Ysbrydoli i Weithio (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd)
Disgrifiad o’r prosiect
Cynlluniwyd Ysbrydoli i Weithio i gynnig cymorth i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a heb unrhyw fodd o ail-ymuno ag addysg ffurfiol neu anffurfiol, hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli neu gyflogaeth.
Bydd y Gweithrediad yn darparu cymorth wedi ei deilwro i helpu pobl ifanc:
- nodi’r rhwystrau personol y maent yn eu hwynebu
- deall sut y mae’r rhwystrau yn atal neu’n cyfyngu ar eu mynediad, cyfranogiad a’u cynnydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth
- trefnu cynllun gweithredu i leihau neu ddileu unrhyw rwystrau a nodir
- cyflwyno’r camau gweithredu cefnogol y cytunwyd arnynt
- cynnig llwybrau datblygu i addysg bellach, hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli neu gyflogaeth
Cwmpas daearyddol
Gweithredir y prosiect yn awdurdodau lleol canlynol yn Ne-ddwyrain Cymru: Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Torfaen a Rhondda Cynon Taf.
Meini prawf cymhwyster hanfodol
- Hawl cyfreithiol i fyw a gweithio yn y DU
- Rhwng 16 a 24 oed
- Heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant
Targedau penodol
- Ennill cymhwyster ar ôl gadael
- Mewn addysg/hyfforddiant ar ôl gadael
- Dechrau cyflogaeth ar ôl gadael
Manylion cyswllt
Enw: Martyn Jeffries (Rheolwr Rhanbarthol)
E-bost: Martyn.jeffries@blaenau-gwent.gov.uk
Rhif ffôn: 01495 355806
Cyfeiriad: BCGBC, Canolfan Dinesig, Glynebwy, NP23 6XB
Gwefan:
Facebook:
Twitter:
Manylion ychwanegol
YouTube
Pinterest
Darpariaeth lleol
Blaenau Gwent – Ben Arnold
Pen-y-bont ar Ogwr – Owen Shepherd
Caerffili – Lyn Travis
Merthyr Tudful – Jaime Spooner
Rhondda Cynon Taf – Syd Dennis
Torfaen – Gareth Jones