Lluniau Digwyddiad Dathlu Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru

Gor 10, 2023
Minister for the Economy, Vaughan Gething, delivering the keynote speech to open the event

Vaughan Gething, y Gweinidog dros yr Economi, yn traddodi’r brif araith i agor y digwyddiad

Cynhaliwyd digwyddiad dathlu arian yr UE Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru ar 10 Mai 2023 yng ngwesty Radisson Blu yng Nghaerdydd. Diolch yn fawr i’n cyflwynwyr a phawb oedd yn bresennol am ei wneud yn ddiwrnod mor llwyddiannus.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i fyfyrio ar effaith prosiectau a ariannwyd gan yr UE ar draws y rhanbarth ac edrych ar y ffordd y gellir cynnal yr hyn a etifeddwyd drwy ddatblygiadau polisi a rhaglenni yn y dyfodol.

Rydym wedi derbyn adborth gwych ynglŷn â’r digwyddiad ac mae’n braf cael rhannu oriel o luniau o’r diwrnod.

Diweddaraf gan WEFO – Rhagfyr 2022

Rha 16, 2022

Galwad am gyllid Cymru Ystwyth

Mae cynllun newydd gwerth £30,000 ar gyfer sefydliadau yng Nghymru yn gwahodd cynigion i ddatblygu cynllun cydweithio economaidd rhwng Cymru a rhanbarth Oita, Japan mewn meysydd megis y Celfyddydau a Diwylliant, Chwaraeon, y Byd Academaidd, Twristiaeth, Bwyd a Diod.

Darllen am yr alwad am gyllid ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gweithgareddau cyhoeddusrwydd a chau prosiectau

Nodyn i atgoffa partneriaid arweiniol prosiectau i roi gwybod i dîm cyfathrebu WEFO am eich cyflwyniadau, eich cerrig milltir, eich llwyddiannau, a’ch cynlluniau ar gyfer digwyddiadau cau prosiectau er mwyn i ni allu eich helpu i sicrhau’r cyhoeddusrwydd mwyaf trwy ein sianeli ac ystyried cyfraniad gweinidogol.

O ran y gweithdrefnau cau yn gyffredinol, dyma eich atgoffa eto fod canllawiau cau prosiectau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gellir gweld canllawiau ar weithdrefnau cau prosiectau cydweithredol Iwerddon-Cymru ar wefan Iwerddon-Cymru. 

Os bydd gennych ragor o gwestiynau ar y mater hwn, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Prosiectau i drafod hynny yn y lle cyntaf.

Cwestiynau cyffredin ar gau prosiectau

Bellach, mae dogfen cwestiynau cyffredin newydd ar gau prosiectau ar gael ar y wefan. Nod y ddogfen yw cynnig atebion i’r cwestiynau cyffredin sydd gan fuddiolwyr ynghylch cau prosiectau yng nghyswllt Cronfeydd Strwythurol Ewrop 2014-2020.

Darllen y cwestiynau cyffredin ar gau prosiectau ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd

Mae hysbysiad preifatrwydd Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd 2014-2020 wedi cael ei ddiweddaru.

Darllen yr hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diweddaraf y TYR – Rhagfyr 2022

Rha 16, 2022

Croeso i lythyr newyddion olaf 2022.

Bu’n gyfnod prysur arall i ni; cyflwynwyd nifer o sesiynau briffio, cynhaliwyd y rownd ddiweddaraf o gyfarfodydd rhwydweithio a daliwyd ati i ffilmio er mwyn sicrhau ein bod ni’n cofnodi effaith wirioneddol eich prosiectau ar draws y rhanbarth.

Diolch o galon i bawb a lanwodd ein holiadur rhanddeiliaid.  Cawsom adborth ardderchog a fydd bellach yn ein helpu i gynllunio i ddarparu’r gwasanaeth y flwyddyn nesaf.

Mae’n flin gennym gyhoeddi y bydd Natalie Curtis yn gadael y tîm ar ddiwedd Rhagfyr.  Bu Natalie yn aelod o TYRh De-ddwyrain Cymru o’r dechrau a byddwn yn ei cholli’n fawr.  Rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â ni i ddymuno pob hwyl i Natalie â’i gyrfa yn y dyfodol.

Gyda dymuniadau gorau ar gyfer y Nadolig a 2023,

Lisa, Amy, Nat, Kate a Dylan

Ffigurau perfformiad rhanbarthol – Tachwedd 2022

Rha 16, 2022

Dyma’r ffigurau pennawd diweddaraf ynghylch perfformiad gweithrediadau a gyllidir gan y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn Rhanbarth De-ddwyrain Cymru.  Os hoffech gael rhagor o fanylion am y data, anfonwch neges e-bost atom i’r cyfeiriad sewalesret@bridgend.gov.uk.

CronfaDangosyddFfigurau ar gyfer Rhanbarth y de-ddwyrain
ERDFMentrau a gynorthwywyd 7,398
Mentrau a grëwyd 2,371
Swyddi a grëwyd13,662
ESFCyfranogwyr a gynorthwywyd 156,169
Cyfranogwyr a gefnogwyd i gyflogaeth 19,636
Cyfranogwyr yn ennill cymwysterau65,564
Cyfranogwyr mewn addysg / hyfforddiant5,085

Mae WEFO wedi darparu ffeithlun sy’n dangos yr effaith gronnol bod cronfeydd yr UE wedi cael ar y rhanbarth ers 2007:

Diweddaraf o Brifddinas Ranbarth Caerdydd (PRC)

Rha 16, 2022

Adroddiad blynyddol cyntaf Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol cyntaf PRC, sy’n cwmpasu’r flwyddyn ariannol o Ebrill 2021 tan fis Mawrth 2022, gan fanylu ar y cynnydd a wnaed wrth ymrwymo Cronfeydd Buddsoddi Ehangach gwerth £252m – trwy 16 o fuddsoddiadau arloesol ym meysydd Arloesi, Seilwaith, Sgiliau a Heriau.

Mae’r Adroddiad, o’r enw ‘Magu Momentwm’, yn rhestru ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatgloi cyllid am bum mlynedd ychwanegol, yn dilyn Adolygiad Gateway llwyddiannus.

Bu Kellie Beirne, Prif Weithredwr PRC, yn crynhoi’r cynnydd a gyflawnwyd mewn blwyddyn bwysig:

“Bu blwyddyn ariannol 2021/2022 yn gyfnod o “osod sylfeini” i raddau – gan roi’r colofnau yn eu lle i gychwyn, sicrhau a defnyddio nifer o gronfeydd, rhaglenni a phartneriaethau hirdymor, cadarn eu heffaith sydd, yn ein barn ni, yn cynnig y rhagolygon gorau ar gyfer twf cynaliadwy, ledled ein Rhanbarth. Gyda bod y sylfaen honno wedi’i gosod bellach, yr ydym am gamu ymlaen yn unol â’n cynllun busnes strategol ‘Pump am Bump’’ – i gyflawni Sicrwydd Ynni, Endid Corfforaethol cyfreithiol newydd, Ehangu, Codi’r Gwastad a chanolbwyntio’n fwy penodol ar ymchwil a datblygu – ar hyd 2021-2026.”

Edrych ar adroddiad blynyddol PRC ar y wefan.

Rhyddhau 2023

Bydd Rhyddhau 2023 yn gynhadledd gwbl unigryw, lle bydd P-RC yn creu lle diogel i o leiaf 300 o fusnesau bach a chanolig (BBaCh) ddod ynghyd i ymgysylltu, dysgu ac, yn bwysicach, hwyluso twf ac ehangu eu busnesau. Bydd y gynhadledd yn cynnig amgylchedd a fydd yn caniatáu i berthnasoedd ddatblygu mewn modd organig, lle gellir profi syniadau ac yn bwysicach, archwilio cyfleoedd posibl am gyllid a chymorth.

Bydd gwefan benodedig yn cael ei chreu yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r partneriaid arddangos eu gweithgareddau ac ymgysylltu. Bydd hyn yn caniatáu ymgysylltu cyn y digwyddiad, gan sicrhau’r effaith fwyaf ar y diwrnod.

Os hoffech chi fod yn rhan o’r bennod newydd hon, gan greu atebion, cefnogi twf a datgloi potensial y rhanbarth, mae nifer o gyfleoedd noddi ar gael.

Cliciwch ar y daflen i weld rhagor o fanylion am gyfleoedd noddi Rhyddhau 2023.

Unleash 2023 – Sponsorship Brochure

Os nad yw’r cyfle hwn yn addas i chi, beth am rannu’r wybodaeth â’ch rhwydweithiau a chadw golwg am y tocynnau cynrychiolwyr pan gânt eu rhyddhau.

Datblygiadau eraill diweddar

Mae Cronfa Eiddo Strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi sicrhau ei buddsoddiad nodedig gyntaf, gan helpu i sbarduno cam nesaf twf Pulse Plastics Limited trwy gyllido cynllun y cwmni i symud i uned ddiwydiannol 38,000 o droedfeddi sgwâr yn Ystad Ddiwydiannol Rasa, Glynebwy.

Darllen rhagor am fuddsoddiad y Gronfa Eiddo Strategol yng Nglynebwy

Lansiwyd Media Cymru ym mis Hydref yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd ar ddechrau rhaglen bum mlynedd a fydd yn hoelio’r sylw ar greu canolbwynt arloesi yn y sector creadigol ar draws y rhanbarth. O dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae rhaglen fuddsoddi strategol arloesol Media Cymru yn dwyn ynghyd 23 o bartneriaid o feysydd cynhyrchu’r cyfryngau, darlledu, technoleg, prifysgolion ac arweinwyr lleol.

Darllen rhagor am gonsortiwm Media Cymru.

Yn olaf, lansiwyd cronfa Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd hefyd fis diwethaf mewn digwyddiad yn Stadiwm Principality, Caerdydd.  Cronfa fuddsoddi hirdymor gwerth £50 miliwn yw Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd, sy’n sbarduno twf ac arloesi mewn busnesau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Darllen am lansio Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd.

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (RSP) lansio Cynllun Sgiliau

Cafodd ‘Ffyniant Trwy Bartneriaeth’, sef cynllun cyflogaeth a sgiliau tair blynedd newydd ar gyfer y rhanbarth, ei lansio ar 23 Tachwedd mewn digwyddiad yng Ngwesty Mercure, Casnewydd.

Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS, a ddarparodd y brif araith yn y cyfarfod lansio, gan sôn am bwysigrwydd cydweithio er mwyn gwneud cynnydd a chyflawni’r camau gweithredu sy’n rhan o’r cynllun tair blynedd newydd. Disgrifiodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, sut y bydd ‘Ffyniant Trwy Bartneriaeth’ yn cyflawni’i nodau ar gyfer y rhanbarth cyfan, gan roi sylw i’r anghenion y sectorau sy’n flaenoriaeth a goresgyn y rhwystrau sy’n atal twf.  Hefyd yn rhan o’r digwyddiad, roedd panel trafod a oedd yn cynnwys Mark Owen o Gyrfa Cymru, Guy Lacey o Goleg Gwent, Lisa Myttin o Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (NTFW), Deri Bevan o TUC Cymru a Lynette Thomas o’r Brifysgol Agored.

Bydd y TYR De Ddwyrain Cymru yn rhannu’r ddolen we fyw i’r cynllun newydd cyn gynted ag y bydd ar gael.

Dathlu cyflawniadau cyflogadwyedd rhanbarthol

Rha 16, 2022

Ddydd Gwener, 25 Tachwedd, cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ddigwyddiad yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru. Cyngor Torfaen yw’r buddiolwr arweiniol ar gyfer Pontydd i Waith 2, Sgiliau Gweithio ar gyfer Oedolion 2 a Meithrin, Darparu, Ffynnu (NET). Roedd y digwyddiad yn gyfle i holl aelodau staff y tri Gweithrediad a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ddod ynghyd i ddathlu’r gwaith a gyflawnwyd dros y saith blynedd ddiwethaf a myfyrio arno.

Er 2015, mae’r gweithrediadau wedi cefnogi mwy nag 11,000 o gyfranogwyr i gyd. Mae Pontydd i Waith wedi helpu 1084 o gyfranogwyr economaidd anweithgar neu bobl a fu’n ddi-waith am gyfnod hir i gael cyflogaeth am dâl ac mae mwy na 1100 o bobl wedi cwblhau lleoliad gwirfoddoli.  Ar draws y prosiectau, mae 5800 o gyfranogwyr wedi cwblhau cyrsiau hyfforddiant am ddim a sicrhau o leiaf un cymhwyster.

Mae NET wedi galluogi mwy na 750 o gyfranogwyr a oedd wedi’u tangyflogi i wella eu sefyllfa o ran y farchnad lafur trwy sicrhau gwell gwaith am dâl, cynyddu eu horiau gweithio, neu symud o gontractau cyflogaeth cyfnod byr i gontractau parhaol. Ar ben hynny, mae NET wedi canolbwyntio ar wella iechyd a llesiant pobl sy’n gweithio. Cafodd mwy na 500 o gyfranogwyr â chyflwr iechyd neu anabledd gwaelodol a oedd yn cyfyngu ar eu gallu i weithio gymorth i wella eu rhagolygon gwaith neu i aros yn y gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb hirdymor.

Ymunodd mwy na 75 o aelodau staff o Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, CBS Pen-y-bont ar Ogwr, CBS Caerffili, CBS Merthyr Tudful a CBS Torfaen yn y digwyddiad. Mae’r prosiectau bellach yn eu misoedd gweithredu olaf ond os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y tri gweithrediad a gyllidwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cysylltwch â Matthew Davies, Uwch-reolwr Gweithrediadau a Gyllidir yn y cyfeiriad matthew.davies@torfaen.gov.uk.

Gronfa Cynhwysiant Gweithredol

Rha 16, 2022

Yn ystod ei chyflwyno, mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, a weinyddwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC),  wedi cynorthwyo 184 o sefydliadau, 482 o brosiectau a 26,121 o gyfranogwyr, ac wedi dyfarnu £42 miliwn o gyllid Ewropeaidd.  Mae 27 o brosiectau Cynhwysiant Gweithredol ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd a bydd y rhain i gyd wedi cau erbyn diwedd Rhagfyr 2022.

Mae CGGC wedi comisiynu cyfres o fideos i amlygu’r ffyrdd penodol y mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi helpu rhai o’r bobl a’r cymunedau anoddaf eu cyrraedd yng Nghymru trwy’r Sector Gwirfoddol.

Gwylio’r fideos effaith ar wefan CGGC.

Un o’r nifer o brosiectau a gefnogwyd gan y gronfa yw rhaglen Take Charge gan Innovate Trust sydd wedi bod yn cynnig cymorth ac arweiniad i bobl ag anableddau er 1967.  Nod Take Charge, sy’n gweithredu yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf, yw gwella sgiliau cyflogaeth a llesiant, ac mae’n agored i unrhyw rai dros 25 oed sydd ag anabledd dysgu neu gyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio ac sydd heb fod yn gweithio ar hyn o bryd.

Astudiaeth achos Take Charge

Mae gan Amy, sy’n fyddar, anabledd dysgu. Roedd Amy am ddysgu BSL er mwyn gallu cyfathrebu’n fwy effeithiol â’i staff cymorth, ei theulu, ei ffrindiau a’r gymuned ehangach pan fyddai’n gwirfoddoli. Mae gallu cyfathrebu’n effeithiol ag eraill yn sgìl hanfodol yn y gweithle ac yn y cartref. Y rhwystr pennaf i Amy ar hyn o bryd yw diffyg sgiliau cyfathrebu effeithiol gan na chafodd gyfle i ddysgu BSL mewn modd hygyrch a bu’n rhaid iddi ddyfeisio llawer o’i harwyddion ei hun. Dim ond y bobl agosaf ati sy’n gallu deall yr arwyddion hyn felly mae’n bwysig bod Amy yn dysgu rhagor o BSL er mwyn camu tuag at gyfleoedd gwirfoddoli newydd a chyflogaeth.

Mae Amy hefyd yn dwlu ar arddio a natur, felly buom yn cydweithio i ddysgu rhywfaint o BSL i Amy wrth iddi hefyd ddysgu am ddatblygu cynaliadwy. Bu modd i Take Charge ddarparu’r sesiynau un-i-un yr oedd eu hangen arni i wella’i sgiliau BSL a dysgu mwy am natur. Er nad oedd Amy ond wedi cyfarfod â staff Take Charge unwaith o’r blaen, roedd hi’n barod i ymarfer arwyddion newydd gyda ni a gweithio fel tîm i gael hyd i’r ffordd orau o ddysgu, gan ddangos dyfalbarhad a gwytnwch clodwiw. Ein sesiwn gyntaf oedd y dystysgrif ragarweiniol BSL cysylltiedig â’r gwaith, cyn symud ymlaen i’n sesiynau â thema datblygu cynaliadwy.

Mae Amy wedi cwblhau tair sesiwn â thema datblygu cynaliadwy gyda ni hyd yn hyn. Teitl ei sesiwn gyntaf oedd ‘Pwy sy’n byw yn eich gardd?’ a oedd â’r nod o annog y cyfranogwyr i ofalu am y bywyd gwyllt yn eu gardd a gwella bioamrywiaeth. Cafodd Amy gymorth gennym i ddysgu am y bywyd gwyllt yn ei gardd a dysgu arwyddion newydd ar gyfer yr anifeiliaid a’r pryfed y gallai gael hyd iddynt. Bu Amy yn canolbwyntio’n dda ar hyd y sesiwn. Defnyddiom ap BSL i helpu Amy i ddysgu’r arwyddion yr oeddem yn llai sicr ohonynt. Aeth Amy ati i ddefnyddio’r ap ei hun, ar ôl i ni ddangos iddi sut y mae’n gweithio, a theipio’r geiriau yr oedd hi am eu cyfieithu i BSL. Bydd gallu defnyddio ap o’r math hwn yn ddefnyddiol dros ben wrth i Amy ddatblygu ei sgiliau BSL. Mae modd defnyddio’r ap hefyd fel offeryn i gyfathrebu ag eraill. Mae Amy bellach yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio arwyddion ar gyfer y gwahanol anifeiliaid a phryfed yn ei gardd.

Roedd ein hail sesiwn â thema datblygu cynaliadwy yn canolbwyntio ar sut y mae planhigion yn llesol i’r amgylchedd. Dysgodd Amy am ffotosynthesis a chynhesu byd-eang yn y sesiwn hon. Buom hefyd yn trafod yr effaith gadarnhaol y gall planhigion ei chael ar ein llesiant ac anogwyd Amy i feddwl am y mathau o blanhigion yr hoffai eu tyfu.

Gan fod y sesiwn hon yn rhoi sylw i thema debyg, roedd modd i ni fynd trwy’r arwyddion yr oedd Amy wedi’u dysgu o’r blaen cyn cyflwyno rhai newydd a oedd yn ymwneud yn benodol â phlanhigion. Unwaith eto, roedd Amy yn frwd iawn ar hyd y sesiwn ac yn ymgysylltu’n wych. Mae dangos yr arwyddion yr oedd hi’n gallu eu cofio wedi bod yn ddefnyddiol iawn o safbwynt hyder Amy. Roedd Take Charge yn gallu darparu’r sesiynau hyn ar gyflymder addas i Amy er mwyn sicrhau ei bod yn cael y budd mwyaf o’r profiad. Bellach, mae Amy yn gwybod mwy o BSL nag o’r blaen ac mae hi’n dechrau teimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio arwyddion gyda phobl newydd. Gall Amy ddefnyddio rhai o’r arwyddion hyn â thema natur pan fydd hi’n gwirfoddoli yn yr ardd gymunedol. Yn yr un modd, cafodd Amy fynd trwy’r arwyddion eto yn ystod ein trydedd sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar Gyfrifiad Mawr Gloÿnnod Byw.

Teimlwn fod Amy bellach yn barod i symud ymlaen i gwrs BSL manylach. Ar ôl cydgysylltu â Chyngor Cymru i Bobl Fyddar, cawsom hyd i gwrs BSL anffurfiol a di-dâl i Amy a fydd yn cychwyn ar ôl gwyliau hanner tymor yr hydref. Bydd y cwrs hwn yn helpu Amy i barhau i feithrin hyder a datblygu ei sgiliau BSL.

Dysgu rhagor am Take Charge ar wefan Innovate Trust.

Astudiaethau achos Cadw’n Iach yn y Gwaith

Rha 16, 2022

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy’n arwain y Gwasanaeth Cadw’n Iach yn y Gwaith a gyllidir trwy Flaenoriaeth 1 Cronfa Gymdeithasol Ewrop.  Mae’n cynnig cymorth i fusnesau micro, bach a chanolig yn ardal RhCT er mwyn sicrhau bod pawb a gyflogir yn ardal yr Awdurdod Lleol yn cael mynediad at wasanaethau cymorth ‘yn y gwaith’ sy’n rhoi sylw penodol i anghenion llesiant unigolion a datblygu polisïau cefnogol.

Astudiaeth achos Cleient A

Er mwyn cynorthwyo unigolion, mae’r prosiect yn cynnig cymorth clinigol i staff i wella gweithredu dyddiol a rheoli symptomau, gan alluogi pobl i ddychwelyd i’r gwaith neu barhau i weithio.  Nodir isod enghraifft o sut mae’r prosiect wedi helpu un o’r cleientiaid hyn.

Cafodd y cleient ei hatgyfeirio i dîm Cadw’n Iach yn y Gwaith gan ei rheolwr llinell, a oedd wedi sylwi bod problem barhaus â chyd-weithiwr yn effeithio ar ei chymwyseddau gwaith. Roedd y cleient yn dioddef symptomau gorbryder ac wedi colli llawer o hyder yn ei gwaith.

Cymerodd y cleient ran mewn chwe apwyntiad adolygu wythnosol/pythefnosol trwy lwyfan rhithwir. Yn ystod yr apwyntiadau adolygu hyn, cafodd y cleient gymorth i drafod ei phroblemau cysylltiedig â’r gwaith mewn amgylchedd cyfrinachol ac anfeirniadol. Roedd hyn wedi caniatáu i’r cleient feithrin hyder, adnabod sbardunau a defnyddio strategaethau ymdopi effeithiol. Cafodd gymorth hefyd i weithio ar ei hawliau pendant a sut i roi’r rhain ar waith mewn sefyllfaoedd cysylltiedig â’r gwaith.

“Rwy’n teimlo i mi gael gwrandawiad ac fe greodd Emma le diogel i mi rannu’r hyn a oedd yn digwydd i mi. Rwy wedi adennill hyder a normaleiddio fy nheimladau, sydd wedi fy helpu i weld pethau yn eu gwir oleuni. Yn ystod fy sesiwn gyntaf, roeddwn i’n gysgod o’r hyn oeddwn i, yn emosiynol ac yn llawn hunanamheuaeth ond erbyn fy sesiwn olaf roeddwn i’n hyderus ac yn glir fy nghanolbwynt unwaith eto, ac wedi ailgynnau fy niddordeb angerddol yn y gwaith”.

Astudiaeth achos cymorth busnes

Yn ogystal â chynnig cymorth clinigol i unigolion, mae Cadw’n Iach yn y Gwaith hefyd yn helpu busnesau a’u staff i feithrin diwylliant o gydraddoldeb a llesiant trwy ddatblygu polisïau, strwythurau, prosesau ac ymddygiad cadarn.  Mae Pontus yn un o’r cwmnïau y buont yn gweithio gyda nhw yn ddiweddar.

Mae Pontus, yn Hirwaun yn cynnig gwasanaethau ymchwil a datblygu i’r sectorau dyframaethu, morol a dyfrol o ran datblygu cynhyrchion maeth ac iechyd.

Mae’r busnes am dyfu ac ehangu i safle ychwanegol yn y dyfodol agos. Yn rhan o’r cynllun twf hwn, roedd gofyn cael fframwaith cadarnach o bolisïau i gefnogi iechyd a llesiant y gweithlu. Yn ogystal, roedd angen bod y polisïau’n cynnig cymorth ac amddiffyniad i’r busnes, gan ei alluogi i weithio tuag at fod yn gyflogwr y mae’r gymuned yn dewis gweithio iddo.

Awgrymodd Cadw’n Iach yn y Gwaith bod angen adolygu polisïau presennol y cwmni o ran y gweithle a pholisïau ychwanegol i gefnogi llesiant y staff a sicrhau bod y fframwaith rheoli pobl yn fwy cadarn. Rhoddwyd yr ymyriadau hyn ar waith yn llwyddiannus wedyn ar y cyd â’r cwmni.

O ganlyniad, datblygwyd diwylliant yn y gweithle lle mae iechyd a llesiant y staff wedi gwella, gydag eglurder ynghylch yr hawliau, yr hawlogaeth, y disgwyliadau a’r cymorth sydd ar gael i’r cyflogeion.

Dywedodd Ivan Tankovski, y Cyfarwyddwr Ymchwil:

“Rwy’n falch o ddweud bod yr adborth ar ein polisïau presennol yn ddefnyddiol iawn, ond beth oedd yn well oedd y ffaith fod y rhaglen hon wedi caniatáu i ni fabwysiadu nifer o bolisïau newydd heb fuddsoddi adnoddau ychwanegol i’w hysgrifennu. Ers i ni roi’r polisïau ar waith, mae ein staff, a’n rheolwyr hefyd, yn llawer mwy ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau. O ganlyniad, mae morâl y staff a’u llesiant cyffredinol wedi gwella. Byddwn i’n bendant yn argymell Cadw’n Iach yn y Gwaith i gwmnïau sydd â nifer cyfyngedig o weithwyr a/neu gyfalaf i ganolbwyntio ar ysgrifennu polisïau.”

Yn ogystal, dyfarnwyd cyllid i Pontus o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglenni Taleb Arloesi a Thaleb Arloesi a Mwy prosiect SMARTCymru Llywodraeth Cymru.  Defnyddiwyd y cyllid hwn i helpu’r cwmni i gyflwyno prosesau arloesol i’r busnes, a rhoi’r prosesau hyn a phrosesau a dewisiadau gwasanaeth newydd a gwell ar waith i’w helpu i dyfu ac ehangu’r busnes.

Mae prosiectau cyflogadwyedd Dwyrain Cymru yn rhagori ar y targedau

Rha 16, 2022

Cyngor Dinas Casnewydd oedd yn arwain y gwaith o gyflwyno’r prosiectau Cyflogadwyedd Awdurdod Lleol a gyllidwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ledled ardal Dwyrain Cymru ond mae’r gwaith hwnnw bellach wedi dod i ben.

Roedd Ysbrydoli i Weithio yn targedu pobl ifanc 16-24 blwydd oed a oedd heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) ac roedd Taith i Waith yn gweithio i wella cyflogadwyedd pobl 25 oed a throsodd sy’n Economaidd Anweithgar a phobl a fu’n ddi-waith am amser hir ac sy’n wynebu rhwystrau cymhleth at waith. Defnyddiwyd dull gweithredu a oedd yn ‘canolbwyntio ar yr unigolyn’ yn y ddau weithrediad, er mwyn ymgysylltu, cefnogi a galluogi’r cyfranogwyr i ddatblygu nifer o sgiliau, cymwysterau a lleoliadau gwaith ystyrlon a chael yr hyder a’r ysgogiad i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy neu dderbyn addysg bellach.

Gyda bod y cyfnod cyflwyno wedi dod i ben ar ddiwedd mis Medi eleni, mae’n amlwg pa mor llwyddiannus oedd y rhaglen. Dywed Andrew Smailes, rheolwr prosiect y ddau weithrediad:

“Gyda’i gilydd, mae gweithrediad Ysbrydoli i Weithio wedi rhagori ar ei darged ar gyfer cyfranogwyr gwrywaidd (103%); y cyfranogwyr sy’n sicrhau cymhwyster (113%) a’r cyfranogwyr sy’n cael gwaith ar ôl gadael y cynllun (120%).  Yn achos Taith i Waith, mae’r gweithrediad wedi gwneud gwaith gwych o ran cyflawni deilliannau cyflogaeth er gwaetha’r anawsterau a gafwyd yn ystod cyfnod COVID, gan gyflawni 139% o’r targed ar gyfer cyfranogwyr economaidd anweithgar sy’n cael cyflogaeth a 138% o ran y cyfranogwyr a fu’n ddi-waith am gyfnod hir sy’n cael cyflogaeth ar ôl gadael y rhaglen. Mae’r rhain yn ganlyniadau gwych, sy’n tystio i waith caled yr holl dimau cyflwyno ledled y gweithrediad yn ardaloedd y cyd-fuddiolwyr.”

Pan fyddant yn barod, cyhoeddir adroddiadau gwerthuso terfynol rhaglen Ysbrydoli i Weithio a rhaglen Taith i Waith ar dudalennau prosiectau gwefan TYRh De-ddwyrain Cymru.

Dysgu mwy am Siwrne i Waith 2.

Dysgu mwy am Ysbrydoli i Weithio.

Rhaglen Graddedigion Cymru yn cyrraedd y brig yng Ngwobrau STEM Cymru

Rha 16, 2022

Cyhoeddwyd mai Rhaglen Graddedigion Cymru oedd “Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn (Sector Preifat)” yng Ngwobrau STEM Cymru 2022 a gynhaliwyd eleni yng Ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd ar 27 Hydref.  Mae’r categori hwn yn cydnabod busnesau sy’n mynd i’r afael â bwlch amrywiaeth a phrinder sgiliau STEM, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

Rhaglen wedi’i chyllido o dan Flaenoriaeth 2 Cronfa Gymdeithasol Ewrop yw Rhaglen Graddedigion Cymru, a reolir gan Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru.  Fe’i sefydlwyd i ddenu graddedigion STEM i rolau ym meysydd Data, Deallusrwydd Artiffisial (AI) a’r Gwasanaethau Ariannol a’u datblygu yn y rolau hynny wedyn, gyda golwg ar gadw’r doniau gorau yng Nghymru.  Mae’n cynnig dwy raglen i raddedigion; rhaglen gwasanaethau ariannol sy’n para dwy flynedd a rhaglen llwybr cyflym ym maes Data/Deallusrwydd Artiffisial sy’n para 10 mis.

Enillwyr Gwobrau STEM Cymru 2022:

  • Gwobr Arloesi mewn STEM – Llusern Scientific Limited
  • Llysgennad STEM y Flwyddyn – Seb York, CatSci
  • Menyw STEM y Flwyddyn – Sharan Johnstone, Prifysgol De Cymru
  • Gwobr Cynaliadwyedd STEM – Design Reality Limited
  • Busnes STEM newydd y Flwyddyn – Think Air
  • Cwmni STEM y Flwyddyn (mwy na 50 o gyflogeion) – CatSci
  • Cwmni STEM y Flwyddyn (llai na 50 o gyflogeion) – SparkLab Cymru
  • Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn (Sector Preifat) – Rhaglen Graddedigion Cymru, Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru
  • Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) – Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion, Prifysgol Abertawe
  • Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn (Sector Nid-er-elw) – EESW-STEM Cymru
  • Cwmni STEM Rhyngwladol y Flwyddyn – Laser Wire Solutions
  • Seren STEM y Dyfodol – Charlotte Lewis, Grŵp Simbec-Orion

Dywedodd Rheolwr Cyflwyno’r Rhaglen Graddedigion, Caroline Jerrett: “Mae’n dda gweld y Rhaglen yn ennyn cydnabyddiaeth am y gwaith y mae pawb sy’n ymwneud â hi wedi’i gyflawni i gynyddu ymwybyddiaeth o yrfaoedd STEM i gronfa talent graddedigion amrywiol.

Mae ein cydweithio unigryw rhwng diwydiant ac addysg wedi caniatáu i ni addasu ac ymateb yn ystwyth i’r dirwedd sy’n newid yn barhaus, er mwyn paratoi graddedigion STEM â’r sgiliau angenrheidiol i sbarduno arloesi a thwf economaidd a helpu i gau’r bwlch sgiliau sydd wedi bod yn effeithio ar fusnesau.”

Ymhlith y cyflogwyr a fu’n ymwneud â’r Rhaglenni y mae Admiral, Atradius, sa.global, Hodge Bank, Cymdeithas Adeiladu Principality, Opel Vauxhall Finance a Pepper Money ac ers y cychwyn mae 214 o raddedigion wedi cwblhau’r rhaglen gyda 91% ohonynt ar gyfartaledd yn sicrhau swyddi sy’n talu’n dda erbyn diwedd eu lleoliad terfynol.

Cliciwch isod i wylio clip fideo byr ynghylch prosiect Rhaglen Graddedigion Cymru. Mae’n cynnig cipolwg ar ffilm estynedig ynghylch Blaenoriaethau 1 a 2 Cronfa Gymdeithasol Ewrop a fydd yn dilyn yn y flwyddyn newydd.

Y diweddaraf am WEFO – Medi 2022

Med 30, 2022

Diweddariad ynghylch Arolwg Cyfranogwyr Cronfa Gymdeithasol Ewrop

Nodwch fod WEFO wedi comisiynu IFF Research i gynnal ail ran Arolwg Cyfranogwyr Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer Rhaglen 2014-2020.

Mae IFF Research yn cynnal arolwg gyda sampl o Gyfranogwyr Cronfa Gymdeithasol Ewrop sydd wedi cwblhau hyfforddiant neu wedi cael cymorth drwy brosiectau a ariannwyd gan y Gronfa ac sydd wedi gadael y prosiect o leiaf 6 mis cyn yr arolwg. Bydd IFF yn anfon llythyrau at y sawl sy’n rhan o’r sampl wythnos cyn bod y gwaith maes yn dechrau, er mwyn rhoi gwybod iddynt y byddant yn cael galwad. Mae’r llythyr hefyd yn cynnwys dolen gyswllt â hysbysiad preifatrwydd yr arolwg ynghyd â chyfeiriad ebost a rhif rhadffôn ar gyfer IFF os bydd gan unrhyw un ymholiadau.

Cychwynnodd y gwaith maes ddechrau mis Awst a bwriedir iddo ddigwydd mewn tair ton:

  • Ton 1 – i’w chynnal rhwng mis Awst a chanol mis Tachwedd; bydd yn cynnwys cyfranogwyr sydd wedi gadael darpariaeth rhwng mis Ebrill 2018 a mis Gorffennaf 2021.
  • Ton 2 – i’w chynnal rhwng mis Ionawr a mis Chwefror 2023; bydd yn cynnwys cyfranogwyr ychwanegol a adawodd hyd at fis Rhagfyr 2021.
  • Ton 3 – i’w chynnal rhwng mis Ebrill a mis Mai 2023; bydd yn cynnwys cyfranogwyr ychwanegol a adawodd hyd at fis Ebrill 2022.

Gofynnir i’r ymatebwyr beth yr oeddent yn ei wneud cyn cymryd rhan yn y prosiect, beth oedd eu rhesymau dros gymryd rhan yn y prosiect ac a ydynt yn meddwl bod y prosiect wedi bod o fudd iddynt wedyn.

Nodau’r arolwg yw bodloni gofynion y CE o ran cyflwyno adroddiadau, a sicrhau bod WEFO a’n sefydliadau partner yn cael gwybodaeth gadarn er mwyn asesu effeithiolrwydd rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop ledled Cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Arolwg Cyfranogwyr Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mae croeso i chi gysylltu ag emily.rowlands001@gov.wales neu charlotte.guinnee@gov.wales.

Gweithgareddau cyhoeddusrwydd a gweithdrefnau terfynu

Dyma nodyn i atgoffa partneriaid prosiect arweiniol y dylent sicrhau bod tîm cyfathrebu WEFO yn cael gwybodaeth yn gyson am eich cyflawniadau, eich cerrig milltir, eich straeon llwyddiant a’ch cynlluniau ar gyfer digwyddiadau terfynu, er mwyn i aelodau’r tîm eich helpu i gael cymaint o gyhoeddusrwydd ag sy’n bosibl drwy sianelau’r tîm ac er mwyn ystyried cynnwys Gweinidogion.

O ran gweithdrefnau terfynu’n gyffredinol, dyma nodyn arall i’ch atgoffa bod arweiniad ynghylch terfynu prosiect ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae arweiniad ynghylch gweithdrefnau terfynu ar gyfer prosiectau cydweithredu Iwerddon-Cymru ar gael ar wefan Iwerddon-Cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am yr uchod, dylech gysylltu a thrafod â’ch Swyddog Datblygu Prosiect yn gyntaf.

Uned Gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru

Mae Uned Gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru yn hwyluso’r broses o gyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i bawb:

  • sydd â diddordeb mewn datblygu gwledig
  • sy’n ymwneud â ‘Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020’ a’r cynlluniau a ariennir ganddi
  • sydd am gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid yn y dyfodol.

Cael gwybod mwy am Uned Gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru.

Perfformiad rhanbarthol Medi 2022

Med 30, 2022

Dyma’r prif ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer perfformiad y cynlluniau sy’n cael eu hariannu gan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn rhanbarth y De-ddwyrain. Os hoffech gael rhagor o fanylion am y data, e-bostiwch sewalesret@bridgend.gov.uk.

CronfaDangosyddFfigurau ar gyfer Rhanbarth y de-ddwyrain
ERDFMentrau a gynorthwywyd 6,898
Mentrau a grëwyd 2,242
Swyddi a grëwyd10,689
ESFCyfranogwyr a gynorthwywyd 128,719
Cyfranogwyr a gefnogwyd i gyflogaeth 11,898
Cyfranogwyr yn ennill cymwysterau52,318
Cyfranogwyr mewn addysg / hyfforddiant3,148

Mae WEFO wedi diweddaru eu ffeithluniau i adlewyrchu’r ffigurau diweddaraf:

Cynghrair Hinsawdd PRC

Med 30, 2022

Ymunwch â’r Gynghrair Hinsawdd sy’n rhoi Strategaeth Ynni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar waith…

Y newid yn yr hinsawdd yw’r broblem fwyaf sy’n ein hwynebu heddiw – ac eto i gyd, ceir consensws cynyddol nad oes digon yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r her. Os ydych yn fusnes neu’n rhwydwaith yn ne-ddwyrain Cymru, dyma eich cyfle i wneud cyfraniad o bwys at hynny – drwy ddod yn rhan o Gynghrair Hinsawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae a wnelo Strategaeth Ynni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd â sicrhau bod rhanbarth de-ddwyrain Cymru yn ei gyfanrwydd yn cyrraedd ystod eang o dargedau gwyrdd erbyn 2035.

Mae’r targedau hynny’n cynnwys sicrhau bod gan 27% o’n cartrefi systemau gwresogi carbon isel, bod 64% o’r ceir yn ein rhanbarth yn Gerbydau Trydan Allyriadau Isel Iawn, a bod 50% o’r holl ynni a ddefnyddiwn yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.

Na allai’r tîm City Deal gwneud hynny ar eu pen eu hunain – ond drwy fod yn bartner i fusnesau bach, canolig a mawr ar draws y rhanbarth, gallant sbarduno proses drawsnewid ryfeddol a fydd yn creu busnesau cryfach, cymunedau mwy cydnerth, swyddi ac iddynt werth uwch, mwy o sicrwydd o ran ynni a bwyd, a ffyniant sy’n fwy cynhwysol.

Dyna pam maent yn ffurfio Cynghrair Hinsawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd er mwyn rhannu arfer da a sefydlu capasiti mwy gwyrdd y rhanbarth i gyrraedd y targedau.

Mae’r neges i holl fusnesau yn y rhanbarth yn glir – dewch i ymuno â’r trafodaeth, dywedwch sut yr ydych am i ranbarth gwyrdd edrych ar gyfer eich busnes a’r byd ehangach, rhannwch eich syniadau a dysgwch o arfer gorau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, anfonwch ebost at: Rhys.Owen@cardiff.gov.uk, Charlotte.Davidson@cardiff.gov.uk neu Ynyr.Clwyd@cardiff.gov.uk – dewch i arwain newid cadarnhaol yn y rhanbarth.

Syniadau Mawr Cymru yn Mynd ar Daith!

Med 30, 2022

Y Warant i Bobl Ifanc yw ymrwymiad allweddol Llywodraeth Cymru i bawb dan 25 oed sy’n byw yng Nghymru, ac mae’n cynnig cymorth i bobl ifanc gael lle mewn addysg neu hyfforddiant neu’n cynnig cymorth i gael gwaith neu fynd yn hunangyflogedig. Mae gwasanaeth Syniadau Mawr Cymru yn rhan o’r Warant i Bobl Ifanc, ac mae’n cynorthwyo’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru ac yn annog pobl ifanc 25 oed ac iau i ddatblygu sgiliau mentergarwch, pa yrfa bynnag y byddant yn ei dewis. I gynorthwyo darpar entrepreneuriaid ifanc, mae Syniadau Mawr Cymru yn cynnig rhaglen wedi’i theilwra o ddigwyddiadau, gweithdai a sesiynau cynghori un i un er mwyn helpu pobl ifanc i feithrin hyder ym maes busnes, datblygu eu syniadau a dechrau busnes. Mae’r Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc ar gael hefyd i alluogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain.

Cael gwybod mwy am Syniadau Mawr Cymru

Mae digwyddiad ‘Ar Daith’ Syniadau Mawr Cymru yn ddigwyddiad arbennig, rhad ac am ddim a fydd yn ymweld â gwahanol leoliadau ar draws Cymru, ac mae wedi’i gynllunio yn benodol ar gyfer unrhyw berson ifanc 25 oed neu iau sydd â syniad am fusnes yn barod neu sy’n chwilfrydig ynghylch hunangyflogaeth. Gall pobl ifanc glywed gan berchnogion busnes, cymryd rhan mewn gweithdy rhyngweithiol am fod yn hunangyflogedig, a chwrdd â phobl ifanc eraill sydd â diddordebau tebyg. Dyma’r digwyddiadau sydd ar ddod yn rhanbarth y de-ddwyrain:

18 Hydref – Pen-y-bont ar Ogwr

26 Hydref – Glynebwy

3 Tachwedd – Caerdydd

Byddwch yn gadael y digwyddiadau hyn â dealltwriaeth well o’r hyn y mae’n ei gymryd i ddechrau busnes, a’r hyder i wneud hynny gyda chymorth gan Syniadau Mawr Cymru.

Cael gwybod mwy am daith Syniadau Mawr Cymru a chadw lle drwy wefan Busnes Cymru.

Agenda Gwerdd Cymru: Y Prif Weinidog yn cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Med 30, 2022

Ar ôl i ystadegau am y newid yn yr hinsawdd gael eu cyhoeddi ym mis Mehefin eleni, amlinellodd y Prif Weinidog ym mis Gorffennaf sut y bydd pob un o’r pum Bil a gyflwynir yn ystod ail flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a chynorthwyo’r amgylchedd.

Dyma’r Biliau:

  • Bil ar Blastigau Untro a fydd yn gwahardd gwerthu eitemau sy’n troi’n sbwriel fel rheol, megis gwellt a chytleri plastig, neu’n cyfyngu ar eu gwerthu
  • Bil Aer Glân er mwyn cyflwyno targedau a rheoliadau uchelgeisiol i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer
  • Bil Amaeth er mwyn diwygio cymorth i amaethyddiaeth yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac ar wobrwyo ffermwyr sy’n cymryd camau i ddiogelu’r amgylchedd
  • Bil ar Gydsynio Seilwaith er mwyn symleiddio’r broses ar gyfer cytuno ar brosiectau seilwaith mawr, gan roi mwy o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr
  • Bil ar Ddiogelwch Tomenni Glo er mwyn gwella’r modd y caiff tomenni glo segur eu rheoli, gan ddiogelu cymunedau sy’n byw yng nghysgod y tomenni hynny, wrth i’r risg o niwed iddynt sy’n gysylltiedig â’r tywydd gynyddu.

Meddai Mark Drakeford AS:

“Rwy’n falch o gyflwyno’r rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol hon sydd â ffocws clir ar ddyfodol Cymru, a fydd yn gryfach, yn decach ac yn fwy gwyrdd. Mae’r argyfwng hinsawdd, heb os, wedi cyrraedd. Byddwn yn cyflwyno pum Bil pwysig a fydd yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd, gwella ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu, ac atal cymaint o blastig rhag llygru ein tiroedd a’n moroedd hardd.”

Cael gwybod mwy am raglen ddeddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol.

Cael gwybod mwy am gynnydd tuag at dargedau 2020 Cymru o ran y newid yn yr hinsawdd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ddull Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, mae’n llunio bwletin am y pwnc. I danysgrifio i’r llythyr newyddion, anfonwch ebost i ClimateChangeBulletin@gov.wales

Dyfodol Ffocws

Med 30, 2022

Caiff Dyfodol Ffocws, a weithredir gan Business in Focus, ei ariannu gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU ac mae’n cynorthwyo pobl leol i ‘ailgodi’n gryfach’.

Mae’r prosiect hwn wedi’i ddatblygu er mwyn cynorthwyo pobl leol i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder i hybu eu nodau entrepreneuraidd a dychwelyd i’r gweithle, ac er mwyn cynorthwyo busnesau sy’n ei chael yn anodd ar ôl y pandemig Covid-19.

Dyma rai enghreifftiau o’r cyflawniadau hyd yma ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

  • Mae’r prosiect wedi cynorthwyo dyn lleol i ddatblygu gwasanaeth rheoli gwastraff ar gyfer cleientiaid domestig a masnachol. I sicrhau bod ganddo incwm cynaliadwy, cafodd gymorth i ddefnyddio ei gerbydau nwyddau trwm i ddarparu gwasanaethau i gludwyr lleol drwy gyfleuster atgyfeirio, a chafodd ei gyflwyno i blatfform GwerthwchiGymru er mwyn dod o hyd i gyfleoedd ar draws y sector cyhoeddus.
  • Cynorthwyodd y prosiect un o drigolion Pen-y-bont ar Ogwr a oedd am sefydlu iard adennill sbwriel i brosesu metelau a gwerthu cydrannau ar-lein neu allforio i wledydd yn Affrica/y Dwyrain Canol. Mae hefyd yn ystyried sefydlu cyfleuster storio ar gyfer cynwysyddion llongau, ac mae’r prosiect yn ei gynorthwyo i gael Benthyciad Dechrau Busnes ar gyfer hynny.
  • Mae dyn lleol wedi cael cymorth i lansio ei fusnes sgaffaldiau ei hun ar ôl bod yn gweithio ar draws y diwydiant am dros 20 mlynedd. Nod y busnes yw tyfu a datblygu yn ystod y 12-24 mis nesaf gan gynnig rhagor o gyfleoedd o ran cyflogaeth a buddsoddiad ychwanegol. At hynny, roedd y cymorth a roddwyd yn cynnwys argymhelliad i chwilio am gyfleoedd ym maes Caffael Cyhoeddus.

Mae’r prosiect yn awyddus i gynorthwyo mwy o unigolion a busnesau ledled y rhanbarth. Felly, os oes gennych ddiddordeb, mae manylion cyswllt y prosiect i’w gweld isod:

01656 868502

FocusFutures@businessinfocus.co.uk

www.businessinfocus.co.uk

DyfodolFfocws@businessinfocus.co.uk

Infuse a’r Frwydr yn Erbyn Newid Hinsawdd

Med 30, 2022

Y newyddion diweddaraf gan y rhaglen Infuse: Llenwi ein sector cyhoeddus â dyfeisgarwch a sgiliau arloesol

Mae ein sector cyhoeddus yn newid yn llwyr o flaen ein llygaid, ac mae’r rhaglen Infuse yn cynnig ffyrdd o fynd i’r afael â heriau mwyaf y rhanbarth gyda phob carfan o ddysgwyr.

Dechreuodd Carfan Dau ym mis Mehefin eleni gyda 36 o aelodau cyswllt o 9 awdurdod lleol a 9 aelod cyswllt o sefydliadau a mudiadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Hwn oedd y tro cyntaf i Infuse fod yn agored i bob sefydliad a mudiad yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. O ganlyniad, mae ystod eang o sgiliau ac arbenigeddau’n cydweithio â’i gilydd – gyda chymorth tîm Infuse o gymrodyr ymchwil, gwyddonwyr data ac arbenigwyr ym maes arloesi, data a chaffael. Byddant yn ceisio deall ac ystyried sut mae mynd i’r afael â’r themâu Cyflymu Datgarboneiddio a Cymunedau Cefnogol drwy roi sylw i fater penodol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

O ran Cyflymu Datgarboneiddio ar gyfer y rhanbarth, mae’r carfanau blaenorol eisoes wedi bod yn gweithio gyda dyfeisgarwch er mwyn cymryd camau tuag at nodau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o ran Sero Net. Bwriad gwaith un o aelodau cyswllt Infuse oedd deall a oes yna gyfle i gynhyrchu ynni drwy broses ‘treulio anaerobig’ sy’n ymwneud â ffrwd wastraff nas defnyddir ar hyn o bryd, er enghraifft baw cŵn. Bu aelod cyswllt arall yn ystyried mapio cartrefi o ran carbon er mwyn blaenoriaethu’r angen i gyflawni gwaith ôl-osod yn y rhanbarth.

Y mis hwn, mae’r dysgwyr presennol (Carfan Dau) wedi cyrraedd y cam yn y rhaglen lle byddant yn dechrau edrych a chanolbwyntio ar her y maent am fynd i’r afael â hi ar ran eu sefydliad a’u cymuned, naill ai ar eu pen eu hunain neu fel grŵp ar y cyd. Bydd Infuse yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y canfyddiadau yn y flwyddyn newydd.

Yn y cyfamser, cadwch eich llygaid ar agor am lythyr newyddion y rhaglen ym mis Medi 2022, a fydd yn ymddangos ddiwedd y mis hwn, lle bydd y rhaglen yn lansio 5 astudiaeth achos newydd o Garfan Un, sy’n cynnwys gwaith archwilio i ddarganfod ffyrdd o gael cerbydau fflyd allyriadau isel a deall y galw am ynni mewn ysgolion er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch buddsoddi. Bydd yr astudiaethau achos hyn  wedi’u cysylltu hefyd â thudalen y rhaglen ar gyfer astudiaethau achos ar wefan Cyngor Sir Fynwy. Yno, gallwch hefyd weld astudiaethau achos eraill sydd wedi’u cyhoeddi o’r blaen:

Darllen astudiaethau achos Infuse ar wefan Cyngor Sir Fynwy.

Yn olaf, bydd y prosiect yn recriwtio Carfan Tri yn ystod yr hydref. Cofiwch gofrestru eich diddordeb mewn ymuno, a bydd Infuse yn siŵr o gysylltu â chi cyn gynted ag y bydd y cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau wedi agor yn swyddogol.

Cofrestru eich diddordeb mewn ymuno â Charfan Tri Infuse

Cymunedau Arloesi Economi Gylchol – CEIC

Med 30, 2022

Mae CEIC yn hyrwyddo dull economi gylchol o weithredu, lle mae deunyddiau a chyfarpar yn cael eu defnyddio, eu hailddefnyddio a’u haddasu at ddibenion gwahanol, mor effeithiol ag sy’n bosibl a chyhyd ag sy’n bosibl.

Mae angen i’r sector cyhoeddus yn rhanbarth Prifddinas Caerdydd a’r sector cyhoeddus yn rhanbarth Bae Abertawe gydweithio’n effeithiol â’i gilydd i ailystyried sut y caiff eu hadnoddau eu rheoli a’u rhannu mewn prosiectau a gwasanaethau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, fel y gallant sicrhau’r budd ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol mwyaf posibl o fewn eu sefydliadau.

Yn ystod rhaglen CEIC mor belled, mae 10 grŵp o 126 o gydweithwyr ym maes gwasanaethau cyhoeddus wedi cychwyn creu atebion dylunio i 22 o heriau sy’n ymwneud ag economi gylchol.

Mae rhai o’r heriau sy’n datblygu yn cynnwys y canlynol:

  • Datblygu Sefydliadol: cael staff i ymwneud â’r dull economi gylchol o weithredu, yr hyn y mae staff yn ei ddysgu am garbon
  • Ymgysylltu â Chymunedau: canolfannau adnoddau a rennir, datblygu economi gylchol yng nghyswllt tenantiaid cymdeithasol, cynhyrchu bwyd yn lleol, garddio ar y cyd er mwyn cyflenwi bwyd i’r cyhoedd
  • Datgarboneiddio’r Ystâd ac Adnoddau: gwaith ôl-osod mewn tai cymdeithasol, datblygu trafnidiaeth a’r fflyd, gwaith ôl-osod yng nghyswllt asedau cyhoeddus, gwlân o Gymru fel deunydd inswleiddio
  • Ailddefnyddio, Ailgynhyrchu: plastigau meddygol, adennill dŵr o fwyngloddiau, ailbennu pwrpas yr ystâd bresennol.

Bydd Carfanau 2 TERFYNOL CEIC yn dechrau ym mis Hydref, yn rhanbarth Bae Abertawe a rhanbarth Prifddinas Caerdydd.

Themâu’r carfanau hyn yw cadwyni cyflenwi lleol er mwyn datblygu systemau sylfaenol fel ysgogwyr Economi Gylchol, a hynny’n benodol yng nghyswllt bwyd, trafnidiaeth, ac iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r rhaglenni hyn gan CEIC yn golygu gweithio gyda chydweithwyr ar draws rhanbarth Prifddinas Caerdydd a rhanbarth Bae Abertawe i ddeall a datrys yr heriau, gan gyflwyno economi sylfaenol fel ysgogiadau cylchol ar gyfer newid.

Cael gwybod mwy ar https://ceicwales.org.uk.

Ymunwch â chydweithwyr ym maes gwasanaethau cyhoeddus ar draws cynghorau, byrddau iechyd lleol, colegau, prifysgolion, elusennau ac amryw sefydliadau eraill i fynd i’r afael â’ch heriau.

Gwneud cais i fod yn rhan o raglen CEIC ar wefan y prosiect.

Dyma gyflwyno Cyfarfodydd Uchelgais Werdd Busnes Cymru

Med 30, 2022

Cynhelir Busnes Cymru wyth sesiwn sy’n cynnwys siaradwyr arbenigol yn rhannu eu gwybodaeth, yn edrych ar effeithlonrwydd adnoddau ac ystyried sut allwn eich helpu chi i fynd ati i leihau eich effaith ar y newid yn yr hinsawdd. Gellir lanlwytho pecynnau adnoddau pwnc ar gyfer bob sesiwn, fel eich bod chi’n gallu deall sut allwch gymryd camau cadarnhaol i ysgogi newid o fewn eich busnes.

Gall Busnes Cymru cynnig sesiynau cyngor un i un. Felly, os ydych chi’n cael eich ysbrydoli gan yr hyn rydych yn ei wylio, cysylltwch â’r tîm i drefnu’ch sesiwn am ddim. Fel rhan o’r sesiynau hyn, bydd ymgynghorwyr arbenigol yn eich helpu i lunio’ch Uchelgais Werdd, a chymryd camau rhagweithiol at ddod yn fusnes sy’n fwy effeithlon o ran adnoddau.

Darganfod mwy am Uchelgais Werdd

Cysylltwch â’r tîm Uchelgais Werdd Busnes Cymru

Parc Rhanbarthol y Cymoedd a Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru

Med 30, 2022

Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd (PRhC) wedi bod yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid eraill ar ddatblygu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru.

Mae’r bwriad Parc Rhanbarthol y Cymoedd yw treialu’r uchelgeisiau o ran cael Gwasanaeth Natur Cenedlaethol, mewn ardal lle mae’r angen mwyaf am swyddi ac am adfer byd natur. Bydd PRhC yn helpu i archwilio sut y gallai menter o’r fath ychwanegu gwerth a dyfnder at wasanaethau presennol. Bydd hefyd yn egluro dull gweithredu y gellir ei gyflwyno ar raddfa fwy, a allai hybu’r weledigaeth ehangach, sef cael Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru.

Argyfwng Natur

Yn 2021, cafodd Argyfwng Natur ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn dibynnu ar ecosystemau iach nid yn unig er mwyn cael bwyd, dŵr ac aer glân ond hefyd er mwyn rheoleiddio hinsawdd y gellir byw ynddi. Mae adfer a gwarchod byd natur yn hybu bioamrywiaeth a’r ecosystemau a all amsugno carbon o’r newydd yn sydyn ac yn rhad. Ac mae adfer byd natur ar raddfa fawr, ar draws rhwydweithiau ecolegol sy’n gydnerth, yn golygu bod ein hamgylchedd sy’n cynnal bywyd yn fwy cydnerth ac yn fwy abl i allu gwrthsefyll y digwyddiadau annisgwyl anochel yr ydym eisoes yn eu gweld yn rhan o hinsawdd sy’n newid.

Yn syml, mae gweithredu er budd natur yn gyfystyr â gweithredu er budd yr hinsawdd.

Mae’r her yn un enfawr, ond byddai adfer byd natur ar y raddfa sy’n ofynnol yn esgor ar ystod o fanteision ehangach. Ystyrir bod creu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru yn un o’r ffyrdd y gellir mynd i’r afael â’r her gan sicrhau’r manteision ehangach hyn ar yr un pryd.

Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru

Nod craidd y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol yw adfer byd natur, gan greu swyddi gwyrdd newydd a sbarduno newid tuag at ddarpariaeth o ran sgiliau gwyrdd yng Nghymru.

Mae cyfraniad Parc Rhanbarthol y Cymoedd i’r cynigion yn ymwneud â’r syniad o ddefnyddio’r Canolfannau Darganfod a safleoedd tebyg i gyflwyno sgiliau’n seiliedig ar natur, cyfleoedd dysgu a chyfleoedd o ran hyfforddiant ar stepen drws cymunedau lleol. Mae’r cynigion yn ceisio helpu i sefydlu sylfaen ystyrlon y gellir adeiladu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol arno, gan helpu ar yr un pryd i wireddu rhai o uchelgeisiau craidd gweledigaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd.

Mae Canolfannau Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn rhwydwaith amlwg iawn a hygyrch iawn o ganolfannau sy’n agos i gymunedau lleol.  Mae 12 Canolfan Ddarganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar eu pen eu hunain yn cael dros 2 filiwn o ymweliadau bob blwyddyn.

Rhaglenni i wirfoddolwyr a rhaglenni addysg amgylcheddol sy’n seiliedig ar natur, ar draws rhwydwaith o safleoedd lleol, fod yn sylfaen ar gyfer hyfforddiant ynghylch sgiliau gwyrdd a llythrennedd ecolegol yn rhan o Wasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru.  Byddai dull gweithredu o’r fath yn fodd i droi ein Parciau Gwledig a safleoedd tebyg yn ganolfannau cymunedol hanfodol sy’n cynnig cyfleoedd i ailgysylltu pobl â byd natur a phrosesau naturiol, gan sicrhau ar yr un pryd bod cyfleoedd pendant yn cael eu darparu i ymwneud yn fwy helaeth â sgiliau, hyfforddiant ac addysg.

Gallai darparu swyddi tebyg i swyddi parcmyn cymwys a phrofiadol er mwyn datblygu a chyflwyno’r rhaglenni hyn arwain at elw sylweddol ar fuddsoddiad, a gallai fod yn fodd i gyrraedd llawer o bobl wrth helpu i fynd i’r afael â rhai o achosion sylfaenol yr argyfwng natur. At hynny, gallai fod yn fodd i addasu diben ac adfywio’r rhwydwaith o Barciau Gwledig a Chanolfannau Darganfod er mwyn darparu sylfaen gref i gyflwyno Gwasanaeth Natur Cenedlaethol, gan greu swyddi newydd a llwybrau newydd o ran cyflogaeth a helpu i wreiddio’r newid mewn diwylliant sy’n ofynnol er mwyn mynd i’r afael â’r her genedliadol sydd o’n blaen.

Os hoffech ymwneud â’r gwaith o greu’r Gwasanaeth Natur Cenedlaethol, ewch i https://www.gwasanaethnaturcenedlaethol.cymru i gael rhagor o wybodaeth a chofrestru eich diddordeb.

Daniel Lock

Cynullydd Tirwedd, Diwylliant a Hunaniaeth, Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Yr Her o Ran Sgiliau er Mwyn Cyrraedd Sero Net

Med 29, 2022

Bydd y daith at Sero Net yn gofyn am ddatblygiadau gwyddonol, technolegol a diwylliannol mawr, ond un o’r ffactorau mwyaf fydd sicrhau bod gan y gweithlu’r sgiliau i gyflawni’r gwaith pontio. Mae’r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu a’r prosiect Addysg, Hyfforddiant a Dysgu am Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu (METaL) ym Mhrifysgol Abertawe eisoes wedi bod yn cymryd camau i wella sgiliau unigolion/rhoi sgiliau newydd i unigolion er mwyn datgarboneiddio, drwy ymchwil ôl-raddedig a dysgu’n seiliedig ar waith. Mae cydweithredu rhwng y ddau brosiect wedi sicrhau datblygiad clir o ran sgiliau, o’r ymgysylltu cychwynnol ar lefel 4 hyd at gymwysterau ar lefel doethuriaeth. Mae’r ymchwil a’r hyfforddiant a gynigir yn darparu atebion technegol ac unigolion medrus iawn sy’n ymuno â diwydiant i arwain y gwaith pontio.

Mae’r gwaith o wella sgiliau’n parhau i ddigwydd drwy ystod o fodiwlau o’r prosiect METaL a ariennir gan WEFO, sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gyflawni eu nodau amgylcheddol a symud tuag at Sero Net. Mae’r modiwlau hyn ar gael i fusnesau ledled Cymru, gan gynnwys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac maent yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd.

Cael gwybod mwy am y modiwl hyfforddiant Deunyddiau ar gyfer Ynni.

Bwriad y modiwl Cyflwyniad i Economi Gylchol yw esbonio cysyniadau allweddol ac athroniaeth sylfaenol economi gylchol, a’i manteision i ddiwydiant, ac esbonio syniadau ymarferol y gall busnesau eu defnyddio er mwyn ymgorffori’r cysyniadau hyn yn eu gweithrediadau.

Cael gwybod mwy am y modiwl hyfforddiant Economi Gylchol.

Mae’r modiwl Effaith Amgylcheddol a Chynaliadwyedd ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu mwy am ddeddfwriaeth amgylcheddol, effeithiau trethi amgylcheddol a sut mae cael caniatâd amgylcheddol.

Cael gwybod mwy am y modwl hyfforddiant Effaith Amgylcheddol a Chynaliadwyedd.

Bydd y modiwl Cyflwyniad i Gerbydau Trydan yn cael ei lansio cyn bo hir ac, fel y mae’r enw yn awgrymu, bydd yn canolbwyntio ar gludiant amgen yn lle cludiant traddodiadol sy’n llosgi tanwydd ffosil. Bydd gwybodaeth am egwyddorion motorau tanio a’u hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael ei rhannu yn ogystal â gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf tuag at gerbydau modur sy’n niwtral o ran carbon.

Cael gwybod mwy am y modiwl hyfforddiant Cyflwyniad i Gerbydau Trydan.

Mae diwydiant yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o leihau ein hôl troed carbon, ac un her fawr yw datgarboneiddio’r diwydiant dur. Mae modiwl wedi’i ddatblygu ynghylch dulliau gwyrdd o weithgynhyrchu dur, ac mae’n amlinellu’r cyfleoedd a gynigir gan y gwaith pontio.

Cael gwybod mwy am y modiwl Dulliau Gwyrdd o Weithgynhyrchu Dur.

Bydd gweithgynhyrchu’n hanfodol er mwyn cyflawni’r datblygiadau sy’n ofynnol o ran seilwaith, a’r her i’r sector hwnnw fydd recriwtio unigolion medrus yn ogystal â datblygu deunyddiau a phrosesau newydd ar gyfer pethau megis yr Economi Hydrogen. Bydd angen ffocws newydd hyd yn oed ar dechnegau gweithgynhyrchu traddodiadol megis weldio, oherwydd y risg uwch o fethu yn yr amgylcheddau hyn. Mae dealltwriaeth sylfaenol o’r broses yn dal i gael ei chyflwyno drwy’r modiwl Arc-weldio.

Cael gwybod mwy am y modiwl Arc-weldio.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i gofrestru ar y cyrsiau hyn; maent wedi’u hachredu gan Brifysgol Abertawe, ac ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus bydd myfyrwyr yn cael tystysgrif a 10 credyd prifysgol.

Er y ddarpariaeth gychwynnol hon, megis dechrau y mae’r gwaith o ddatblygu ‘sgiliau gwyrdd’ a bydd y broses o gyflwyno sgiliau’n gofyn am ymdrech gydweithredol, o ymgysylltu ag ysgolion i ddarparu addysg bellach ac addysg uwch. Yn dilyn llwyddiant y gwaith cychwynnol, mae cynnig yn cael ei ddatblygu’n awr er mwyn ehangu’r ddarpariaeth i gyflwyno ‘Sgiliau SWITCH-On’: esgaladur sgiliau aml-lefel i gyflawni gofynion Sero Net.

Yn ogystal â datblygu cyrsiau, mae sianel prosiect METaL ar YouTube yn cael ei diweddaru’n rheolaidd â chynnwys newydd y mae llawer ohono’n canolbwyntio ar sero net a materion amgylcheddol.

Tanysgrifio i sianel METaL ar YouTube.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefannau’r prosiectau: https://materials-academy.co.uk/cy/home-cymraeg/  www.project-metal.co.uk/cy.

Kickstart yng CGGC

Med 29, 2022

Mae Cynllun Kickstart wedi dod i ben, gyda thros 230 o bobl ifanc wedi’u recriwtio drwy CGGC i fudiadau gwirfoddol ledled Cymru.

Menter gan Lywodraeth y DU oedd Cynllun Kickstart, a’i bwriad oedd helpu pobl ifanc i gael gwaith. Roedd y cynllun yn ariannu lleoliad gwaith chwe mis yn llawn ar gyfer pobl ifanc a oedd yn cael Credyd Cynhwysol, ac yn ogystal â chynnig cyflogaeth hanfodol roedd hefyd yn rhoi cyfle i fudiadau gwirfoddol gynyddu eu capasiti pan oedd angen iddynt wneud hynny.

Roedd CGGC yn gorff a oedd yn gweithredu fel ‘porth’ ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru – ac roedd yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol nad oeddent yn ddigon mawr i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun i wneud cais mewn grwpiau.

Yn ystod y ddwy flynedd tra oedd yn bodoli, helpodd y cynllun 60 o fudiadau i recriwtio dros 230 o bobl ifanc i swyddi amrywiol a diddorol ar draws y sector gwirfoddol.

Cael gwybod sut y mae Cynllun Kickstart wedi helpu pobl ifanc drwy fudiadau’r sector gwirfoddol ledled Cymru.

Cynhyrchu Cyfryngau Uwch

Aws 10, 2022

Nod Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yw darparu hyfforddiant achrededig i wella arloesedd a chynhyrchiant o fewn diwydiannau sector cyhoeddus a phreifat Cymru.

Gan weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth, rydym yn cynnig mynediad at hyfforddiant lefel uchel i fusnesau a’u gweithwyr i’w galluogi i ddod yn fwy cynaliadwy ac effeithlon gyda ffocws penodol ar dechnolegau newydd a’u potensial ar gyfer twf cynyddol a swyddi.

Darperir hyfforddiant mewn fformat hyblyg sy’n ymateb i’r diwydiant gan alluogi myfyrwyr i weithio trwy ddysgu o bell â chymorth i ddiweddaru eu gwybodaeth dechnegol a gwella eu sgiliau digidol a chyfryngol.

Mae cynhyrchu a dosbarthu digidol a chyfryngau wedi dod yn ‘ffordd o fyw’ i’r mwyafrif ohonom gyda bron pob cyfathrebiad cymdeithasol a phroffesiynol yn cael ei gynnal trwy sianeli digidol.

Mae Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yn cefnogi busnesau a sefydliadau Cymreig i aros ar flaen y gad o ran datblygiadau o fewn y diwydiant digidol a chyfryngau. Ei phrif amcan yw cefnogi cwmnïau a sefydliadau Cymreig drwy ddarparu hyfforddiant â chymhorthdal sylweddol i’w gweithlu ar dechnoleg newydd a datblygiadau o fewn y meysydd cynhyrchu digidol a chyfryngol.

  • Dewis o 11 modiwl a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog.
  • Dysgu o bell a dysgu ar-lein
  • Mae pob modiwl ar-lein yn rhedeg am 14 wythnos ac wedi’u cynllunio i ganiatáu i fyfyrwyr astudio heb fod angen cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith.
  • Dim arholiadau – asesiad trwy waith cwrs
  • Tri chymeriant blynyddol – Chwefror, Mehefin a Hydref
  • Mae’r modiwlau’n cynnwys: Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau; Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol; Graffeg Gymhwysol; Datblygu’r We; Data Mawr; Diwylliant Digidol; Rhyw a Chynhyrchu Cyfryngau
  • Astudio modiwlau unigol neu weithio tuag at gymhwyster ôl-raddedig (hyd at lefel Meistr).

Dysgu Tyfu – Sylwch fod y prosiect yma nawr ar gau

Gor 13, 2022

Mae’r prosiect yn defnyddio mannau gwyrdd a gweithgareddau amgylcheddol fel arf ymgysylltu i fodel dilyniant cadarnhaol; yn cyd-fynd â chyfleoedd addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a bancio-amser lleol.

Mae’r prosiect wedi’i gynllunio’n benodol i gynnig mentrau ataliol/ymyrraeth gynnar sy’n hyrwyddo cyfleoedd ymarferol go iawn i wella lles corfforol a meddyliol, ail-ymgysylltu â gwaith ac adeiladu rhwydweithiau cynaliadwy o gefnogaeth gan gymheiriaid.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy:

  • datblygiad personol;
  • caffael sgiliau ac achredu;
  • annog cyfranogwyr i gymryd rheolaeth a chyfrifoldeb am gyflawni eu lles eu hunain;
  • aros yn annibynnol,
  • ennill a chynnal gwaith.

Bydd cyfranogwyr yn cael mynediad at daith adferiad ymarferol, gweithredol a fydd yn caniatáu symudiad dwy-ffordd rhwng model cyflawni wyth haen. Datblyg sgiliau trwy ymagwedd fesul cam at ddatblygiad personol sy’n cydnabod y potensial ar gyfer atglafychiad, blinder, sgîl-effeithiau meddyginiaeth, ffyrdd anhrefnus o fyw a lefelau cyfnewidiol o hyder, hunangred a chymhelliant.

Bydd pob cyfranogwr unigol yn profi diweithdra hirdymor neu anweithgarwch economaidd; yn cael ei waethygu gan gyflyrau iechyd meddwl sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio. Yn ogystal ag ystod eang o rwystrau rhyng-gysylltiedig i gyfranogiad yn y farchnad lafur agored.

Ehangu rhaglen CfW+ yn 2023

Meh 30, 2022

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gwaith o ehangu rhaglen gyflogadwyedd CfW+ ym mis Ebrill 2023, gan ddyblu ei chyllideb wreiddiol o £12 miliwn, er mwyn helpu i bontio’r bwlch fydd ar ôl yn sgil cau rhaglenni cyflogadwyedd a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop gan gynnwys Cymunedau am Waith a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE).

Wrth gyhoeddi, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Er gwaethaf addewid Llywodraeth y DU na fyddai Cymru ar ei cholled wrth i’r DU adael yr UE, y realiti yw ein bod yn wynebu colled o fwy nag £1 biliwn mewn cyllid. Ni all Llywodraeth Cymru ddim llenwi’r twll enfawr mae Llywodraeth y DU wedi’i greu yng nghyllideb Cymru, sy’n golygu y bydd angen i ni a’n partneriaid yng Nghymru – sydd wedi elwa o gyllid yr UE o’r blaen – wneud penderfyniadau anodd ar beth i’w ariannu yn y dyfodol.

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o helpu pobl i swyddi o ansawdd da ac aros mewn swyddi o ansawdd da. Dyna pam rydyn ni’n cymryd camau i ariannu rhaglen newydd i Gymru gyfan i gefnogi pobl i wneud hynny. Drwy ariannu ehangu Cymunedau dros Waith a Mwy a chanolbwyntio ar bobl sydd wedi’u tangynrychioli yn y farchnad lafur a’r rhai sy’n wynebu anfantais ac annhegwch wrth gael gwaith, byddwn yn creu Cymru sy’n fwy cyfartal – cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.”

Cadarnhaodd Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau newydd Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Mawrth 2022, y bydd cymorth cyflogadwyedd yn canolbwyntio ar y rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur, ac ar wella canlyniadau’r farchnad lafur i bobl anabl, pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod, pobl ifanc, gweithwyr hŷn dros 50 oed, gofalwyr a’r rhai â sgiliau isel. Bydd rhaglen estynedig Cymunedau dros Waith a Mwy yn cyd-fynd â ReAct + a Twf Swyddi Cymru +, i gyflawni ymrwymiad y Cynllun i ddarparu un model gweithredu o gymorth cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru o 2023 ymlaen.

Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Darllen y cyhoeddiad llawn ar wefan y Llywodraeth.

 
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47,