Mae Cymunedau am Waith yn rhaglen gyflogadwyedd a gynhelir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sy’n darparu gwasanaethau cymorth cyflogaeth mewn 52 o ardaloedd clwstwr Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gynyddu ‘cyflogadwyedd’ ‘oedolion’ sy’n economaidd anweithgar ac oedolion sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor trwy gynnig mentora dwys a chyngor cyflogaeth arbenigol er mwyn goresgyn rhwystrau rhag cael cyflogaeth.
Mae Mentoriaid Cyflogaeth Oedolion yn canolbwyntio ar leihau nifer y bobl >25 oed, sy’n byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor neu sy’n economaidd anweithgar (nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant) sydd â rhwystrau cymhleth rhag cael gwaith. Mae cynghorwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau yn canolbwyntio ar gynorthwyo cyfranogwyr sy’n ‘barod am waith’ i mewn i gyflogaeth gan gynnwys;
Mae rhaglen Cymunedau am Waith yn cynorthwyo cyfranogwyr i ystyried cyfleoedd am gyflogaeth, gwella sgiliau chwilio am swyddi a chaffael sgiliau meddal a galwedigaethol sy’n bodloni gofynion y farchnad lafur ac sy’n helpu unigolion i chwilio am swydd a’i chadw.
Mae Cynghorwyr Cyflogaeth Oedolion a Chynghorwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig:
Gweithredir y prosiect yn ardaloedd Awdurdodau Lleol Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru
Mae’n rhaid bod y cyfranogwyr yn byw mewn ardal clwstwr Cymunedau yn Gyntaf ac wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor (25 oed neu’n hŷn) sydd â rhwystrau cymhleth sy’n eu hatal rhag cael gwaith neu sy’n economaidd anweithgar (25 oed neu’n hŷn), nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant ac sydd â rhwystrau cymhleth sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Mae ‘wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor’ yn golygu y rhai hynny sydd wedi bod yn ddi-waith am fwy na 12 mis ac sydd ag un neu fwy o’r canlynol:
Mae rhwystrau cymhleth yn cynnwys:
Mae deilliannau’r Mentor Cyflogaeth i Oedolion a Chynghorwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnwys y canlynol;