Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gwerthuso prosiect

Gwerthuso

Evaluation of Social Business Wales Phase 2

Evaluation of SBW News Starts Phase 2

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Busnes Cymdeithasol Cymru

Disgrifiad o’r prosiect

Bydd gweithrediad Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu cymorth busnes arbenigol i fusnesau cymdeithasol ar gyfer twf ar draws Cymru. Mae busnesau cymdeithasol yn cynnwys mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau ym mherchnogaeth cyflogeion.

Model Cyflawni

Bydd cymorth un i un ar gael i fusnesau cymdeithasol cymwys sy’n bwriadu ehangu a datblygu eu busnes. Bydd y cymorth yn cynnwys:

  • Creu gweledigaeth a chynllunio twf
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Cyngor ar strwythurau cyfreithiol ac ymgorffori
  • Datblygu bwrdd
  • Cynllunio busnes
  • Cynllunio ariannol
  • Strategaeth gwerthu a marchnata
  • Cyngor ar drethi a TAW
  • Recriwtio ac Adnoddau Dynol

Bydd cymorth ar gyfer datblygu marchnad yn cefnogi’r cymorth un i un a gynigir i fusnesau cymdeithasol cymwys ar draws Cymru.

Cwmpas daearyddol

Cyflawnir y prosiect drwy Gymru gyfan.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Penderfynir ar hawl i fod yn rhan o’r prosiect gan y Cynghorydd Busnes ar gyfer y rhanbarth. I fod yn gymwys bydd yn rhaid i’r busnes cymdeithasol ddangos twf, e.e. creu swyddi, ehangu, trawsnewid, cydweithredu neu arallgyfeirio.

Targedau penodol

  • Cynyddu cyflogaeth yn y mentrau a gefnogir (500)
  • Mentrau sy’n cael cefnogaeth nad yw’n ariannol (500)
  • Mentrau sy’n mabwysiadu neu’n gwella strategaethau datblygu cynaliadwy (250)
  • Mentrau sy’n mabwysiadu neu’n gwella strategaethau cydraddoldeb/systemau monitro (250)

Manylion cyswllt

E-bost: sbwenquiries@wales.coop
Rhif ffôn: 0300 060 3000
Cyfeiriad: Y Borth, Heol y Beddau, Caerffili, CF83 2AX
Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Cynnydd

Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017

Mae’n bodloni pob targed ar hyn o bryd:

  • Mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi cefnogi 160 o fusnesau
  • Crëwyd 116 o swyddi
  • Cefnogwyd 55 o fusnesau cymdeithasol i fabwysiadu neu wella eu strategaethau datblygu cynaliadwy
  • Cefnogwyd 61 o fusnesau cymdeithasol i fabwysiadu neu wella eu strategaethau cydraddoldeb/systemau monitro