Nod y prosiect hwn yw sefydlu gallu ymchwil o safon fyd-eang ym Mhrifysgol Caerdydd gydag arbenigedd cydnabyddedig ym maes prosesu, nodweddu, gweithgynhyrchu ac ailgylchu deunyddiau magnetig arbenigol. Mae gan Gymru sylfaen gref mewn rhaglenni a chadwyni cyflenwi a deunyddiau magnetig, sy’n dangos ‘Arbenigaeth Glyfar’ glir a thynfa ddiwydiannol yn y maes hwn. Mae’r gallu ymchwil presennol yng Nghaerdydd yn cwmpasu prosesu deunyddiau, gweithgynhyrchu a nodweddu, gyda chyfleusterau cyfyngedig ar gyfer profi moduron a pheiriannau mawr. Bydd MAGMA yn ychwanegu cynhwysedd ymchwil cyflenwol newydd ac yn adnewyddu labordai, gan gynnwys systemau dynamometr newydd ar gyfer profi moduron cerbydau trydan modern, a chyfrifiaduron, meddalwedd ac arbenigedd ar gyfer dylunio, efelychu a modelu magnetig.
Bydd y Gweithrediad yn darparu gweithgareddau yn uniongyrchol yn rhanbarth Dwyrain Cymru drwy:
Bydd hyn yn ailfywiogi’r amgylchedd ymchwil yng Nghaerdydd, drwy ddatblygu’r gallu i gael gafael ar gronfeydd y DU, Ewropeaidd a Rhyngwladol yn gystadleuol, gan gyflawni canlyniadau ymchwil sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Bydd y prosiect o fudd i holl ardal rhaglen Dwyrain Cymru.
Penodwyd rheolwr datblygu labordy sydd eisoes wedi dechrau ar ei swydd. Mae swyddi darlithydd wedi eu hysbysebu a chynhelir cyfweliadau cyn gynted â phosibl. Penodwyd rheolwr prosiect i ddechrau ym mis Hydref.