Mae prosiect Sgiliau@Gweithle yn ceisio cynyddu lefelau sgiliau, gan gynnwys sgiliau sy’n berthnasol i waith y rhai yn y gweithlu heb unrhyw sgiliau neu â sgiliau isel.
Nod y prosiect yw cynyddu perchenogaeth sgiliau trosglwyddadwy generig ar bob lefel o Lefel Mynediad 1 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) hyd at Lefel 2 FfCChC ledled gweithlu rhanbarth Dwyrain Cymru trwy ddarpariaeth yn y gymuned, ac o ganlyniad i hyn yn gwella’r cyfleoedd i weithwyr sydd â sgiliau isel ar hyn o bryd i gynnal cyflogaeth a chynyddu enillion posibl.
Bydd darpariaeth yn y gymuned yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr anfoddog i ymgysylltu â chyfleoedd dysgu hyblyg y tu allan i’r gweithle, a bydd yn cynnig darpariaeth amrywiol gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, TGCh a sgiliau trosglwyddadwy generig eraill, gan arwain at gymhwyster cymwys o Lefel Mynediad 1 FfCChC hyd at Lefel 2 FfCChC. Bydd meithrin sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn faes allweddol i wella symudedd y gweithlu a chyflogaeth gynaliadwy.
I fod yn gymwys ar gyfer Sgiliau@Gweithle mae’n rhaid i gyfranogwyr:
Fod heb sgiliau neu â sgiliau isel.