Mehefin 2016: | Refferendwm ar aelodaeth o’r UE. Yn y DU, mae 51.9% o bobl yn pleidleisio i ymadael â’r UE, a 48.1% yn pleidleisio i aros. Yng Nghymru, mae 52.5% o bobl yn pleidleisio i ymadael â’r UE. |
29 Mawrth 2016: | Mae’r DU yn gweithredu Erthygl 50 y Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd. |
19 Mehefin 2017: | Mae trafodaethau Brexit yn dechrau rhwng y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd. Bydd angen cymeradwyaeth o leiaf 20 gwlad gyda 65% o’r boblogaeth ar gyfer unrhyw gytundeb. |
25 Tachwedd 2018: | Y Cyngor Ewropeaidd yn cymeradwyo’r Cytundeb Ymadael. |
15 Ionawr 2019: | Y Prif Weinidog yn colli’r ‘Bleidlais Ystyrlon’ ac Arweinydd yr Wrthblaid yn cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth. |
18 Chwefror 2019:
|
Cyfarfod cyntaf Grŵp Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru. |
10 Ebrill 2019:
|
Y Cyngor Ewropeaidd yn cytuno i estyn Erthygl 50 tan 31 Hydref 2019. |
23 Gorffennaf 2019: | Boris Johnson yn dod yn Brif Weinidog gan ymrwymo i Brexit ar 31 Hydref |
2019 |
|
31 Hydref: | ‘Diwrnod Brexit’ – pryd y mae’r DU i fod i ymadael â’r UE, heb gytundeb ar hyn o bryd.
Ceir tair sefyllfa arall posibl ar gyfer y dyddiad hwn:
Os ceir cytundeb, bydd cyfnod pontio o ddwy flynedd yn dilyn tan fis Rhagfyr 2020 pan fydd rhai rheolau’r UE yn parhau, ond gall y DU drafod ei chytundebau masnach ei hun. Os digwydd Brexit heb gytundeb, ni fydd cyfnod pontio, bydd y DU yn dychwelyd at reolau masnach Sefydliad Masnach y Byd, a bydd y broblem ynghylch y ffin rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn parhau heb ei datrys. |
2020 |
|
31 Rhagfyr: | Dyddiad olaf y cyfnod pontio posibl (oni bai y ceir cytundeb i estyn y cyfnod). |
2021 |
|
1 Ionawr: | Gallai cytundeb ynghylch y berthynas ar gyfer y dyfodol ddod i rym (oni bai y ceir cytundeb i estyn y cyfnod pontio). |
I gael gwybodaeth lawn am ddigwyddiadau Brexit allweddol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac i gael dolenni i ddogfennau allweddol, gweler ein tudalen Brexit – Datblygiadau Allweddol.