Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Hybiau Menter Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad o’r prosiect

Byddwn yn gweithio i greu unedau busnes newydd fel ymateb i dystiolaeth o alw yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr am ofod menter bach/micro. Pan wneir cais, mae disgwyl i’r unedau ddarparu gofod swyddfa a diwydiannol ysgafn ar dri safle gwahanol yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr gan greu swyddi a chyfleoedd twf.

Mae gan y gwaith hwn gyfle i dargedu cymunedau difreintiedig a darparu cefnogaeth i amrywiaeth o sectorau economaidd drwy ddarparu’r canlynol:

  • Cefnogaeth i sefydlu busnesau newydd
  • Cefnogaeth i ddatblygu cadernid ym mlynyddoedd cynnar y masnachu
  • Mynediad i farchnadoedd a chadwyni cyflenwi newydd
  • Darparu eiddo busnes ar gyfer busnesau newydd

Model Cyflawni

Bydd dull o weithredu ledled y Sir yn cael ei fabwysiadu mewn partneriaeth â Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr ac amrywiaeth o randdeiliaid lleol i gefnogi datblygu safleoedd ac eiddo busnes ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fydd y prif fuddiolwr.

Bydd y gwaith yn sicrhau bod cyswllt cyfeirio’n cael ei sefydlu gyda rhaglenni sgiliau a chyflogadwyedd ESF. Bydd y gwaith yn sicrhau bod cyfleoedd gwaith a chyfleoedd i sicrhau mynediad i recriwtio a hyfforddiant wedi’u targedu’n cael eu cynnig yn lleol i’r rhai sy’n chwilio am gyflogaeth.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect yn benodol i Ben-y-bont ar Ogwr.

Targedau penodol

  • Swyddi a sicrhawyd – 115
  • BBaCh a sicrhawyd – 35
  • Eiddo a grëwyd neu a adnewyddwyd – 2,680 metr sgwâr

Manylion cyswllt

Enw: Ieuan Sherwood
E-bost: Ieuan.sherwood@bridgend.gov.uk
Rhif ffôn: 01656 815333
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB

Gwefan: Website

Cynnydd

Mae’r Cynlluniau Cyfathrebu a Monitro wedi cael eu cyflwyno i WEFO. Y cais cynllunio i gael ei baratoi unwaith y bydd opsiwn darparu safle A wedi cael ei ddewis.

Ymweliadau astudio wedi’u cynnal ym Merthyr a Thredomen yn ddiweddar i edrych ar ddulliau tebyg o weithredu. Mae sylwadau pawb oedd yn bresennol yn cael eu rhoi at ei gilydd fel sail i ystyriaethau ar gyfer opsiynau prosiect.

Mae’r gwaith draenio o amgylch safle A yn agos at gael ei gwblhau. Mae’r gwaith gyda’r penseiri ar y gweill. Cyn-gais SuDS wedi’i gwblhau a hefyd arolygon ar goed ar gyfer pob safle, arolwg CCTV, arolygon ystlumod ac arolwg asbestos ar gyfer safle A.