Bydd Astudiaethau Achos ar gael ar wefan GO Wales yn fuan.
Mae’r rhaglen wedi’i thargedu at fyfyrwyr ar gyrsiau Addysg Uwch yng Nghymru sydd wedi wynebu rhwystrau i gael Addysg Uwch neu brofiad gwaith ac sydd yn y perygl mwyaf o fod yn bobl nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET), pan fyddant yn gadael Addysg Uwch. Nod y rhaglen yw cynyddu cyflogadwyedd y myfyrwyr drwy brofiad gwaith pwrpasol gyda chyflogwyr a thrwy gymorth cyflogadwyedd. Darperir y rhaglen gan brifysgolion Cymru a’i rheoli gan CCAUC.
Mae cynghorwyr yn cefnogi cyfranogwyr dros gyfnod o amser i nodi a diwallu eu hanghenion o ran cyflogadwyedd, gan weithio gyda chyflogwyr i greu profiad gwaith hyblyg a teilwredig i’r cyfranogwyr. Mae’r cynghorwyr yn helpu’r cyfranogwyr i baratoi ar gyfer eu profiad gwaith, dysgu oddi wrtho a phenderfynu ar eu camau nesaf i gynyddu eu posibiliadau o gael cyflogaeth ar ôl iddyn nhw adael Addysg Uwch.
Mae’r prosiect yn gweithio ym mhob ardal awdurdod lleol ledled Cymru.
ac un neu fwy o’r canlynol:
Ardal ddarpariaeth yr awdurdodau lleol ac e-bost cyswllt
Prifysgol Aberystwyth: gowales@aber.ac.uk
Prifysgol Bangor: gowales@bangor.ac.uk
Prifysgol Metropolitan Caerdydd: gowales@cardiffmet.ac.uk
Prifysgol Caerdydd: gowales@cardiff.ac.uk
Y Brifysgol Agored yng Nghymru: gowales@open.ac.uk
Prifysgol Abertawe: gowales@swansea.ac.uk
Prifysgol De Cymru: gowales@southwales.ac.uk
Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant: gowales@uwtsd.ac.uk
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: gowales@glyndwr.ac.uk
|
Gorllewin Cymru a’r Cymoedd |
Dwyrain Cymru |
||
Cyflawnwyd diwedd Medi 2019 | Targed ar gyfer Ionawr 2022 | Cyflawnwyd diwedd Medi 2019 | Targed ar gyfer Ionawr 2022 | |
Cyfranogwyr wedi’u derbyn | 765 | 1,380 | 410 | 775 |
Cyfranogwyr yn ymgymryd â phrofiad gwaith | 515 | 1,175 | 295 | 665 |
Cyfranogwyr â llai o risg o beidio â bod mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant (NEET) | 375 | 1,115 | 235 | 630 |