Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gwerthuso prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Astudiaeth Achos

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Cyflawni newid drwy gyflogaeth CGL (ACE) – Sylwch fod y prosiect yma nawr ar gau

Disgrifiad o’r prosiect

Mae ‘Cyflawni Newid drwy Gyflogaeth’ (ACE) yn helpu Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, ac unigolion mudol, i gael cyfleoedd hyfforddi, gwirfoddoli a chyflogaeth.

Nod prosiect ACE yw galluogi Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru i gael cyflogaeth gynaliadwy. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant a chymorth cyflogaeth i bobl er mwyn cynyddu eu cyfranogiad a’u dilyniant yn y farchnad lafur. Mae hyn yn cynnwys targedu cyfran uchel o Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, a menywod mudol sy’n economaidd anweithgar.

Mae’r prosiect yn darparu:

  • Mentora
  • Cymorth gan gymheiriaid trwy gyfranogiad gwirfoddol
  • Canllawiau cyflogadwyedd
  • Trosglwyddo cymwysterau o dramor i gymwysterau a gydnabyddir yn y DU pan fo modd
  • Cyngor gyrfaoedd
  • Darparu cyrsiau i ddysgu Saesneg yn gyflym/ cyrsiau rhuglder pan fo hynny’n briodol
  • Cymorth i leoliadau gwirfoddoli
  • Cymorth i leoliadau gwaith
  • Cyngor ynghylch hawliau gweithwyr a gofynion cyfreithiol cyflogwyr
  • Darparu cyfleoedd i ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol i bobl yn eu cymunedau

Cwmpas daearyddol

Gweithredir y prosiect ym mhob ardal ledled Cymru

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Mae’n rhaid i atgyfeiriadau i CGL ACE yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd fod:

  1. O gefndir Mudol neu o gefndir Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
  2. Dros 25 oed
  3. Yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU
  4. a) Wedi bod yn ddi-waith am dros 12 mis (gellir hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ond dim ar y Rhaglen Waith)
    NEU
    b) Yn economaidd anweithgar

Targedau penodol

  • Swyddi i bobl (gan gynnwys hunangyflogaeth),
  • Lleoliadau gwirfoddoli/gwaith
  • Pobl yn cwblhau cyrsiau hyfforddi.

Manylion cyswllt

Enw: Helen Matthews
E-bost: Helen.Matthews2@cgl.org.uk
Rhif ffôn: 029 2022 1936
Cyfeiriad: Change Grow Live, 57-59 Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1FE
Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter

Cynnydd

Cliciwch i weld y fideo