Rhaglen buddsoddi £15 miliwn yw Uwchgyfrifiadura Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’n galluogi Cymru i gystadlu yn rhyngwladol am brosiectau ymchwil ac arloesedd sydd eisiau cyfleusterau uwchgyfrifiadura.
Mae’r rhaglen yn cynnwys buddsoddiad mewn canolfannau uwchgyfrifiadura wedi eu huwchraddio yng Nghaerdydd ac Abertawe a hefyd recriwtio grŵp o Beirianwyr Meddalwedd Ymchwil a gaiff eu lleoli mewn timau ymchwil academaidd. Byddant yn gweithio i ddatblygu meddalwedd wedi’i theilwra sy’n gwneud defnydd o’r cyfleuster uwch-gyfrifiadura i gyflawni nifer o dasgau cyfrifiadurol ar yr un pryd ar gyflymder uchel iawn.
Mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn cefnogi ystod amrywiol o weithgareddau ymchwil ledled Cymru sydd angen cyfleusterau uwchgyfrifiadura. Cyflawnir y prosiect pum mlynedd gan gonsortiwm o brifysgolion yng Nghymru, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, ar y cyd a phrifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe.
Bydd Grŵp Ffiseg Disgyrchiant ym Mhrifysgol Caerdydd, a gyhoeddodd yn 2015 y datgeliad cyntaf o donnau disgyrchiant yn rhan o gonsortiwm LIGO (Laser Interferometer Gravitational-Wave Observatory), yn elwa ar y cyfleusterau a uwchraddiwyd. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd tonnau disgyrchiant yn caniatáu i wyddonwyr archwilio craidd sêr sy’n ffrwydro, ac edrych ar strwythur sêr niwtron, ac o bosib, ddatgelu ffenomenau hollol newydd ac annisgwyl a fydd yn herio ein canfyddiadau presennol o’r bydysawd. Bydd Parc Geneteg Cymru sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd hefyd yn manteisio ar y cyfleusterau, gan ei helpu i ddatblygu ei ymchwil arloesol sy’n rhoi dealltwriaeth, diagnosis a thriniaethau i ystod eang o glefydau etifeddol a chanser.
Ym Mhrifysgol Abertawe, bydd y cyfleusterau’n cefnogi Prosiect ‘Bloodhound’ — y car 1,000mya cyntaf y byd – a bydd y cyfleusterau yn cael eu defnyddio i efelychu sut y bydd y car yn ymddwyn wrth deithio ar gyflymder uchel digyffelyb. Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn defnyddio’r adnoddau i greu’r wybodaeth sydd ei hangen yn fyd-eang i ragweld y tywydd a gwella modelau o’r tywydd. Bydd yr algorithmau sy’n cael eu datblygu gan y Brifysgol yn cael eu defnyddio gan Swyddfa Dywydd y DU fel rhan o ragolygon dyddiol y tywydd.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, caiff y cyfleusterau eu defnyddio i gefnogi prosiectau ymchwil, gan gynnwys dilyniannu DNA er mwyn bridio planhigion, a heriau ‘Data Mawr’ wrth arsylwi ar y byd. Defnyddir y cyfleusterau er mwyn dadansoddi darluniau lloeren eglur iawn i asesu arwyneb y tir a llystyfiant. Bydd y cyfleusterau ym Mhrifysgol Bangor yn cefnogi prosiectau ar ynni llanw a phrosiectau eigionegol. Bydd cyfleoedd iddynt hefyd ryngweithio â phrosiectau SEACAMS 2 a ariennir gan ERDF.
Bydd y prosiect o fudd i Gaerdydd a’r De-ddwyrain a hefyd Ceredigion, Gwynedd ac Abertawe.
Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017