Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)
Disgrifiad o’r prosiect
Gall PaCE helpu rhieni/gofalwyr sy’n economaidd anweithgar baratoi ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth. Caiff rhieni gymorth unigol trwy’r Cynghorwr Cyflogaeth i Rieni yn y gymuned, a fydd yn eu helpu i wella eu sgiliau, mynd i’r afael â diffyg hunan-barch/ hyder ac yn tywys rhieni/gofalwyr yn agosach at gyflogaeth gynaliadwy. Cyniga’r Prosiect:
- Gefnogaeth bersonol mewn lleoliadau sy’n addas i deuluoedd, gan eu helpu i chwilio am gyfleoedd hyfforddi neu swyddi
- Cymorth gyda chyfrifiadau ‘Gwella eich byd’
- Cyngor ac arweiniad ar hunangyflogaeth
- Cymorth gyda chostau gofal plant cyn cyflogaeth
- Cyngor ynglŷn â darpariaethau gofal plant sydd wedi eu cofrestru’n lleol, a’r costau
Cwmpas daearyddol
Gweithredir y prosiect ym mhob ardal ledled Cymru lle nad yw Cymunedau yn Gyntaf yn gweithredu.
Meini prawf cymhwyster hanfodol
Rhieni 25 oed a hŷn sy’n economaidd anweithgar
Rhieni Ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET)
- Gall cyfranogwyr sy’n 25 oed neu’n hŷn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymhorthdal Incwm neu heb fod ar unrhyw fudd-daliadau.
- Unig riant
- Gofalwyr
- Rhieni sydd mewn partneriaeth, pan mai’r prif rwystr sy’n atal y naill riant rhag gweithio yw gofal plant
- Pobl 16-24 oed nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET)
Manylion cyswllt
E-bost: PaCE@wales.gsi.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 0604400
Cyfeiriad: Llywodraeth Cymru, Tîm PaCE, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
Gwefan:
Manylion ychwanegol
Ardal ddarpariaeth yr awdurdodau lleol ac enw cyswllt
Pen-y-bont a Rhondda Cynon Taf – Laurie Hayward
Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy, Torfaen, Bro Morgannwg – TBC