Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Arwain Twf Busnesau WWV (ION Leadership)

Disgrifiad o’r prosiect

Cynlluniwyd Rhaglen Arweinyddiaeth ION i ddatblygu ac ymestyn sgiliau arwain perchnogion, rheolwyr a phobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol mewn busnesau o unrhyw faint.
Mae’r cwrs a ddarperir gan arbenigwyr busnes, yn seiliedig ar ddysgu ymarferol a dysgu trwy brofiad, yn rhan o grŵp o gyfoedion dibynadwy ac maent yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ddatrysiadau go iawn i’r gwir broblemau y mae arweinwyr yn eu hwynebu ar bob lefel, bob dydd.

Mae creu gwell arweinwyr yn sicrhau gweithlu mwy ymrwymedig, yn cynyddu cynhyrchiant, gwell elw net ac yn y pen draw yn cael effaith gadarnhaol ar Economi Cymru yn gyffredinol.

Bydd y gweithrediad yn cynnig:

  • Arwain Twf – ILM Dyfarniad lefel 5 a Modiwl Lefel 7 Prifysgol Abertawe (15 credyd) + Datblygiad Proffesiynol Parhaus wedi’i ardystio am hyd at 70 awr
  • Rhaglen Arweinwyr Newydd – ILM Dyfarniad Lefel 3 a Datblygiad Proffesiynol Parhaus wedi’i ardystio am hyd at 40 awr

Cwmpas daearyddol

Gweithredir y prosiect ledled ardal rhaglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Perchnogion, rheolwyr, arweinwyr a phobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol mewn cwmnïau bach, canolig a mawr neu fentrau cymdeithasol neu’n gweithio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, ac eithrio’r rhai hynny o’r sector gyhoeddus.

Targedau penodol

594 o gynrychiolwyr sy’n gadael y rhaglen â chymhwyster rhwng Lefel 3 a 7.

Manylion cyswllt

Enw: Ed Bates
E-bost: info@ionleadership.co.uk
Rhif ffôn: 01792 606704
Cyfeiriad: Ystafell 260 Adeilad Talbot, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

LinkedIn Dolen