mentrau sy'n derbyn cefnogaeth anariannol7675-1
Partneriaid yn cydweithredu mewn prosiectau ymchwil76848
Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r cwmni38424
Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r farchnad1212-
Cyllid cyfatebol buddsoddiad preifat£389,277£449,729.17£60,452.17

Mae’r tabl isod yn dangos cynnydd ar gyfer gweithrediad Dwyrain Cymru (DC) hyd at ddiwedd Mehefin 2021.

Targedau cynllun busnes cronnus DC hyd at ddiwedd Mehefin Danfon cronnus yn DC hyd at ddiwedd Mehefin 2021Amrywiad
Mentrau sy'n derbyn cefnogaeth anariannol21232
Partneriaid yn cydweithredu mewn prosiectau ymchwil24262
Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r cwmni12131
Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r farchnad242
Cyllid cyfatebol buddsoddiad preifat£185,816£240,921.67£55,105.67