{"id":5938,"date":"2021-05-10T16:48:42","date_gmt":"2021-05-10T15:48:42","guid":{"rendered":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/uk-government-funds-post-eu-funding\/"},"modified":"2023-05-26T16:04:13","modified_gmt":"2023-05-26T15:04:13","slug":"uk-government-funds-post-eu-funding","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/","title":{"rendered":"Cronfeydd Llywodraeth y DU ar \u00f4l Cyllid yr UE"},"content":{"rendered":"<h2><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-5940\" src=\"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Bank-Notes.jpg\" alt=\"\" width=\"900\" height=\"341\" srcset=\"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Bank-Notes.jpg 900w, https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Bank-Notes-300x114.jpg 300w, https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Bank-Notes-768x291.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/h2>\n<h2>Y Gronfa Ffyniant Bro<\/h2>\n<p>Mae\u2019r Gronfa Ffyniant Bro yn cefnogi gwaith adfywio canol trefi a\u2019r stryd fawr, prosiectau trafnidiaeth leol, ac asedau diwylliannol a threftadaeth. Mae\u2019r gronfa gystadleuol yn werth \u00a34.8 biliwn ledled y DU, gydag o leiaf \u00a3800 miliwn i\u2019w neilltuo ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon dros bedair blynedd rhwng 2021 a 2025.<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd canlyniadau ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro ym mis Ionawr 2023, gyda \u00a32.1 biliwn wedi\u2019i ddyfarnu i 111 o brosiectau. Ar y cyd \u00e2 chymeradwyaethau&#8217;r rownd gyntaf, mae&#8217;r Gronfa Ffyniant Bro wedi dyfarnu \u00a33.8 biliwn i 216 o brosiectau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r prosiectau wedi\u2019u cynllunio i greu swyddi, ysgogi twf economaidd, helpu i adfer balchder pobl yn y mannau lle maent yn byw a lledaenu cyfleoedd yn fwy cyfartal. Dyfarnwyd \u00a3208m i brosiectau llwyddiannus yng Nghymru, gan gynnwys \u00a3105m ar gyfer y prosiectau canlynol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd:<\/p>\n<ul>\n<li>\u00a350m ar gyfer Cam 1 Crossrail Caerdydd. Bydd hyn yn helpu i ddarparu lein newydd rhwng Bae Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog, gan wella teithio i filoedd o bobl sy&#8217;n teithio bob dydd rhwng y gorsafoedd.<\/li>\n<li>\u00a318m i drawsnewid Pafiliwn y Grand, Porthcawl, un o&#8217;r adeiladau mwyaf adnabyddus yn Ne Cymru, sydd wedi dirywio ar \u00f4l blynyddoedd o waith adnewyddu achlysurol.<\/li>\n<li>\u00a39m i adeiladu campws peirianneg newydd ar gyfer 600 o bobl ifanc ym Mlaenau Gwent a fydd yn cynnig rhaglen helaeth o brentisiaethau a lleoliadau diwydiant yn yr ardal i&#8217;r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.<\/li>\n<li>\u00a37.6m i drawsnewid adeiladau adfeiliedig yn Hwb Diwylliannol Pont-y-p\u0175l, canolfan ddiwylliannol ffyniannus gyda bwyty newydd i hybu\u2019r economi gyda&#8217;r nos.<\/li>\n<li>\u00a320m i adeiladu canolfan hamdden a lles o&#8217;r radd flaenaf yng Nghaerffili, gan gynnwys campfa a phwll nofio newydd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cyhoeddwyd 105 o geisiadau llwyddiannus o dan rownd 1 ar 3 Tachwedd 2021, gyda deg ohonynt yng Nghymru. O fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd roedd tri chais llwyddiannus yn RhCT:<\/p>\n<ul>\n<li>\u00a35.3m i adnewyddu Canolfan Gelfyddydau&#8217;r Muni ym Mhontypridd, gan helpu i ddiogelu dyfodol yr adeilad rhestredig Gradd II.<\/li>\n<li>\u00a33.5m ar gyfer Hwb Trafnidiaeth y Porth. Bydd yr hwb newydd yn gyfnewidfa bysiau a threnau integredig, wedi&#8217;i leoli yn yr orsaf reilffordd.<\/li>\n<li>\u00a311.4m i gyflawni cynlluniau deuoli Coed El\u00e1i ar yr A4119 ym Mhontypridd. Bydd y cynllun mawr yn darparu 1.5km o ffordd ddeuol a llwybr cymunedol a rennir ar wah\u00e2n o Gylchfan Coed El\u00e1i i Barc Busnes Llantrisant \u2013 ynghyd \u00e2 phont teithio llesol newydd sy\u2019n croesi\u2019r A4119 i\u2019r de o gylchfan Coed El\u00e1i, i ddarparu llwybr cymunedol a rennir newydd i mewn i\u2019r pentref.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cadarnhau y bydd rownd arall o&#8217;r Gronfa Ffyniant Bro.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/levelling-up-fund-round-2-successful-bidders\">Gweld y rhestr o ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer rownd 2 y Gronfa Ffyniant Bro<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/levelling-up-fund-first-round-successful-bidders\">Gweld y rhestr o ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer rownd 1 y Gronfa Ffyniant Bro<\/a><\/p>\n<h2>Y Gronfa Ffyniant Gyffredin<\/h2>\n<p>Cafodd y Gronfa Ffyniant Gyffredin ei chynnig gyntaf ym maniffesto\u2019r Blaid Geidwadol yn 2017.\u00a0Y weledigaeth ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw helpu i sicrhau ffyniant a chreu cyfleoedd ledled y DU ar gyfer pobl a lleoedd.\u00a0Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyllid domestig ledled y DU sydd o leiaf yn cyfateb i dderbyniadau&#8217;r Undeb Ewropeaidd, sef tua \u00a31.5 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cefnogi\u2019r amcan ffyniant bro o feithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd trwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:<\/p>\n<ul>\n<li>Cymuned a Lle<\/li>\n<li>Cefnogi Busnesau Lleol; a<\/li>\n<li>Pobl a Sgiliau<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU yn cefnogi darpariaeth ledled ardaloedd daearyddol strategol rhanbarthol De-ddwyrain Cymru\/Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, a De-orllewin Cymru\/Bae Abertawe.<\/p>\n<p>Er mwyn cael mynediad at eu dyraniad o\u2019r cyllid, gweithiodd pob awdurdod lleol gyda phartneriaid lleol i gytuno ar ganlyniadau ac ymyriadau mesuradwy sy&#8217;n adlewyrchu anghenion a chyfleoedd lleol. Roedd y rhain yn sail i Gynllun Buddsoddi Rhanbarthol y cytunwyd arno (yn cwmpasu\u2019r holl Awdurdodau Lleol yn y rhanbarth) a gymeradwywyd gan Lywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2022. Cadarnheir y cyllid ar gyfer tair blwyddyn ariannol, a rhaid i bob ymyriad ddod i ben erbyn mis Mawrth 2025.<\/p>\n<p>Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, fel yr awdurdod arweiniol dynodedig, yn derbyn dyraniad yr ardal ac yn ymgymryd \u00e2\u2019r rheolaeth strategol ar y gronfa ar gyfer De Ddwyrain Cymru. Mae\u2019r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol yn cydnabod mai\u2019r ffordd orau o gyflawni balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd cynyddol yw drwy ddarparu\u2019n agos at bobl a busnesau lleol a thrwy awdurdodau sy\u2019n deall cyd-destun a hunaniaeth leol unigryw pob lle. Bydd yr ymyriadau felly&#8217;n cael eu haddasu i weddu i nodweddion lleol a&#8217;r gwahanol heriau a chyfleoedd ar draws y rhanbarth.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiffcapitalregion.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/ukspf-regional-investment-plan.pdf\">Gellir gweld crynodeb o Gynllun Buddsoddi Rhanbarthol SPF ar gyfer y rhanbarth ar wefan Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.<\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r gronfa hefyd yn cynnwys rhaglen rhifedd newydd i oedolion sy&#8217;n werth \u00a3559 miliwn, a hynny ar gyfer y DU gyfan, sef Lluosi, a fydd yn cefnogi pobl sydd heb unrhyw sgiliau mathemateg, neu sydd \u00e2 sgiliau lefel isel, i ddychwelyd i&#8217;r gwaith. Bydd y cynllun yn cynnig tiwtora personol am ddim, hyfforddiant digidol, a chyrsiau hyblyg i wella hyder a sgiliau rhifedd oedolion.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/lnks.gd\/l\/eyJhbGciOiJIUzI1NiJ9.eyJidWxsZXRpbl9saW5rX2lkIjoxMDIsInVyaSI6ImJwMjpjbGljayIsImJ1bGxldGluX2lkIjoiMjAyMjA0MTQuNTY0MDkwMTEiLCJ1cmwiOiJodHRwczovL3d3dy5nb3YudWsvZ292ZXJubWVudC9wdWJsaWNhdGlvbnMvdWstc2hhcmVkLXByb3NwZXJpdHktZnVuZC1wcm9zcGVjdHVzIn0.a1vcfAGOmWNGn3JwOFm5mEHpFuP_V1TL0K86yvBxcvI\/s\/1527314953\/br\/129813366259-l\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gellir gweld Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a\u2019r dogfennau ategol sydd ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.<\/a><\/p>\n<h3>Dyraniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i awdurdodau lleol unigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd<\/h3>\n<table style=\"width: 85.9397%; border-style: solid;\" width=\"99.7445%\">\n<tbody>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Awdurdodau unigol<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\"><strong>Cronfa Ffyniant Gyffredin Graidd y DU<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\"><strong>Lluosi<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\"><strong>Cyfanswm<\/strong><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Blaenau Gwent<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\">\u00a323,301,572<\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\">\u00a34,863,920<\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\">\u00a328,165,492<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Pen-y-bont ar Ogwr<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\">\u00a319,116,296<\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\">\u00a33,990,295<\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\">\u00a323,106,591<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Caerffili<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\">\u00a328,272,298<\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\">\u00a35,901,499<\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\">\u00a334,173,797<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Caerdydd<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\">\u00a334,587,594<\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\">\u00a37,219,740<\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\">\u00a341,807,334<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Merthyr Tudful<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\">\u00a322,698,977<\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\">\u00a34,738,136<\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\">\u00a327,437,113<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Sir Fynwy<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\">\u00a35,919,533<\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\">\u00a31,235,631<\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\">\u00a37,155,164<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Casnewydd<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\">\u00a327,177,563<\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\">\u00a35,672,986<\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\">\u00a332,850,549<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Rhondda Cynon Taf<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\">\u00a337,320,994<\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\">\u00a37,790,305<\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\">\u00a345,111,298<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Torfaen<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\">\u00a320,431,241<\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\">\u00a34,264,774<\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\">\u00a324,696,014<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Bro Morgannwg<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\">\u00a311,606,505<\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\">\u00a32,422,717<\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\">\u00a314,029,222<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 42.511%;\" width=\"233\"><strong>Y cyfanswm ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd\/De Ddwyrain Cymru<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 19.5296%;\" width=\"121\"><strong>\u00a3230,432,572<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 18.8139%;\" width=\"121\"><strong>\u00a348,100,003<\/strong><\/td>\n<td style=\"width: 23.9827%;\" width=\"120\"><strong>\u00a3278,532,575<\/strong><\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<h3>Ymateb Llywodraeth Cymru i&#8217;r Gronfa Ffyniant Gyffredin<\/h3>\n<p>Rhyddhaodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, ddatganiad ysgrifenedig pan gyhoeddwyd y gronfa, yn mynegi pryderon nad yw\u2019r SPF yn bodloni ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyfateb i faint cronfeydd yr UE y mae Cymru wedi\u2019u cael yn flaenorol ac y byddai wedi bod yn gymwys ar eu cyfer; ac nad oes digon o ffocws ar y cymunedau mwyaf anghenus.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/lnks.gd\/l\/eyJhbGciOiJIUzI1NiJ9.eyJidWxsZXRpbl9saW5rX2lkIjoxMDEsInVyaSI6ImJwMjpjbGljayIsImJ1bGxldGluX2lkIjoiMjAyMjA0MTQuNTY0MDkwMTEiLCJ1cmwiOiJodHRwczovL3d3dy5nb3YudWsvZ292ZXJubWVudC9wdWJsaWNhdGlvbnMvdWstc2hhcmVkLXByb3NwZXJpdHktZnVuZC1hbGxvY2F0aW9ucy1tZXRob2RvbG9neS91ay1zaGFyZWQtcHJvc3Blcml0eS1mdW5kLWFsbG9jYXRpb25zLW1ldGhvZG9sb2d5LW5vdGUifQ.EC0DKeChVhd0xE1AP4_sr9AmCnyQ7IwRCgriIAeAHBs\/s\/1527314953\/br\/129813366259-l\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gweld y nodyn ar fethodoleg dyraniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar wefan Llywodraeth y DU.<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/lnks.gd\/l\/eyJhbGciOiJIUzI1NiJ9.eyJidWxsZXRpbl9saW5rX2lkIjoxMDMsInVyaSI6ImJwMjpjbGljayIsImJ1bGxldGluX2lkIjoiMjAyMjA0MTQuNTY0MDkwMTEiLCJ1cmwiOiJodHRwczovL2dvdi53YWxlcy93cml0dGVuLXN0YXRlbWVudC11ay1zaGFyZWQtcHJvc3Blcml0eS1mdW5kP3V0bV9zb3VyY2U9cnNzLWFubm91bmNlbWVudHMmdXRtX21lZGl1bT1yc3MtZmVlZCZ1dG1fY2FtcGFpZ249YW5ub3VuY2VtZW50cy1Xcml0dGVuK1N0YXRlbWVudCUzQStUaGUrVUsrU2hhcmVkK1Byb3NwZXJpdHkrRnVuZCJ9.OxsBLwgn3y-M2Tkd1l4CFPhaRHpSr_HUsKZCQ6uociQ\/s\/1527314953\/br\/129813366259-l\">Gellir gweld y datganiad gan Vaughan Gething AS ar ddyraniadau SPF y DU ar wefan Llywodraeth Cymru.\u00a0<\/a><\/p>\n<p>Rhyddhawyd datganiad pellach gan Vaughan Gething pan gyhoeddwyd cymeradwyaeth y Cynlluniau Buddsoddi Rhanbarthol gan Lywodraeth y DU, yn tynnu sylw at effaith yr oedi wrth gymeradwyo.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/written-statement-delivery-uk-shared-prosperity-fund\">Gellir gweld y datganiad gan Vaughan Gething AS ar gyflawni SPF y DU ar wefan Llywodraeth Cymru<\/a><\/p>\n<p>Mae\u2019r Fforwm Strategol ar gyfer Buddsoddiad Rhanbarthol, sy\u2019n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru, yn parhau i gyfarfod i drafod cyllid buddsoddi rhanbarthol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/gov.wales\/strategic-forum-regional-investment-wales\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gweld y cofnodion a\u2019r papurau o&#8217;r Fforwm Strategol ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol ar wefan Llywodraeth Cymru.<\/a><\/p>\n<h2>Cronfa Adfywio Cymunedol y DU<\/h2>\n<p>Nod Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU (CRF) oedd cefnogi\u2019r bobl a\u2019r cymunedau mwyaf anghenus ledled y DU, gan helpu i dreialu dulliau a rhaglenni newydd i fynd i\u2019r afael \u00e2 heriau lleol wrth baratoi ar gyfer cyflwyno\u2019r SPF. Dewiswyd y prosiectau arloesol i gyd-fynd \u00e2 blaenoriaethau lleol a chefnogi blaenoriaethau buddsoddi rhaglen y Gronfa Adfywio Cymunedol:<\/p>\n<ul>\n<li>Buddsoddiad mewn sgiliau<\/li>\n<li>Buddsoddiad ar gyfer busnesau lleol<\/li>\n<li>Buddsoddiad mewn cymunedau a lle<\/li>\n<li>Cefnogi pobl i mewn i gyflogaeth<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn wreiddiol, cymeradwywyd prosiectau i fod yn weithredol tan fis Mehefin 2020 ac wedyn cawsant gyfle i ymestyn eu hamserlen cyflawni tan 30 Rhagfyr 2022. Mae pob prosiect wedi cau bellach.<\/p>\n<p>Lluniodd Llywodraeth y DU fynegai o 100 o leoedd \u00e2 blaenoriaeth, yn seiliedig ar gadernid economaidd, wedi\u2019i fesur yn \u00f4l cynhyrchiant, incwm aelwydydd, diweithdra, sgiliau, a dwysedd y boblogaeth. Fodd bynnag, roedd pob awdurdod arweiniol yn gallu gwahodd ceisiadau a chydlynu pecyn o geisiadau gwerth hyd at \u00a33 miliwn ar gyfer eu hardaloedd. Mae&#8217;r prosbectws ar gyfer y buddsoddiad o \u00a3220 miliwn i&#8217;w weld yn <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/uk-community-renewal-fund-prospectus\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cronfa Adfywio Cymunedol y DU: prosbectws \u2013 GOV.UK (www.gov.uk)<\/a>.<\/p>\n<p>Cymeradwywyd 70 o brosiectau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy&#8217;n werth cyfanswm o \u00a319,610,821.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/view.officeapps.live.com\/op\/view.aspx?src=https%3A%2F%2Fassets.publishing.service.gov.uk%2Fgovernment%2Fuploads%2Fsystem%2Fuploads%2Fattachment_data%2Ffile%2F1031148%2FUKCRF_successful_bids_list.ods&amp;wdOrigin=BROWSELINK\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Darllen y rhestr lawn o&#8217;r prosiectau a gymeradwywyd ledled y DU<\/a><\/p>\n<h2>Cronfa Perchnogaeth Gymunedol<\/h2>\n<p>Cronfa gwerth \u00a3150 miliwn gan lywodraeth y DU yw\u2019r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol (COF) sy\u2019n helpu grwpiau cymunedol i ddiogelu, drwy berchnogaeth gymunedol, asedau yn eu hardal leol sydd mewn perygl o fynd yn angof.<\/p>\n<p>Gall grwpiau wneud cais am hyd at \u00a3250k o arian cyfatebol i helpu i gymryd yr awenau neu redeg ased er, mewn achosion eithriadol, mae hyd at \u00a31m ar gael ar gyfer asedau chwaraeon. Yn y rownd gyllido gyntaf, ariannwyd tri phrosiect gwerth \u00a3464,258 yng Nghymru.<\/p>\n<p>Cyhoeddodd Llywodraeth y DU brosbectws wedi\u2019i ddiweddaru ar gyfer rownd 2 COF ddiwedd mis Mai 2022. Isod mae\u2019r prif newidiadau o\u2019r rownd gyntaf i fod yn ymwybodol ohonynt:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae proses ymgeisio dau gam bellach. Mae\u2019r cam datganiad o ddiddordeb (EOI) ar agor bob amser. Bydd ymgeiswyr yn llenwi ffurflen fer (a ddylai gymryd rhwng 10 a 15 munud) i wirio eu cymhwysedd a chael adborth ar gynigion cyn cyflwyno cais llawn.<\/li>\n<li>Dim ond ymgeiswyr sy\u2019n llwyddo yn y cam datganiad o ddiddordeb sy\u2019n cael ffurflenni cais llawn<\/li>\n<li>Bydd tri chyfnod ymgeisio yn ystod y flwyddyn, a dim ond ar \u00f4l llwyddo yn y cam datganiad o ddiddordeb y gellir cyflwyno ceisiadau.<\/li>\n<li>Nod rheolwyr y gronfa yw rhoi adborth ar ddatganiadau o ddiddordeb o fewn tair wythnos<\/li>\n<li>Erbyn hyn mae terfyn o ddau gais i bob prosiect<\/li>\n<li>Mae\u2019r prosbectws yn cynnwys mwy o fanylion am gymhwysedd ar gyfer asedau chwaraeon ac asedau\u2019r sector cyhoeddus.<\/li>\n<li>Mae\u2019r amserlen ar gyfer cwblhau prosiectau wedi\u2019i hymestyn o chwe mis i ddeuddeg mis<\/li>\n<li>Prydlesi 25 mlynedd a ffefrir o hyd, ond bydd y gronfa\u2019n caniat\u00e1u asedau sydd ag o leiaf bymtheg mlynedd o brydlesi a chymalau terfynu rhesymol yn awr<\/li>\n<li>Mae\u2019r gofyniad i brosiectau fod wedi cael defnydd cymunedol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf wedi\u2019i ddileu, ond rhaid i asedau ddangos tystiolaeth o ddefnydd cymunedol yn y gorffennol o hyd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae bwriad i gynnig cymorth datblygu yn y dyfodol ac mae Llywodraeth y DU wrthi\u2019n caffael darparwr i gefnogi darpar ymgeiswyr. Rhagwelir y bydd hyn ar waith yn ddiweddarach eleni.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r meini prawf ar gyfer asesu ceisiadau wedi newid.<\/p>\n<p>Cynghorir prosiectau i beidio \u00e2 rhuthro gyda\u2019u ceisiadau a\u2019u cyflwyno pan fyddant yn barod.<\/p>\n<p>Agorodd trydedd ffenestr ymgeisio Rownd 2 ar 15 Chwefror 2023 a bydd yn cau ar 14 Ebrill 2023, a disgwylir ffenestri ymgeisio pellach yn 2023 a 2024.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/community-ownership-fund-prospectus\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Darllen prosbectws COF<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y Gronfa Ffyniant Bro Mae\u2019r Gronfa Ffyniant Bro yn cefnogi gwaith adfywio canol trefi a\u2019r stryd fawr, prosiectau trafnidiaeth leol, ac asedau diwylliannol a threftadaeth. Mae\u2019r gronfa gystadleuol yn werth [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0,"footnotes":""},"class_list":["post-5938","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.6 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cronfeydd Llywodraeth y DU ar \u00f4l Cyllid yr UE - South East Wales Regional Engagement Team<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cronfeydd Llywodraeth y DU ar \u00f4l Cyllid yr UE - South East Wales Regional Engagement Team\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Y Gronfa Ffyniant Bro Mae\u2019r Gronfa Ffyniant Bro yn cefnogi gwaith adfywio canol trefi a\u2019r stryd fawr, prosiectau trafnidiaeth leol, ac asedau diwylliannol a threftadaeth. Mae\u2019r gronfa gystadleuol yn werth [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"South East Wales Regional Engagement Team\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-05-26T15:04:13+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Bank-Notes.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/cy\\\/uk-government-funds-post-eu-funding\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/cy\\\/uk-government-funds-post-eu-funding\\\/\",\"name\":\"Cronfeydd Llywodraeth y DU ar \u00f4l Cyllid yr UE - South East Wales Regional Engagement Team\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/cy\\\/uk-government-funds-post-eu-funding\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/cy\\\/uk-government-funds-post-eu-funding\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/05\\\/Bank-Notes.jpg\",\"datePublished\":\"2021-05-10T15:48:42+00:00\",\"dateModified\":\"2023-05-26T15:04:13+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/cy\\\/uk-government-funds-post-eu-funding\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/cy\\\/uk-government-funds-post-eu-funding\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/cy\\\/uk-government-funds-post-eu-funding\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/05\\\/Bank-Notes.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/05\\\/Bank-Notes.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/cy\\\/uk-government-funds-post-eu-funding\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cronfeydd Llywodraeth y DU ar \u00f4l Cyllid yr UE\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/\",\"name\":\"South East Wales Regional Engagement Team\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.sewales-ret.co.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cronfeydd Llywodraeth y DU ar \u00f4l Cyllid yr UE - South East Wales Regional Engagement Team","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cronfeydd Llywodraeth y DU ar \u00f4l Cyllid yr UE - South East Wales Regional Engagement Team","og_description":"Y Gronfa Ffyniant Bro Mae\u2019r Gronfa Ffyniant Bro yn cefnogi gwaith adfywio canol trefi a\u2019r stryd fawr, prosiectau trafnidiaeth leol, ac asedau diwylliannol a threftadaeth. Mae\u2019r gronfa gystadleuol yn werth [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/","og_site_name":"South East Wales Regional Engagement Team","article_modified_time":"2023-05-26T15:04:13+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Bank-Notes.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/","url":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/","name":"Cronfeydd Llywodraeth y DU ar \u00f4l Cyllid yr UE - South East Wales Regional Engagement Team","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Bank-Notes.jpg","datePublished":"2021-05-10T15:48:42+00:00","dateModified":"2023-05-26T15:04:13+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Bank-Notes.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Bank-Notes.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/uk-government-funds-post-eu-funding\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cronfeydd Llywodraeth y DU ar \u00f4l Cyllid yr UE"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/","name":"South East Wales Regional Engagement Team","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5938","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5938"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5938\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.sewales-ret.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5938"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}