Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Astudiaeth Achos 1

Sgiliau Gwaith i Oedolion II

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Sgiliau Gwaith i Oedolion yn brosiect rhanbarthol sy’n cefnogi pobl gyflogedig heb gymwysterau ffurfiol neu lefelau isel yn unig, ledled siroedd Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen. Nod y prosiect yw cynnig cymorth i gyfranogwyr ennill sgiliau newydd a chymwysterau achrededig.

Bydd aelodau o dîm y prosiect yn helpu cyfranogwyr i adnabod yr hyn sy’n eu rhwystro rhag ennill cyflogaeth a chefnogi pobl ar sail unigol i oresgyn y rhwystrau.

Mae’r prosiect yn cynnig:

  • Hyfforddiant sgiliau, cymwysterau a chyrsiau galwedigaethol am ddim.
  • Cymorth â chwilio am swyddi, ysgrifennu CV a sgiliau cyfweld.
  • Cymorth ychwanegol i’r rhai hynny sy’n wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag gweithio, megis cyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio, anghenion gofal plant a chludiant.

Cwmpas daearyddol

Gweithredir y prosiect ledled Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Mae’n rhaid bod y cyfranogwyr yn 16 oed neu’n hŷn, yn gyflogedig a heb gymhwyster FfCCh sy’n uwch na Lefel 2.

Targedau penodol

  • 2564 o gyfranogwyr yn cymryd rhan
  • 1870 o gyfranogwyr yn ennill cymhwyster

Manylion cyswllt

Enw: Matthew Davies
E-bost: Matthew.Davies@torfaen.gov.uk
Rhif ffôn: 01633 647745
Cyfeiriad: CAC Croesyceiliog, Y Briffordd, Croesyceiliog, Torfaen NP44 2HF
Gwefan: Website

Manylion ychwanegol

Ardal darpariaeth awdurdodau lleol ac enw cyswllt

Blaenau Gwent – Rebecca Phillips
Caerffili – Elizabeth Goodwin
Merthyr Tudful – Leanne Williams
Torfaen – Angela Shirlow