Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru

Disgrifiad o’r prosiect

Mae’r gweithrediad hwn yn fenter datblygu graddedigion ar y cyd sy’n cyfuno datblygiad galwedigaethol ac astudiaeth academaidd, a arweinir gan Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru ac a ddarperir gan sefydliadau gwasanaethau ariannol yng Nghaerdydd. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a’r diwydiant gwasanaethau ariannol.

Mae’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn cynnwys Legal & General, Admiral, Atradius, Cyllid y BBC, Amtrust, DS Smith, V12 Retail Finance, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Hodge Bank, GM Financial, Cyllid Cymru ac Optimum Credit.

Mae Prifysgol De Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r rhaglen, i gynnig y cymhwyster MSc mewn Rheoli Gwasanaethau Ariannol.

Nod y gweithrediad yw cynnig rhaglen hyfforddi a datblygu i raddedigion o’r radd flaenaf, a fydd yn arwain at greu cronfa dalent o safon uchel o ran sgiliau gwasanaethau ariannol yng Nghaerdydd, er mwyn cefnogi arloesedd a thyfiant y diwydiant.

Hyd yn hyn, mae’r rhaglen wedi recriwtio a datblygu 74 o raddedigion, cyflogir 90% ohonynt gan y Consortiwm neu ddiwydiant lleol, a bydd yn cynyddu i 115 erbyn 2019.

Cwmpas daearyddol

Gweithredir y prosiect mewn ardaloedd heb Cymunedau yn Gyntaf yn ardal rhaglen Ddwyrain Cymru.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Graddedigion â gradd 2:1 a’r hawl i weithio yn y DU.

Targedau penodol

Recriwtio a datblygu 80 o raddedigion a chyflawni 80 cymhwyster Meistr dros gyfnod o 4 blynedd.

Manylion cyswllt

Enw: Rowena O’Sullivan
E-bost: rowena.osullivan@atradius.com
Rhif ffôn: 029 2082 4022
Cyfeiriad: Atradius, Harbour Drive, Caerdydd, CF10 4WZ
Gwefan: Website
Twitter: Twitter