Tasglu’r Cymoedd

Roedd nifer y bobl a bleidleisiodd dros adael yr UE yn y refferendwm yn 2016 yn syndod i lawer. Arweiniodd hyn at drafodaeth eang yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol. A hyn yn bennaf gan fod yr ardal wedi cael biliynau o bunnoedd gan Ewrop. Dyma’r cefndir i’r Tasglu’r Cymoedd newydd gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Gweinidog Dysgu Gydol Oes, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, a’r Gweinidog Sgiliau, ynghyd â grŵp o gynghorwyr arbenigol, yn gweithio ar ddatblygu modd newydd y gall Llywodraeth Cymru gyflwyno newid ar gyfer y Cymoedd. Bydd y tasglu yn seilio ei waith ar waith adfywio blaenorol mewn ffordd sy’n fwy cydlynol a phenodol er mwyn diwallu anghenion cymunedau o Gwmbrân yn y dwyrain i Lyn-nedd yn y gorllewin.
Mae’r tasglu, ar ôl cael ei sefydlu yn 2016, wedi bod yn ymgynghori â phobl sy’n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. Maent wedi siarad â mwy na 1000 o unigolion ac wedi ymgysylltu â mwy na 7000 o bobl drwy gyfryngau cymdeithasol. Mae’r rhaglen ymgysylltu hon wedi arwain at greu cynllun o safon uchel “Ein Cymoedd, Ein Dyfodol”, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017. Cyhoeddwyd fersiwn 1 o’r cynllun cyflawni manwl ym mis Tachwedd 2017.
Mae cynllun “Ein Cymoedd, Ein Dyfodol” yn amlinellu tair blaenoriaeth allweddol:
1. Swyddi a sgiliau
Dyma nod y flaenoriaeth hon erbyn 2021:
- Bydd y bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru yn cael ei gau. Mae hyn yn golygu helpu 7,000 o bobl yn ychwanegol i gael gwaith teg ac y bydd miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy yn cael eu creu yn y Cymoedd.
- Bydd pobl sy’n byw yn y Cymoedd yn cael mynediad at y sgiliau cywir
i gael gwaith.
- Cefnogir busnesau yn llawn i dyfu a ffynnu yng Nghymoedd y De.
2. Gwell gwasanaethau cyhoeddus
Dyma’r nod erbyn 2021:
- Bydd y gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda’r trydydd sector a chymunedau lleol i ymateb i anghenion y bobl.
- Bydd cymorth ar gael i helpu pobl i gael ffordd o fyw iachach, gan wella eu llesiant corfforol a meddyliol a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
- Bydd y drafnidiaeth gyhoeddus wedi’i chysylltu, yn fforddiadwy a bydd yn helpu pobl i fynd i’r gwaith, i’r ysgol neu hyfforddiant ac i gyfleusterau hamdden.
- Caiff deilliannau addysg eu gwella ar gyfer pob plentyn a chaiff y bwlch o ran cyraeddiadau ei gau.
3. Fy nghymuned leol
Erbyn2021:
- Bydd Parc Tirweddau’r Cymoedd wedi ei sefydlu i helpu cymunedau
lleol i ddathlu a manteisio i’r eithaf ar ddefnyddio’r adnoddau naturiol a’r dreftadaeth.
- Bydd canol trefi’r Cymoedd yn lleoedd llewyrchus gyda digon o fannau agored gwyrdd, a fydd yn cefnogi’r economi leol.
- Bydd y Cymoedd yn cael eu cydnabod fel cyrchfan i dwristiaid, a fydd yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r DU a thu hwnt.
Ceir 68 o weithrediadau a 46 o ddangosyddion llesiant o dan y tair blaenoriaeth hyn, a fydd yn helpu i fesur llwyddiant.
Mae llwyddiant Ein Cymoedd Ein Dyfodol yn dibynnu ar waith cydweithredol rhwng cymunedau, adrannau llywodraeth, prosiectau a ariennir gan Ewrop, a’r sector preifat. Bydd y gweithlu yn gweithio ochr yn ochr â phrosiectau Dinasoedd Rhanbarth Caerdydd ac Abertawe.
Mae’r tasglu yn canolbwyntio erbyn hyn ar roi cynlluniau ar waith i gyflawni’r gweithrediadau a nodwyd ac i sicrhau ei fod yn parhau i ymgysylltu â phobl y Cymoedd a’r cyfranddalwyr allweddol a all fod yn ddylanwad ar y canlyniadau cadarnhaol y maent yn gweithio tuag atynt.
Aelodau’r Tasglu
- Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC, (Cadeirydd)
- Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates AC
- Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James AC
- Ann Beynon, Cadeirydd Bwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
- Andrew Diplock, Entrepreneur, cynghorydd busnes ac angel buddsoddi
- Judith Evans, Pennaeth, Coleg y Cymoedd
- Dr Chris Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
- Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
- Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd y Cyngor, Rhondda Cynon Taf
- Yr Athro Brian Morgan, Prifysgol Caerdydd
- Jocelyn Davies, Cyn-Ddirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio Plaid Cymru
- Fiona Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwaith, Partneriaeth Cymru a Chyflogwyr Cenedlaethol, yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Joanne Foster, Arweinydd Cysylltiadau Llywodraeth a Busnes, DU, GE Aviation
- Gaynor Richards, Cyfarwyddwr, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd a Phort Talbot
Crëwyd gweithgorau i ymdrin â meysydd penodol o’r cynllun ac arweinir pob un ohonynt gan aelod o’r tasglu. Arweinwyr y gweithgorau yw:
- Twf busnes a chwmnïau newydd – Andrew Diplock
- Cyflogadwyedd – Fiona Jones
- Yr economi sylfaenol – Martin Mansfield
- Canolfannau strategol – John Howells
- Canolfannau cymuned – Andrew Morgan
- Parc tirweddau’r Cymoedd – Jocelyn Davies
- Digidol – Ann Beynon
I gael rhagor o wybodaeth ar sut i gysylltu â’r datblygiadau, ewch i dudalennau gwe Llywodraeth Cymru, dilynwch #TrafodyCymoedd ar Twitter neu cysylltwch â nhw yn uniongyrchol drwy eu tudalen Facebook neu anfonwch neges e-bost i talkvalleys@wales.gsi.gov.uk.