Mae SMARTCymru yn rhan o gyfres o raglenni integredig a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) sy’n darparu cymorth i fusnesau a sefydliadau ymchwil yng Nghymru er mwyn masnacheiddio cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd a ddatblygwyd drwy brosesau ymchwil, datblygu ac arloesi.
Prif nod SMARTCymru yw buddsoddi ar y cyd mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesi er mwyn cael twf cynaliadwy.
Mae SMARTCymru yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau Cymru er mwyn bod o gymorth iddynt ddatblygu, gweithredu a masnacheiddio cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd.
Bydd y rhaglen yn cyfrannu at fuddsoddiadau mewn prosiectau i helpu i greu a datblygu capasiti a galluedd busnesau Cymru i arloesi ymhellach.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://businesswales.gov.wales/expertisewales/smartcymru
Cyflawnir SMARTCymru gan dîm â llawer o brofiad diwydiannol ym maes Ymchwil, Datblygu ac Arloesi.
Mae arbenigwyr arloesi SMARTInnovation yn allweddol ar gyfer cyflawni’r gweithrediad, gan eu bod yn gweithio’n agos gyda busnesau yn ystod y cam cwmpasu a hyd at gyflwyniad y cais.
Mae gan ein tîm Arfarnu amrywiaeth o brofiad ac arbenigedd sy’n caniatáu iddynt benderfynu ar y cymorth all fod ar gael.
Mae timau Monitro ac Ôl-gwblhau yn sicrhau bod y cynnydd a’r effaith o’r prosiectau yn cael eu cofnodi.
Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae’n rhaid i gwmnïau fod wedi eu lleoli yng Nghymru.
Asesir prosiectau yn erbyn meini prawf dethol i fesur cynaliadwyedd y prosiect o ran arloesi technolegol a gwerth am arian i’r trethdalwyr. Cynigir cyllid ar ddisgresiwn Llywodraeth Cymru.
Mae’r cymorth wedi’i anelu’n bennaf at fusnesau bach a chanolig (BBaChau).
Allbynnau
Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017
Mae’r rhaglen bresennol wedi cefnogi 250 o fusnesau erbyn hyn ac mae wedi dyfarnu dros £8 miliwn o grantiau.