Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd

Mae rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, neu raglenni “Rhyngranbarthol” yn hyrwyddo cydweithrediad rhwng aelod-wladwriaethau. Eu nod yw mynd i’r afael â heriau cyffredin a chefnogi gweithrediad effeithiol y farchnad sengl.

Gan fod y rhaglenni yn gweithio ar draws ffiniau, mae’n rhaid i brosiectau gynnwys sefydliadau o fwy nag un aelod-wladwriaeth. Bydd y prosiectau gorau yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau gwahanol o bob rhan o ardal y rhaglen, yn ogystal â chynllun eglur i ledaenu canlyniadau eu prosiect yn ehangach. Caiff y prosiectau eu cydgysylltu gan ‘bartner arweiniol’ sy’n sicrhau bod partneriaeth y prosiect yn gweithredu’n effeithiol.

Mae gan bob rhaglen drefniadau a gofynion ychydig yn wahanol. Nodir y rhai hynny sydd ar gael i sefydliadau yn ne-ddwyrain Cymru isod. I gael rhagor o wybodaeth am bob rhaglen, ewch i’r wefan trwy’r dolenni a roddir.

Rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop: Mae hon yn annog sefydliadau i gydweithredu er mwyn gwella’r gwaith a gaiff ei wneud o fewn y rhanbarthau o ran datblygu economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a thiriogaethol. Mae’r rhaglen yn cysylltu’r DU (gan gynnwys Cymru gyfan) ag Iwerddon, Gwlad Belg, Lwcsembwrg a rhannau o Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd a’r Swistir.

Rhaglen Ardal yr Iwerydd: Nod y rhaglen hon yw datrys heriau rhanbarthol ym meysydd arloesi, defnyddio adnoddau’n effeithlon, yr amgylchedd ac asedau diwylliannol, cefnogi gwaith datblygu rhanbarthol a thwf cynaliadwy. Mae’r rhaglen yn cysylltu rhanbarthau arfordirol yr Iwerydd, sy’n cynnwys Iwerddon, rhannau o Ffrainc, Sbaen, gan gynnwys yr Ynysoedd Dedwydd, a Phortiwgal, gan gynnwys ynysoedd Azores a Madeira, ynghyd â rhannau o’r DU, gan gynnwys Cymru gyfan.

Interreg Ewrop: Mae hon yn cwmpasu pob un o 28 o wladwriaethau’r UE, a’r Swistir a Norwy. Ei nod yw cyfnewid polisïau ar draws rhanbarthau yr UE.

INTERACT: Hon yw’r canolbwynt ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ac arfer gorau ymysg rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd.

URBACT: Mae hon yn hyrwyddo datblygu trefol cynaliadwy ac yn galluogi dinasoedd Ewropeaidd yn y 28 o aelod-wladwriaethau, a’r Swistir a Norwy, i gydweithio i ateb heriau trefol.

ESPON 2020: (Rhwydwaith Arsylwi Ewropeaidd ar gyfer Datblygu a Chydlyniant Tiriogaethol). Mae hon yn cwmpasu pob un o 28 o wladwriaethau’r UE a Gwlad yr Iâ, Norwy a’r Swistir.