Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

SMARTExpertise

Disgrifiad o’r prosiect

Mae SMARTExpertise yn cefnogi prosiectau cydweithredol rhwng diwydiant a sefydliadau ymchwil yng Nghymru, sy’n mynd i’r afael â heriau technegol diwydiannol strategol gyda phwyslais clir ar fasnacheiddio ac elwa ar gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd a thwf mewn capasiti a’r gallu mewn meysydd allweddol o Arbenigo Clyfar.

Nod SMARTExpertise yw:

  • cynyddu masnacheiddio ym maes Ymchwil, Datblygu ac Arloesi o fewn sefydliadau ymchwil ar y cyd â diwydiant.
  • Annog busnesau ac ymchwilwyr i weithio gyda’i gilydd ar brosiectau arloesi ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg sydd o bwys strategol
  • Helpu i sicrhau cyllido dilynol a gaiff ei ddyrannu’n gystadleuol
  • Helpu i ddatblygu’r arbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu, ynghyd â chapasiti mewn sefydliadau ymchwil ac yn y diwydiant gan greu Clystyrau Arloesi

Rhagor o wybodaeth:  https://businesswales.gov.wales/expertisewales/cy/smartexpertise

Model Cyflawni

Darperir SMARTExpertise gan dîm profiadol ym maes arloesi, trosglwyddo gwybodaeth a thechnoleg, sydd wedi gweithio ym maes diwydiant, y sector cyhoeddus ac academia. Mae gan y tîm lawer o brofiad yn ymgysylltu ag academia a diwydiant, ac yn flaenorol wrth gyflenwi mewn cysylltiad â phrosiectau a ariennir gan yr UE.

Mae’r Rheolwyr Ymchwil a Datblygu yn chwarae rhan allweddol o ran cyflawni gan eu bod yn nodi ac yn cwmpasu prosiectau cydweithredol rhwng sefydliadau ymchwil a diwydiant. Bydd tîm SMARTExpertise yn ychwanegu gwerth drwy weithio’n agos gyda SMARTInnovation, SMARTCymru, gweithrediadau Gwyddoniaeth Amgylcheddol a Thechnoleg eraill, rhaglenni Ymchwil, Datblygu ac Arloesi y DU a’r UE, ynghyd â Horizon 2020.

Bydd arbenigwyr arloesi SMARTInnovation yn gweithio mewn modd integredig iawn gyda’r Rheolwyr Ymchwil a Datblygu, gan sicrhau gwell gysylltiadau cyfathrebu rhwng y partïon.

Mae’r cyllid yn cefnogi 100% o gostau prosiect cymwys y sefydliadau ymchwil a fydd yn cyfateb i uchafswm o 50% o gyfanswm y costau prosiect sy’n gymwys. Mae’r partneriaid diwydiannol yn darparu balans cyfanswm costau’r prosiectau cymwys sy’n weddill. Rhoir y cyllid i’r sefydliad ymchwil.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Bydd cyllid ar gael i gynorthwyo 100% o’r costau prosiect sy’n gymwys ar gyfer sefydliadau ymchwil a bydd hyn yn cyfateb i gyfanswm o 50% o’r holl gostau prosiect sy’n gymwys. Bydd y partneriaid diwydiannol yn darparu gweddill y balans o gyfanswm y costau prosiect sy’n gymwys. Caiff y cyllid ei ddyfarnu i’r sefydliad ymchwil. Mae angen cael o leiaf un sefydliad ymchwil Cymreig a 2 bartner nad ydynt yn academaidd.

Nid oes cyfyngiadau ar faint neu leoliad y partneriaid diwydiannol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r prosiect ddangos ei fod yn gydweithrediad effeithiol a fydd yn darparu effeithiau cadarnhaol ar gyfer economi Cymru.

Oes y prosiectau: Mae’n rhaid i weithgaredd y prosiect orffen heb fod yn hwyrach na 1 Awst 2022

Nid yw gwaith ymchwil ar gontract a’r ddarpariaeth o wasanaethau ymchwil yn gymwys.

Targedau penodol

EW WWV
Nifer y mentrau sy’n cydweithio â sefydliadau ymchwil a gynorthwyir 212 120
Cynyddu cyflogaeth mewn mentrau a gynorthwyir. 110 63
Nifer y mentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion newydd i’r farchnad. 32 18
Nifer y mentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion newydd i’r cwmni. 48 27
Nifer y patentau a gofrestrwyd ar gyfer cynhyrchion. 53 30

Manylion cyswllt

Enw: Leanne Thomas
E-bost: smartexpertise@gov.wales
Rhif ffôn: 0300 061 5963
Cyfeiriad: Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Main Avenue, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 5YR

Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Cynnydd

Y cynnydd hyd at ddiwedd Awst 2019

Cymeradwywyd 17 o Brosiectau – cyfanswm y cyllid a gymeradwywyd £9.7 miliwn, cyfanswm gwerth y prosiect £20.2 miliwn.