Meithrin, Darparu, Ffynnu (NET)
Disgrifiad o’r prosiect
Bydd prif elfen y gweithgarwch yn canolbwyntio ar gefnogi cyfranogwyr nad oes ganddynt gyflogaeth ddigonol ac sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth lawn i wella eu sefyllfa yn y farchnad lafur.
Bydd yr ail elfen yn cynorthwyo cyfranogwyr â chyflyrau iechyd neu anableddau sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio sydd naill ai’n ceisio dychwelyd i’r byd gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb neu sy’n awyddus i wella eu sefyllfa yn y farchnad lafur.
Yn olaf, bydd y drydedd elfen yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chyflogwyr er mwyn gweithredu a gwella iechyd, amrywiaeth a chydraddoldeb yn y gweithle.
Cymorth i unigolion:
- Asesiad cychwynnol yn seiliedig ar y model ‘@work’ a fydd yn nodi’r rhwystrau sy’n wynebu pobl. (Darperir cymorth wedyn i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn gan ddefnyddio darpariaeth fewnol ac asiantaethau allanol)
- Cymorth mentora a hyfforddi unigol
- Broceriaeth swyddi
- Cymorth iechyd meddwl a chorfforol
Cymorth i fusnesau:
- Rhaglenni iechyd yn y gweithle
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cwmpas daearyddol
Mae’r prosiect yn cael ei weithredu yn yr awdurdodau lleol canlynol yn y De-ddwyrain: Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Torfaen.
Meini prawf cymhwyster hanfodol
- Dros 16 oed
- Cyflogedig (Dim isafswm oriau)
Targedau penodol
- Nifer y cyfranogwyr – 2289
- Nifer y BBaChau yn derbyn cymorth – 150
- Nifer y rhaglenni iechyd yn y gweithle – 71
- Nifer y cyfranogwyr yn gwella eu sefyllfa yn y farchnad lafur – 733
- Nifer y cyfranogwyr yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb – 261
Manylion cyswllt
Enw: Matthew Davies
E-bost: Matthew.Davies@torfaen.gov.uk
Rhif ffôn: 01633 647745
Cyfeiriad: Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, Y Briffordd, Croesyceiliog, Torfaen, NP44 2HF
Gwefan: