Mae PDU yn weithrediad sydd wedi’i ddylunio i hwyluso cydweithio rhwng y Brifysgol a chwmnïau gweithgynhyrchu cymwys yng Nghymru. Diben y gweithrediad yw gwella a chynyddu capasiti a gallu pob cwmni i ymwneud â thechnolegau a deunyddiau gweithgynhyrchu uwch, ac i hwyluso’r broses o fabwysiadu technegau gweithgynhyrchu uwch. Yn y modd hwn, gellir cyflawni capasiti a gallu cwmnïau i arloesi ac felly sicrhau twf cynaliadwy ar adeg lle ceir newid technolegol cyflym. Mae’r gweithrediad wedi’i leoli yng nghanolfan arbenigol y Brifysgol ar gyfer ymchwilio i dechnolegau gweithgynhyrchu uwch, Canolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol Cymru.
Archwiliad manwl o sefyllfa bresennol eich busnes a lle y gellir cyflwyno technolegau uwch.
Prosiect peilot sy’n para unrhyw beth o chwe wythnos i chwe mis lle mae prosesau newydd yn cael eu profi.
Trosi camau 1 a 2 yn newid gweithredol cynaliadwy ac ystyrlon. Gall PDU gynorthwyo’r gwneuthurwr i gael gafael ar gyllid a’i gyfeirio at bartneriaid eraill er mwyn cyflawni potensial llawn y cam hwn.
Bydd y prosiect o fudd i bob awdurdod lleol yng Nghymru.
56 o fentrau sy’n derbyn cymorth anariannol
Cynnydd o ran cyflogaeth mewn mentrau a gefnogir—7
35 o fentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion sy’n newydd i’r cwmni
16 o fentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion sy’n newydd i’r farchnad
4 patentau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer cynhyrchion
£70k buddsoddiad preifat
24 o fentrau sy’n derbyn cymorth anariannol
Cynnydd o ran cyflogaeth mewn mentrau a gefnogir – 3
15 o fentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion sy’n newydd i’r cwmni
4 o fentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion sy’n newydd i’r farchnad
1 patent bydd wedi’u cofrestru ar gyfer cynhyrchion
£30k buddsoddiad preifat
Cysylltu trwy Linked In MADECymru