Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

SPECIFIC (Canolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol)

Disgrifiad o’r prosiect

SPECIFIC yw Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth achrededig y DU sydd â chyfleusterau o safon fyd-eang sy’n cyfuno Ymchwil a Datblygu cymhwysol, gweithgynhyrchu peilot, integreiddio systemau ac arddangos adeiladu gyda datblygu busnes a masnacheiddio. Ein gweledigaeth yw creu ‘Adeiladau sy’n Orsafoedd Pŵer’ drwy ddatblygu ac integreiddio cenhedlaeth newydd o dechnolegau storio a rhyddhau gan ddefnyddio ynni solar.

Model Cyflawni

Ariennir a rheolir SPECIFIC gan Brifysgol Abertawe, gyda phartneriaid strategol gan gynnwys TATA Steel, NSG, Akzo Nobel a Phrifysgol Caerdydd. Cefnogir gan gronfeydd strwythurol ERDF, Innovate UK a Chyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol. Gan ddatblygu ei thechnolegau ei hunan, yn ogystal â chydweithredu â phartneriaid diwydiannol, mae SPECIFIC yn datblygu prosesau arbrofi cysyniad, arddangoswyr ar raddfa labordy ac ar raddfa adeilad i arddangos potensial y weledigaeth Adeiladau sy’n Orsafoedd Pŵer. Yn ogystal â hynny, gall gydweithredu â chwmnïau wedi eu lleoli yn y Gorllewin ac yn y Cymoedd

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i ardaloedd awdurdod lleol yn ardal y rhaglen yn y Gorllewin a’r Cymoedd.

Targedau penodol

Mae gan SPECIFIC yr amcanion ERDF penodol canlynol yn y Gorllewin a’r Cymoedd:

  • Nifer y prosiectau peilot a gyflawnwyd – 48
  • Nifer y patentau a gofrestrwyd – 26
  • Cynnydd mewn cyflogaeth yn y mentrau a gefnogir – 85
  • Cynhyrchion newydd i’r cwmni – 33
  • Cynhyrchion newydd i’r farchnad – 16
  • Nifer y mentrau newydd a gefnogir – 3
  • Mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n ariannol – 70
  • Mentrau sy’n cydweithredu â sefydliadau ymchwil a gefnogir – 51
  • Buddsoddiadau preifat cyfatebol i gymorth cyhoeddus – £7,000,000

Manylion cyswllt

Enw: Dr Dave Bould
E-bost: D.C.Bould@Swansea.ac.uk
Rhif ffôn: 01792 606872
Cyfeiriad: Canolfan Arloesedd Bae Baglan, Rhodfa Ganolog, Baglan, Port Talbot, SA12 7AX
Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Cynnydd

Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017

Mae SPECIFIC wedi datblygu’n llwyddiannus ac wedi ennill gwobrau gyda’i arddangosydd unigryw, sef yr ystafell ddosbarth weithredol gyntaf sy’n ynni positif. Adeiladwyd hon gan ddefnyddio’r technolegau diweddaraf o ran cynhyrchu, storio a rhyddhau ynni.

Mae SPECIFIC hefyd yn creu arddangosyddion ar raddfa adeilad yn ei chyfleuster arddangos gwres gan ynni solar (SHED), lle gwresogir adeilad diwydiannol mawr gan ddefnyddio ynni solar yn unig. Mae’r technolegau a ddatblygwyd yn cynnwys systemau storio gwres yn ddyddiol ac yn dymhorol, er mwyn dal y gwres i’w  ddefnyddio pan fo angen.

Mae SPECIFIC hefyd yn gweithio’n agos gyda chymdeithasau tai, megis Pobl, sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer cynllun tai cymdeithasol seiliedig ar dai ynni positif.