Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Astudiaeth Achos 1

Ysbrydoli i Weithio (Dwyrain Cymru)

Disgrifiad o’r prosiect

Crëwyd Ysbrydoli i Weithio i ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ac nad oes modd iddynt ailgysylltu ag addysg ffurfiol neu anffurfiol, hyfforddiant, gwirfoddoli neu gyflogaeth.

Bydd yr ymgyrch yn darparu cefnogaeth bwrpasol i helpu pobl ifanc:

  • nodi rhwystrau personol
  • deall sut y mae’r rhwystrau yn atal/cyfyngu ar y posibilrwydd o ddechrau, cymryd rhan a datblygu mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth
  • llunio cynllun gweithredu i liniaru neu ddileu’r rhwystrau a nodwyd
  • cyflawni’r camau gweithredu cefnogol y cytunwyd arnynt
  • darparu llwybrau dilyniant i addysg bellach, hyfforddiant, gwirfoddoli neu gyflogaeth

Drwy ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, nod yr ymgyrch yw ymgysylltu â phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n NEET, a’u cefnogi a’u galluogi i ennill amrywiaeth o sgiliau, cymwysterau a lleoliadau gwaith ystyrlon er mwyn magu hyder a chymhelliant i gael cyflogaeth gynaliadwy neu addysg bellach.

Cwmpas daearyddol

Mae’r prosiect yn gweithredu mewn ardaloedd nad ydynt yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru: Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

  • Hawl cyfreithiol i fyw a gweithio yn y DU
  • Rhwng 16 a 24 oed
  • Peidio â bod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant

Targedau penodol

  • Ennill cymhwyster wrth adael
  • Bod mewn addysg neu hyfforddiant wrth adael
  • Cael cyflogaeth wrth adael

Manylion cyswllt

Enw: Huw Wilkinson
E-bost: inspire@newport.gov.uk
Rhif ffôn: 01633 235408
Cyfeiriad: Gwaith, Sgiliau a Pherfformiad, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Godfrey, Casnewydd, NP20 4UR

Manylion ychwanegol

Darpariaeth lleol

Mae gan yr ymgyrch 5 Buddiolwr ar y Cyd sy’n gweithio yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru a fydd yn ymgysylltu â phobl ifanc sydd yn NEET a’u cefnogi, hynny yw:

Cyngor Dinas Casnewydd
Cyswllt: Deo Ritchie
E-bost: Deo.Ritchie@newport.gov.uk

Cyngor Dinas Caerdydd
Cyswllt: Hayley Beynon-Brown
E-bost: H.BeynonBrown@cardiff.gov.uk

Cyngor Sir Fynwy
Cyswllt: Louise Wilce
E-bost: louisewilce@monmouthshire.gov.uk

Cyngor Bro Morgannwg
Cyswllt: Mark Davies
E-bost: Inspire2achieve@valeofglamorgan.gov.uk

Llamau
Cyswllt: Sian Browne
E-bost: sian.brown@newport.gov.uk