Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gwerthuso prosiect

Legal Innovation Lab Final Evaluation – Report Final_Welsh

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Labordy Arloesedd Cyfreithiol Cymru

Disgrifiad o’r prosiect

Cynllun £5.6 miliwn (£4 miliwn drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop), yn cefnogi datblygiad cyfleusterau ymchwil/cydweithio unigryw a threfniadau penodi staff ymchwil.

Nod y cynllun yw annog arloesedd mewn Technoleg Gyfreithiol, Mynediad at Gyfiawnder, a gwrthsefyll seiberfygythiadau drwy wneud y canlynol:

  • sicrhau’r cyfleoedd gorau i arloesi yn y sector Technoleg Gyfreithiol newydd;
  • datblygu pecynnau cymorth a fframweithiau i liniaru’r perygl o droseddwyr a therfysgwyr yn cam-fanteisio ar gyfryngau ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol;
  • defnyddio cynnyrch a gwasanaethau digidol sy’n helpu cymunedau i gael gafael ar ganllawiau a gwybodaeth gyfreithiol.

 Mae’r cynllun yn parhau â gwaith y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau, y Ganolfan ar gyfer Arloesi ac Entrepreneuriaeth yn y Gyfraith, a Chlinig y Gyfraith yn y Brifysgol.

Model Cyflawni

  • Sefydlu cyfleusterau ymchwil ac arloesi newydd:
      • Ystafelloedd Seiberfygythiadau
      • Canolfan Arloesi Cyfreithiol
      • Man Cydweithredu ac Arloesi
      • Clinig y Gyfraith
  • Penodi tîm prosiect (gan gynnwys tîm datblygu meddalwedd)
  • Penodi ymchwilwyr a fydd yn gweithio ym maes Seiberfygythiadau a Thechnoleg Gyfreithiol
  • Cynnal gweithgareddau ymgysylltu i ddod ag ymchwilwyr a defnyddwyr ymchwil at ei gilydd i ddatblygu prosiectau cydweithio.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i bob awdurdod lleol ledled Cymru. Ariennir y gwaith o dan raglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ond bwriedir iddo gefnogi arloesedd cyfreithiol ledled Cymru.

Targedau penodol

  • Sefydlu cyfleusterau ymchwil newydd erbyn haf 2020
  • Penodi 7.6 ymchwilydd newydd cyfwerth ag amser llawn
  • 20 ymchwilydd cyfwerth ag amser llawn i weithio yn y cyfleusterau erbyn mis Mehefin 2023
  • 20 o bartneriaid yn cydweithio ar brosiectau ymchwil
  • £3.4 miliwn o incwm ymchwil

Manylion cyswllt

Enw: Dr Chris Marshall
E-bost: c.g.marshall@swansea.ac.uk
Rhif ffôn: 01792 513240
Cyfeiriad: Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP

Twitter: Twitter