Prosiect Llywodraeth Cymru yw hwn, a wnaed yn bosibl drwy gefnogaeth gan yr UE a Llywodraeth y DU. Mae’n brosiect sy’n anelu at gynnig darpariaeth band eang cyflym iawn i ardaloedd sy’n anodd eu cyrraedd, pan nad yw cyflwyno masnachol yn ddilys yn economaidd. Fel prosiectau blaenorol o’r gyfran ERDF yn 2007-2013, ei nod yw parhau i osod seilwaith cyfathrebu cryf, hyblyg, sy’n edrych i’r dyfodol drwy ddarparu mynediad at y rhwydwaith drwy gysylltiad ffeibr seiliedig ar gabinetau ar draws y De-ddwyrain a’r Gorllewin a’r Cymoedd. Nod arall y prosiect yw darparu mynediad cyffredin fforddiadwy i’r gwasanaethau sydd eu hangen i ddinasyddion a busnesau, ac yn sgil hynny, ddatblygu economi ddigidol ar gyfer Cymru.
Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o’r cynllun strategol i ddarparu Band Eang Cyflym Iawn ar draws Cymru. Ystyrir hyn yn allweddol ar gyfer twf economaidd ynghyd â gwella ansawdd bywyd ar gyfer holl drigolion Cymru.
Bydd yn defnyddio’r dechnoleg Ffeibr i Gabinet (FTTC*) i ddarparu mynediad at gyflymder o fwy na 30 Mbps i adeiladau, ac mae’n cyd-fynd â phrosiect ychwanegol, gyda’r bwriad o ddarparu ffeibr i’r adeilad (FTTP) a fydd â chyflymder o 100Mbps neu’n uwch. Mae’r ddau brosiect yn bwriadu darparu mynediad ar gyfer o leiaf 96% o adeiladau.
Mae arbrofi’r adeiladau a gynhwysir yn annibynnol yn sicrhau bod y cyflymderau a nodwyd gan y partner sy’n ddarparwr yn cael eu monitro. Mae hyn yn helpu i gael y gwerth am arian gorau gan wneud taliadau ar gyfer gwiriadau llwyddiannus yn unig.
*FTTC – Gosodir ffeibr o’r gyfnewidfa i’r cabinetau stryd, sy’n galluogi cyflymderau uwch dros y pellter byr o wifren gopr sydd ar ôl. Mae’r dewis hwn yn rhatach na FTTP, ond mae’r perfformiad yn is, yn arbennig ar gyfer cyflymderau lanlwytho. Ceir nifer o heriau gweithredol a gweithredu, yn ogystal â chyfyngiadau ar alluedd uwchraddio.
Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Y grwpiau targed penodol y disgwylir iddynt fanteisio ar gefnogaeth gan y prosiect hwn yw deiliaid tai preswyl a busnesau yng Nghymru. Ni chaiff yr adeiladau sydd eisoes wedi eu cynnwys mewn gweithredoedd cyflwyno masnachol eu hystyried yn gymwys. Y dechnoleg a gaiff ei defnyddio yw FTTC.
Y targed penodol ar gyfer y prosiect hwn yw: Nifer yr adeiladau ychwanegol â mynediad at Fand Eang sydd â chyflymder o 30Mbps o leiaf = 46,801 (dwyrain Cymru) a 69,524 (y Gorllewin a’r Cymoedd)
Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017
Ers diwedd mis Mehefin 2017, nifer yr adeiladau ychwanegol sydd â mynediad at Fand Eang, â chyflymder o 30Mbps o leiaf yn gysylltiedig â’r prosiect hwn, yw 34,963 yn ne Cymru a 41,737 o adeiladau yn y Gorllewin a’r Cymoedd.
.