Polisi’r DU

Wrth gwrs, mae amrywiaeth o bolisïau a strategaethau’r DU sy’n berthnasol i weithrediadau a ariennir gan yr UE yng Nghymru er gwaethaf datganoli. Mae’r mwyaf perthnasol o’r rhain yn ymwneud â’r broses Brexit. Rydym wedi crynhoi digwyddiadau hyd yn hyn ac wedi casglu cyfres o gysylltiadau defnyddiol sy’n gysylltiedig â Brexit.  Mae tudalen hefyd ar gynlluniau cyllido Llywodraeth y DU ar ôl yr UE sy’n dod i’r amlwg.

Strategaeth Ddiwydiannol y DU

Mae Strategaeth Ddiwydiannol y DU yn amlinellu cynllun y llywodraeth i greu economi sy’n rhoi hwb i gynhyrchiant a gallu pobl i ennill cyflog ledled y DU ac mae pum sylfaen benodol wrth graidd y cynllun –

  • Syniadau: economi fwyaf arloesol y byd
  • Pobl: swyddi da a mwy o allu i ennill cyflog i bawb
  • Seilwaith: gwelliannau sylweddol i seilwaith y DU
  • Busnes: yr amgylchedd gorau i ddechrau a datblygu busnes
  • Lleoedd: cymunedau llewyrchus ledled y DU

Mae hon yn strategaeth ar gyfer y DU gyfan ac mae cyfleoedd cyllido ynghlwm wrthi drwy heriau mawr a chytundebau sectorau’r llywodraeth. Byddai’n ddoeth i fusnesau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ymgyfarwyddo â’r Strategaeth drwy’r dolenni yn yr adran hon a chofrestru i gael gohebiaeth yn rheolaidd ar e-bost drwy’r ddolen hon.

Mae llywodraeth y DU wedi creu map rhyngweithiol i arddangos rhai o’r sefydliadau arloesol lawer sydd eisoes yn elwa ar y Strategaeth Ddiwydiannol ac sy’n sbarduno twf ledled y DU.

Bil Amaethyddiaeth 2017-19


Bydd Bil Amaethyddiaeth hirddisgwyliedig y Llywodraeth yn arwain at y newid mwyaf yn y system gymhorthdal ar gyfer y sector amaeth ers cenhedlaeth. Cafodd y Bil ei ddarlleniad cyntaf ar 12 Medi 2018 ac fe gwblhaodd y cam pwyllgor ym mis Tachwedd 2018.

Bydd Bil Amaethyddiaeth 2018 yn awdurdodi gwariant newydd at ddibenion amaethyddol penodol a dibenion penodol eraill, gan wneud darpariaeth ar gyfer taliadau uniongyrchol yn ystod cyfnod o drawsnewid ar gyfer y sector amaethyddol ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Canolbwyntir yn bennaf ar roi pwerau cyfreithiol i’r llywodraeth fabwysiadu’r system o dalu arian ffermwyr o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol presennol, ac yna dileu’r system honno dros gyfnod o saith mlynedd a’i disodli â System Rheoli Tir Amgylcheddol. Nid yw manylion y system hon ar gael eto, ond rydym yn gwybod y bydd yn disodli Cynllun y Taliad Sylfaenol a’r system Stiwardiaeth Cefn Gwlad bresennol.

Mae rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y Bil Amaethyddiaeth ar gael yma.