23 Mehefin 2016 | Cynnal Refferendwm yr UE ar 23 Mehefin 2016 i benderfynu a ddylai’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) neu aros yn aelod ohono. Mae dros 30 miliwn o bobl (71.8%) yn bwrw pleidlais yn y refferendwm. Yn y DU, mae mwyafrif o blaid ymadael â’r UE (51.9% yn erbyn 48.1%). Yng Nghymru, mae 52.5% o bobl yn pleidleisio i ymadael â’r UE. Mae rhagor o fanylion y canlyniadau ar gael yma. |
24 Mehefin 2016 | Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar ganlyniad Refferendwm yr UE. |
13 Gorffennaf 2016 | Theresa May yn dod yn Brif Weinidog a David Davis AS yn cael ei benodi’n Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. |
15 Gorffennaf 2016 | Y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cyhoeddi bod Grŵp Cynghori ar Ewrop newydd yn cael ei sefydlu i gynghori Llywodraeth Cymru ar effaith ymadael â’r UE ar Gymru. |
13 Medi 2016 | Carwyn Jones, y Prif Weinidog yn gwneud Datganiad Llafar – Yr UE – Trefniadau Pontio. |
Hydref 2016 | Yr Uchel Lys yn clywed achos adolygiad barnwrol Erthygl 50. |
4 Hydref 2016 | Trysorlys y DU yn rhoi sicrwydd y bydd pob prosiect cronfeydd strwythurol a chronfeydd buddsoddi a lofnodwyd cyn Datganiad yr Hydref yn cael ei ariannu’n llawn, hyd yn oed ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Hefyd, bydd y Trysorlys yn cyflwyno trefniadau ar gyfer asesu a ddylid gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau penodol a allai gael eu llofnodi ar ôl Datganiad yr Hydref tra ein bod yn parhau’n aelod o’r UE. I gael manylion, ewch i https://www.gov.uk/government/news/chancellor-philip-hammond-guarantees-eu-funding-beyond-date-uk-leaves-the-eu. |
24 Hydref 2016 | Y Prif Weinidog, Carwyn Jones yn gwneud diweddaraf am drafodaethau Brexit. |
4 Tachwedd 2016 | Yr Uchel Lys yn dyfarnu na all y Llywodraeth danio Erthygl 50 heb awdurdod y Senedd. |
8 Rhagfyr 2016 | Y Goruchaf Lys yn clywed apêl y Llywodraeth yn erbyn yr Uchel Lys. |
2017 |
|
24 Ionawr 2017 | Y Goruchaf Lys yn dyfarnu na all y Llywodraeth danio Erthygl 50 heb Ddeddf Seneddol, ond nad os rhaid iddi ymgynghori â’r deddfwrfeydd datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Llywodraeth Cymru yn rhydau datganiad yn ymwneud â’r dyfarniad. |
23 Ionawr 2017 | Cyhoeddi papur Diogelu Dyfodol Cymru sy’n nodi prif bryderon Llywodraeth Cymru wrth i’r DU symud tuag at ymadael â’r UE. Mae’r papur yn cyflwyno 6 maes allweddol:
Ystyriaeth briodol o drefniadau pontio er mwyn sicrhau nad yw’r DU yn syrthio dros ymyl y dibyn o ran ei pherthynas economaidd a’i pherthynas ehangach gydag Ewrop os na fydd cytundeb ynghylch trefniadau tymor hirach ar unwaith pan fydd yn ymadael. |
1 Chwefror 2017 | Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2017 yn cael ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin. |
2 Chwefror 2017 | Y Llywodraeth yn cyhoeddi ei phapur gwyn ar ymadawiad y DU â’r UE a’i phartneriaeth newydd â’r UE, gan gyflwyno ei strategaeth yn ffurfiol ar gyfer ymadael â’r UE. |
16 Mawrth 2017 | Y Senedd yn pasio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sy’n awdurdodi’r Llywodraeth i hysbysu’r UE o dan Erthygl 50. |
29 Mawrth 2017 | Y Prif Weinidog yn tanio Erthygl 50.
Cafodd Erthygl 50 ei chreu fel rhan o Gytuniad Lisbon, ac mae’n gynllun ar gyfer unrhyw wlad sy’n dymuno ymadael â’r UE. Mae gan Erthygl 50 Cytuniad Lisbon bum elfen:
|
30 Mawrth 2017 | Papur Gwyn y Bil Diddymu Mawr yn cael ei gyhoeddi. |
31 Mawrth 2017 | Llywydd y Cyngor Ewropeaidd yn cyhoeddi canllawiau negodi drafft yr UE ar gyfer EU27. |
Rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2017 | Yr UE yn cyhoeddi naw papur safbwynt yn egluro ei safbwynt ar drafodaethau Brexit, gan gynnwys:
|
8 Mehefin 2017 | Etholiad Cyffredinol y DU. Theresa May yn cael ei hethol yn Brif Weinidog. |
19 Mehefin 2017 | Trafodaethau Negodi Brexit yn dechrau rhwng y DU a’r CE. |
21 Mehefin 2017 | Mae araith y Frenhines yn ystod Agoriad Swyddogol y Senedd yn cynnwys ‘Bil Diddymu Mawr’ fel rhan o raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. |
26 Mehefin 2017 | Llywodraeth y DU yn nodi sut mae’n bwriadu diogelu hawliau dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU. |
13 Gorffennaf 2017 | Y Llywodraeth yn cyhoeddi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Bydd yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ar y diwrnod pan fydd y DU yn ymadael â’r UE, yn trosglwyddo cyfraith yr UE yn gyfraith y DU, ac yn rhoi dwy flynedd i’r Llywodraeth gywiro unrhyw ddiffygion sy’n deillio o’r trosglwyddiad. |
13 Gorffennaf 2017 | Mae’r DU yn cyhoeddi tri phapur safbwynt yn nodi ei safbwynt ar y trafodaethau Brexit. Maent yn ymwneud â’r canlynol:
Ym mhob achos, safbwynt y Llywodraeth yw na fydd awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop yn berthnasol i’r DU, ac y bydd y DU yn torri cysylltiad â sefydliadau’r UE. |
13 Gorffennaf 2017 | Michel Barnier, prif negodydd Comisiwn yr UE, yn cyfarfod â Jeremy Corbyn (arweinydd y Blaid Lafur), Nicola Sturgeon (Prif Weinidog yr Alban) a Carwyn Jones (Prif Weinidog Cymru). |
14 Gorffennaf 2017 | Yr ail gylch o drafodaethau’r UE yn dechrau. |
20 Gorffennaf 2017 | David Davis yn gwneud datganiad ar ddiwedd yr ail gylch o drafodaethau ar ymadael â’r UE. |
7 Awst 2017 | Llywodraeth y DU yn cyhoeddi datganiad o fwriad ar Fil Diogelu Data, a fydd yn diddymu Deddf Diogelu Data 1998 ac yn ymgorffori Rheoliad Cyffredinol yr UE ar Ddiogelu Data yng nghyfraith y DU. |
15 Awst 2017 | Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cynigion ar berthynas tollau yn y dyfodol â’r UE. |
21 Awst 2017 | Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur safbwynt yn amlinellu safbwynt y DU ar barhad o safbwynt argaeledd nwyddau ym marchnadoedd yr UE a’r DU wrth ymadael â’r UE. |
22 Awst 2017 | Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur yn amlinellu safbwynt y DU ar gydweithredu barnwrol sifil trawsffiniol mewn partneriaeth yn y dyfodol. |
23 Awst 2017 | Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur ar bartneriaeth y dyfodol yn trafod dewisiadau ar gyfer dulliau gorfodi a datrys anghydfod mewn perthynas â chytundebau rhwng y DU a’r UE. |
24 Awst 2017 | Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur ar bartneriaeth y dyfodol yn trafod dewisiadau ar gyfer cyfnewid a diogelu data personol yn y bartneriaeth yn y dyfodol. |
28 Awst 2017 | Y trydydd cylch o drafodaethau’r UE yn cychwyn. |
6 Medi 2017 | Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur ar bartneriaeth y dyfodol yn amlinellu amcanion y DU ar gyfer cytundeb gwyddoniaeth ac arloesi gyda’r UE. |
7 a 11 Medi 2017 | Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn cael ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin, a’i drafod gan ACau. |
12 Medi 2017 | Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur ar bartneriaeth y dyfodol yn trafod dewisiadau ar gyfer cydweithio ym meysydd polisi tramor, amddiffyn a datblygu yn y bartneriaeth yn y dyfodol. |
12 Medi 2017 | Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ennill pleidlais gyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin. |
18 Medi 2017 | Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papur yn trafod dewisiadau ar gyfer cynnal diogelwch, gorfodi’r gyfraith a chyfiawnder troseddol – papur ar bartneriaeth y dyfodol. |
22 Medi 2017 | Y Prif Weinidog Theresa May yn traddodi araith yn Fflorens yn amlinellu cynlluniau ar gyfer cyfnod pontio dwy flynedd posibl ar ôl Brexit ac i lenwi’r bwlch yng nghyllideb yr UE yn sgil ymadawiad y DU. |
25 Medi 2017 | Y pedwerydd cylch o drafodaethau’r UE yn cychwyn. |
28 Medi 2017 | David Davis yn gwneud datganiad.
Y Llywodraeth yn cyhoeddi’r nodyn technegol diweddaraf ar gymharu safbwyntiau’r UE-DU ar hawliau dinasyddion. |
9 Hydref 2017 | Y pumed cylch o drafodaethau’r UE yn cychwyn.
Llywodraeth y DU yn cyhoeddi papurau polisi ar fasnach a thollau. |
10 Hydref 2017 | Cadeirydd Pwyllgor Materion Allanol Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at ASau o Gymru er mwyn nodi chwe amcan ar gyfer newid Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael):
Ochr yn ochr â’r amcanion hyn, anfonodd y Pwyllgor diwygiadau arfaethedig i gyflawni ei chwe amcan. |
12 Hydref 2017 | David Davis yn gwneud datganiad ar ddiwedd y pumed cylch o drafodaethau. |
19 Hydref 2017 | Theresa May yn ysgrifennu llythyr agored at ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU. |
19 – 20 Hydref 2017 | Y Cyngor Ewropeaidd (Erthygl 50), mewn fformat UE 27, yn galw am fwy o gynnydd ym meysydd hawliau dinasyddion, y ffin yn Iwerddon, a goblygiadau ariannol. Arweinwyr UE27 yn cytuno i gychwyn paratoadau mewnol ar gyfer ail gyfnod trafodaethau Brexit. |
24 Hydref 2017 | Carwyn Jones yn gwneud datganiad llafar ar drafodaethau Brexit. |
30 Hydref 2017 | Theresa May yn cyfarfod â Carwyn Jones i drafod Brexit. |
7 Tachwedd 2017 | Y Llywodraeth yn cyhoeddi papur polisi sy’n cynnwys manylion gweithdrefnau gweinyddol arfaethedig y DU ar gyfer sicrhau statws preswylydd sefydledig ar gyfer dinasyddion yr UE, Hawliau dinasyddion: gweithdrefnau gweinyddol yn y DU. |
10 Tachwedd 2017 | David Davies yn gwneud datganiad ar y cylch diweddaraf o drafodaethau’r UE. |
13 Tachwedd 2017 | David Davies yn gwneud datganiad i Dŷ’r Cyffredin ar y newyddion diweddaraf am drafodaethau’r UE a chynlluniau ar gyfer Cytundeb Ymadael a Bil Gweithredu. |
8 Rhagfyr 2017 | Adroddiad ar y cyd yn cael ei gyhoeddi gan yr UE a Llywodraeth y DU yn amlinellu cynnydd yn ystod Cyfnod 1 o’r trafodaethau o dan Erthygl 50.
Cytunwyd mewn egwyddor ar y canlynol:
|
11 Rhagfyr 2017 | Y Prif Weinidog Theresa May yn rhoi diweddariad i Dŷ’r Cyffredin ar Drafodaethau Brexit. |
18 Rhagfyr 2017 | Y Prif Weinidog Theresa May yn gwneud datganiad yn y Senedd ynglŷn â chyfarfod diweddaraf y Cyngor Ewropeaidd. |
20 Rhagfyr 2017 | Y Prif Weinidog Theresa May yn ysgrifennu llythyr agored i wladolion y DU sy’n byw yn Ewrop. |
2018 |
|
18 Ionawr 2018 | Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn cael ei ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ’r Arglwyddi. |
26 Ionawr 2018 | Y Canghellor, Ysgrifennydd Brexit a’r Ysgrifennydd Busnes yn ysgrifennu llythyr agored i fusnesau yn nodi uchelgais y DU ar gyfer ‘cyfnod gweithredu’ (cyfnod pontio) ar ôl Brexit. |
30-31 Ionawr 2018 | Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn cael ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi. |
2 Chwefror 2018 | Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit. |
6 Chwefror 2018 | Y cylch nesaf o drafodaethau’r UE yn cael ei gynnal. |
8 Chwefror 2018 | Cyhoeddi Nodyn Technegol yn amlinellu safbwynt y DU ar gytundebau rhyngwladol yn ystod y cyfnod gweithredu. |
19-20 Chwefror 2018 | Rhagor o drafodaethau’r UE yn cael eu cynnal. |
2 Mawrth 2018 | Y Prif Weinidog Theresa May yn traddodi araith ar y bartneriaeth economaidd rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. |
Mehefin 2018 | Cyhoeddi adroddiad cryno yn amlinellu canlyniadau’r ymarferiad ymgysylltu yn ymwneud â Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit. |
12 Gorffennaf 2018 | Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, yn cyhoeddi 7 aelod newydd o’r Grŵp Cynghori ar Ewrop. |
12 Hydref 2018 | Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, yn traddodi araith mewn digwyddiad yn ymwneud â chyllid yr UE ar ôl Brexit, gan amlinellu beth ddaw yn lle cyllid yr UE ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. |
17 – 18 Hydref | Uwchgynhadledd yr UE. Y Prif Weinidog Theresa May yn hysbysu’r arweinwyr am safbwynt y DU ar y trafodaethau. Arweinwyr UE27 yn ailddatgan eu hyder llawn ym Michel Barnier fel y negodydd, a’u hagwedd benderfynol i aros yn unedig. Fodd bynnag, nodwyd nad oes cynnydd digonol wedi’i wneud. |
22 Hydref 2018 | Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE yn gwneud datganiad ar Bleidlais Ystyrlon.
Theresa May yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar gyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ym mis Hydref. |
29 Hydref 2018 | Diwrnod Cyllideb y DU, y Canghellor Philip Hammond yn cyhoeddi y bydd £500 miliwn ar gael i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb. |
14 Tachwedd 2018 | Mae’r Cytundeb Ymadael yn cael ei gytuno mewn egwyddor a’i gyhoeddi, gan amlinellu telerau ymadawiad y DU. |
15 Tachwedd 2018 | Yr Ysgrifennydd Brexit Dominic Raab yn ymddiswyddo fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Penodir Stephen Barclay y diwrnod canlynol. Sawl Gweinidog arall yn ymddiswyddo.
Y Prif Weinidog Theresa May yn rhoi’r newyddion diweddaraf i Dŷ’r Cyffredin ar y trafodaethau i ymadael â’r UE, ac yn gwneud datganiad wedyn. |
16 Tachwedd 2018 | Stephen Barclay yn cael ei benodi’n Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. |
19 Tachwedd 2018 | Y Prif Weinidog Theresa May yn traddodi araith i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), gan amlinellu’r canlyniadau ar ôl Brexit y mae’r llywodraeth yn disgwyl eu sicrhau. |
21 Tachwedd 2018 | Y Prif Weinidog Theresa May yn cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones er mwyn trafod trafodaethau Brexit. Wedyn, mae’n cyfarfod â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, i gwblhau’r cytundeb Brexit. |
25 Tachwedd 2018 | Y Cyngor Ewropeaidd yn cymeradwyo’r Cytundeb Ymadael a’r datganiad gwleidyddol ar y berthynas rhwng yr UE a’r DU yn y dyfodol. |
26 Tachwedd 2018 | Y Prif Weinidog Theresa May yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar gyfarfod y Cyngor Ewropeaidd i gwblhau trafodaethau’r DU i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. |
29 Tachwedd 2018 | Keir Starmer, Ysgrifennydd Brexit yr Wrthblaid, yn awgrymu bod y llywodraeth yn atal gwybodaeth ar ôl iddi ddatgan y byddai’n cyhoeddi “datganiad llawn, rhesymegol ar y sefyllfa” ond nid y cyngor cyfreithiol llawn ar Brexit y mae wedi’i dderbyn. |
30 Tachwedd 2018 | Yn ystod yr Uwchgynhadledd G20 yn Buenos Aires, mae’r Prif Weinidog Theresa May yn dweud wrth arweinwyr y byd bod y cytundeb Brexit sydd wedi’i sicrhau â’r UE yn ‘gytundeb da’ ar gyfer yr economi fyd-eang. |
3 Rhagfyr 2018 | Y Twrnai Cyffredinol yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar sefyllfa gyfreithiol y Cytundeb Ymadael. |
4 Rhagfyr 2018 | Aelodau Seneddol yn dechrau pum diwrnod o ddadlau am y Cytundeb Ymadael. |
5 Rhagfyr 2018 | Y Llywodraeth yn cyhoeddi cyngor cyfreithiol terfynol, llawn y twrnai Cyffredinol i’r Cabinet ar y Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon a’i effaith ar y Cytundeb Ymadael.
Y Prif Weinidog Theresa May yn trafod cynnydd y trafodaethau â Taoiseach Iwerddon, yn enwedig y ‘backstop’ ac ymrwymiad y DU i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith. Diwrnod 2 o ddadleuon Tŷ’r Cyffredin ar y Cytundeb Ymadael a’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. |
6 Rhagfyr 2018 | Y Prif Weinidog yn cyhoeddi sefydlu pum cyngor busnes newydd i roi cyngor ar sut i greu’r amodau busnes gorau yn y DU ar ôl Brexit.
Diwrnod 3 o ddadleuon Tŷ’r Cyffredin ar y Cytundeb Ymadael a’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. |
10 Rhagfyr 2018 | Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd (CJEU) yn cyhoeddi ei ddyfarniad yn achos Wightman. Mae’n datgan bod dirymu unochrog Erthygl 50 TEU yn hawl sofran i unrhyw Aelod-wladwriaeth, ar yr amod nad yw wedi ymrwymo i gytundeb ymadael yn ystod y cyfnod 2 flynedd a nodir yn Erthygl 50, neu yn ystod unrhyw ymestyniad i’r cyfnod hwn sydd wedi’i gytuno.
Y Prif Weinidog Theresa May yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ac yn cyhoeddi y bydd y Bleidlais Ystyrlon, a oedd i fod i gael ei chynnal yfory, yn cael ei gohirio. Stephen Barclays (yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE) yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin mewn ymateb i ddyfarniad CJEU yn achos Erthygl 50 Wightman. |
11 Rhagfyr 2018 | Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, Yvette Cooper, yn cael caniatâd i ofyn Cwestiwn Brys am ddyletswydd y Llywodraeth o dan Adran 13 o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 os nad yw cytundeb wedi’i sicrhau erbyn 21 Ionawr 2019.
Wrth ymateb, meddai Is-weinidog Brexit, Robin Walker: “If Parliament were to reject the deal, the Government would be required to make a statement on our proposed next steps and table a motion in neutral terms on that statement”. Tŷ’r Cyffredin yn cynnal Dadl Frys dan arweiniad yr Wrthblaid ar reolaeth y Llywodraeth o ddadl y bleidlais ystyrlon. |
12 Rhagfyr 2018 | Syr Graham Brady, Cadeirydd y Pwyllgor 1922, yn cyhoeddi bod digon o ASau Ceidwadol wedi gofyn am bleidlais o hyder yn Theresa May fel arweinydd y Ceidwadwyr.
Yn y bleidlais sy’n dilyn, mae Theresa May yn ennill y bleidlais trwy sicrhau 200 pleidlais yn erbyn 117. |
13 Rhagfyr 2018 | Mae’r Cyngor Ewropeaidd (yn cyfarfod fel UE27) yn mabwysiadu casgliadau ar Brexit, gan gynnwys rhagor o sicrwydd ynglŷn â’r ‘backstop’ yng Ngogledd Iwerddon. |
14 Rhagfyr 2018 | Y Prif Weinidog Theresa May yn cynnal cynhadledd i’r wasg ar ôl cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd. |
17 Rhagfyr 2018 | Y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yr SNP yn gwneud cais i gynnal Dadl Frys ar drafodaethau rhwng y DU a’r UE. Yn ddiweddarach, mae’r Llefarydd yn gwneud Datganiad yn cadarnhau y bydd dadl frys yn cael ei chynnal y diwrnod canlynol. |
18 Rhagfyr 2018 | Yr SNP yn arwain Dadl Frys yn Nhŷ’r Cyffredin ar y trafodaethau presennol ar Brexit rhwng y DU a’r UE. |
19 Rhagfyr 2018 | Keir Starmer, Ysgrifennydd Brexit yr Wrthblaid, yn sicrhau Dadl Frys ar baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb. |
20 Rhagfyr 2018 | Y DU yn dod i gytundeb â’r gwladwriaethau EEA EFTA a’r Swistir ynglŷn â materion ymadael, gan gynnwys hawliau dinasyddion ar ôl Brexit. |
2019 |
|
3 Ionawr 2019 | Y Llywodraeth yn cyhoeddi diweddariad o ganllawiau Brexit ar gyfer gwladolion y DU sy’n byw yn yr UE, os nad oes modd dod i gytundeb ymadael. |
7 Ionawr 2019 | Jeremy Corbyn yn cael caniatâd i ofyn Cwestiwn Brys yn Nhŷ’r Cyffredin ar newidiadau cyfreithiol i’r Cytundeb Ymadael â’r UE ac amserlen y Tŷ ar gyfer Pleidlais Ystyrlon.
Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn rhyddhau datganiad yn rhybuddio am effaith Brexit heb gytundeb. |
8 Ionawr 2019 | ASau yn trafod Cyfnod Adrodd a Thrydydd Darlleniad y Bil Cyllid (Rhif 3). ASau yn cymeradwyo gwelliant (303 pleidlais yn erbyn 296) sy’n cyfyngu ar bwerau ariannol y llywodraeth yn dilyn Brexit heb gytundeb.
Prif Weinidog Cymru yn lansio cronfa £50m i helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit. |
9 Ionawr 2019 | Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn caniatáu gwelliant i gynnig busnes gan Dominic Grieve, sy’n ennill o 308 pleidlais yn erbyn 297. Ar sail y gwelliant hwn, os yw’r llywodraeth yn colli’r ‘bleidlais ystyrlon’ ar 15 Ionawr 2019, bydd rhaid i’r Prif Weinidog gyflwyno ‘Cynllun B’ ar gyfer Brexit o fewn tri diwrnod.
Mae Tŷ’r Cyffredin yn cychwyn pum diwrnod o ddadleuon Brexit. |
10 Ionawr 2019 | Diwrnod 2 o’r dadleuon Brexit ar y Cytundeb Ymadael â’r UE. |
11 Ionawr 2019 | Diwrnod 3 o’r dadleuon Brexit ar y Cytundeb Ymadael â’r UE |
14 Ionawr 2019 | Y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar y sicrwydd a’r eglurdeb ychwanegol sydd wedi dod i law gan yr Undeb Ewropeaidd ynglŷn â phrotocol Gogledd Iwerddon.
Diwrnod 4 o’r dadleuon Brexit. |
15 Ionawr 2019 | Diwrnod 5 o’r dadleuon Brexit ar y Cytundeb Ymadael â’r UE.
Cynhelir y ‘Bleidlais Ystyrlon’, ac mae’r llywodraeth yn cael ei threchu, gan golli’r bleidlais o fwyafrif o 230 (gyda 202 yn pleidleisio dros gytundeb Brexit y Prif Weinidog a 432 yn pleidleisio yn erbyn). Mae Arweinydd yr Wrthblaid yn cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth, a chynhelir pleidlais ar y cynnig am 7pm y diwrnod wedyn yn dilyn dadl. |
16 Ionawr 2019 | Tŷ’r Cyffredin yn pleidleisio ar gynnig o hyder yn y Llywodraeth. |
21 Ionawr 2019 | Ar ôl colli’r bleidlais ystyrlon ar ei chytundeb Brexit, dyma’r dyddiad olaf i’r Prif Weinidog ddychwelyd i Dŷ’r Cyffredin gyda ‘Chynllun Amgen’.
Mae Yvette Cooper yn cyflwyno Bil Aelod Preifat, Bil yr Undeb Ewropeaidd (Rhif 3) 2017-19. Byddai’r Bil yn creu mecanwaith cyfreithiol er mwyn galluogi Tŷ’r Cyffredin i gyfarwyddo’r Prif Weinidog i ofyn i’r Cyngor Ewropeaidd am ymestyn Erthygl 50 os nad oes penderfyniad yn cael ei gymeradwyo ar gyfer cytundeb ymadael â’r UE. |
22 Ionawr 2019 | Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn rhyddhau datganiad i’r wasg yn galw ar Lywodraeth y DU i ymwrthod yn llwyr â Brexit heb gytundeb. |
23 Ionawr 2019 | Llywodraeth Cymru yn lansio gwefan, Paratoi Cymru, sy’n darparu gwybodaeth am yr hyn sy’n debygol o ddigwydd os nad oes cytundeb. |
24 Ionawr 2019 | Rhyddhau Papur Briffio cyn y ddadl ar 28 a 29 Ionawr ar Ddibenion Adran 13 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. |
29 Ionawr 2019 | ASau yn trafod cytundeb ‘Cynllun B’ y Prif Weinidog sydd wedyn yn cael ei gymeradwyo â 2 ddiwygiad. |
7 Chwefror 2019 | Y Prif Weinidog yn cyfarfod ag Arlywydd Juncker ym Mrwsel, i adolygu’r camau nesaf ym mhroses Brexit. Yr Arlywydd yn datgan na fydd 27 yr UE yn ailagor y Cytundeb Ymadael, ond yn mynegi ei fod yn agored i ychwanegu geiriau at y Datganiad Gwleidyddol. |
12 Chwefror 2019 | Y Prif Weinidog yn gwneud datganiad i Dŷ’r Cyffredin, a chadarnhau os na chaiff cytundeb ei negodi erbyn 26 Chwefror 2019, yna bydd y llywodraeth yn gwneud datganiad yr un diwrnod a chynnal trafodaeth ar gynnig y gellir ei wella ar 27 Chwefror 2019.
Datganiad y Prif Weinidog yn cael ei ailadrodd a’i drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi. |
13 Chwefror 2019 | Dr Liam Fox AS yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, yn ymateb i gwestiwn brys ynghylch y cynnydd a wnaed wrth ailadrodd y cytundebau masnach rhwng y DU a’r gwledydd hynny y mae gan yr UE gytundeb masnach â nhw.
Aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn trafod trafodaethau Brexit parhaus y llywodraeth. Y Farwnes Smith o Basildon, Arweinydd Yr Wrthblaid yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn cynnig cynnig yn galw ar y llywodraeth i gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau nad yw’r DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth heb gytundeb sydd wedi ei gadarnhau’n llawn gan ddau Dŷ Senedd y DU, a bod – cyn diwedd Chwefror 2019 – cynigion yn cael eu cynnig sy’n cyflawni’r darpariaethau o dan adrannau 13(1)(b) a (c) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Caiff y cynnig ei dderbyn gyda 155 o blaid a 69 yn erbyn. |
14 Chwefror 2019 | Tŷ’r Cyffredin yn pleidleisio yn erbyn datganiad yn gofyn am gefnogaeth barhaus, a thri gwelliant i’r cynnig gyda 303 o bleidleisiau a 258 o blaid. |
18 Chwefror 2019 | Y Grŵp Annibynnol yn cael ei ffurfio.
Cyfarfod cyntaf Y Grŵp Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn cael ei gynnal. |
20 Chwefror 2019 | Prif Weinidog y DU a’r Arlywydd Junker yn cyfarfod i drafod y backstop a chytuno i osgoi ffin galed yn Iwerddon. |
26 Chwefror 2019 | Y Prif Weinidog yn addo rhoi pleidlais i ASau ar ddiystyru Brexit heb gytundeb neu oedi Brexit petai hi’n colli’r ail ‘bleidlais ystyrlon’ y mis nesaf. Caiff ei datganiad ei ailadrodd a’i drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ddiweddarach. |
6 Mawrth 2019 | Tŷ’r Arglwyddi yn trafod y Bil Masnach ac yn pleidleisio yn erbyn gwelliant a fyddai’n gorfodi Prydain i geisio aros mewn undeb tollau gyda’r UE. |
11 Mawrth 2019 | Y Prif Weinidog yn cyfarfod â Jean-Claude Juncker a Michel Barnier, ac wedyn yn cyhoeddi datganiad ei bod wedi sicrhau newidiadau wedi eu rhwymo mewn cyfraith i’w chytundeb Brexit. |
12 Mawrth 2019 | Y Prif Weinidog yn agor trafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin ar Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Cynhelir pleidlais ‘Pleidlais Ystyrlon 2’, gyda 242 yn pleidleisio o blaid cytundeb Brexit y Prif Weinidog a 391 yn erbyn. Y Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd yn agor y ddadl y diwrnod canlynol ar ba un ai tynnu’r dewis o ‘ddim cytundeb’ oddi ar y bwrdd negodi neu beidio. |
13 Mawrth 2019 | ASau yn trafod Ymadawiad y DU â’r UE ac yn pleidleisio i ddiystyru ‘Brexit heb gytundeb’.
Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn cyhoeddi dyraniad ychwanegol o £1.2 miliwn i helpu awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer Brexit. |
14 Mawrth 2019 | ASau yn trafod Ymadawiad y DU â’r UE ac yn pleidleisio i geisio caniatâd gan yr UE i estyn Erthygl 50.
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bod £1.7 miliwn ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer 2019-20 i alluogi Busnes Cymru i gadw Cronfa wrthsefyll Brexit yn agored. |
20 Mawrth 2019 | Y Prif Weinidog yn ysgrifennu at Donald Tusk Llywydd Y Cyngor Ewropeaidd, yn gofyn am estyniad i Erthygl 50 tan 30 Mehefin 2019.
Tŷ’r Cyffredin yn cynnal dadl frys dan arweiniad yr wrthblaid ar estyn Erthygl 50. |
21 Mawrth 2019 | Y Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod, ac arweinwyr 27 yr UE yn cytuno i roi estyniad yn cynnwys dau ddyddiad posibl: 22 Mai 2019, petai ASau yn cymeradwyo’r Cytundeb Ymadael yr wythnos nesaf; neu 12 Ebrill 2019, pe na bai Tŷ’r Cyffredin yn cymeradwyo’r Cytundeb Ymadael. |
22 Mawrth 2019 | Cynrychiolydd y DU ar gyfer yr UE yn ysgrifennu at Donald Tusk, Llywydd Y Cyngor Ewropeaidd yn cadarnhau’r cytundeb i estyn Erthygl 50. |
27 Mawrth 2019 | ŷ’r Cyffredin yn trafod ac yn pleidleisio ar wyth pleidlais ddangosol, mewn ymgais i ddod o hyd i gynllun Brexit sy’n cael cefnogaeth mwyafrif yr ASau. Trechir pob un dewis. |
29 Mawrth 2019 | Y Prif Weinidog yn colli ‘Pleidlais Ystyrlon 3’. |
1 Ebrill 2019 | Ar ail ddiwrnod y pleidleisiau dangosol, trafododd ASau y pedwar dewis a methu â chytuno ar unrhyw un ohonynt. |
2 Ebrill 2019 | Y Prif Weinidog yn cyhoeddi y bydd yn gofyn am estyniad arall i broses Erthygl 50 ac yn cynnig cyfarfod ag Arweinydd yr Wrthblaid, i gwblhau cytundeb a fydd yn cael cefnogaeth ASau.
Y Grŵp Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn cyfarfod. Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn darparu’r newyddion diweddaraf am eu paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb. Petai ymadael heb gytundeb yn digwydd, gelwir y gwasanaeth newydd e-hysbysu’r DU sy’n disodli Cyfnodolyn Swyddogol yr UE yn ‘Find a tender’, y gellir cael gafael arno drwy GwerthwchiGymru. |
5 Ebrill 2019 | Theresa May yn ysgrifennu’n ffurfiol at Donald Tusk, yn gofyn am estyniad arall i broses Erthygl 50 tan ddiwedd mis Mehefin 2019. |
10 Ebrill 2019 | Y Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod. Y DU a 27 yr UE yn cytuno i estyn Erthygl 50 tan 31 Hydref 2019.
Llywydd y Cyngor yn rhybuddio’r DU i “beidio â gwastraffu’r amser hwn”. |
11 Ebrill 2019 | Cynrychiolydd Parhaol y DU ar gyfer yr UE yn ysgrifennu at Y Cyngor Ewropeaidd yn cadarnhau’r estyniad i Erthygl 50. |
30 Ebrill 2019 | Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, yn rhoi’r Newyddion diweddaraf am Drafodaethau Brexit |
1 Mai 2019 | Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig ar Brexit a’n Moroedd, a lansio ymgynghoriad ar ddyfodol polisi pysgodfeydd y DU. Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 21 Awst 2019. |
2 Mai 2019 | Chris Greyling, Ysgrifennydd Trafnidiaeth, yn cyhoeddi datganiad ar y paratoadau pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd, ar gyfer gwasanaethau fferi a nwyddau ar draws y sianel. |
21 Mai 2019 | Y Prif Weinidog yn dadlennu ei chytundeb Brexit newydd sy’n cynnwys cynnig deg – pwynt i ASau:
Un – bydd y Llywodraeth yn ceisio cwblhau Trefniadau Amgen yn lle’r backstop erbyn Rhagfyr 2020, fel na fydd angen ei ddefnyddio byth. Dau – Ymrwymiad y bydd y Llywodraeth yn sicrhau y bydd Prydain Fawr yn parhau i gyfochri â Gogledd Iwerddon petai’r backstop yn dod i rym. Tri – bydd rhaid i amcanion negodi a’r cytuniadau terfynol ar gyfer ein perthynas â’r UE yn y dyfodol gael eu cymeradwyo gan ASau. Pedwar – Bil Hawliau Gweithwyr newydd sy’n gwarantu na fydd hawliau gweithwyr yn llai ffafriol nag ydynt yn yr UE. Pump – ni fydd newid yn lefel amddiffyn amgylcheddol pan fyddwn yn ymadael â’r UE. Chwech – bydd y DU yn ceisio cael masnachu nwyddau mor llyfn â phosib gyda’r UE er y byddwn y tu allan i’r farchnad sengl ac wedi dod â rhyddid i symud i ben. Saith – byddwn yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf o ran rheolau’r UE ar gyfer nwyddau a chynnyrch bwyd-amaeth sy’n berthnasol i archwiliadau ar y ffin er mwyn diogelu’r miloedd o swyddi sy’n dibynnu ar gadwyni cyflenwi ‘mewn union bryd’. Wyth – bydd y Llywodraeth yn cyflwyno cyfaddawd tollau i ASau ei hystyried er mwyn datrys yr anghytundeb. Naw – bydd pleidlais i ASau ar ba un a ddylai’r cytundeb fod yn destun refferendwm neu beidio. A deg – bydd dyletswydd gyfreithiol i sicrhau newidiadau i’r datganiad gwleidyddol i adlewyrchu’r cytundeb newydd hwn. |
22 Mai 2019 | Theresa May yn rhoi datganiad i Dŷ’r Cyffredin ar ei chytundeb Brexit newydd: Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. |
23 Mai 2019 | Y DU yn pleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop. |
24 Mai 2019 | Theresa May yn cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU. |
26 Mai 2019 | Cyhoeddir canlyniadau etholiadau Senedd Ewrop. |
4 Mehefin 2019 | Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Crynodeb o Ymatebion i Ymgynghoriad Brexit a’n Tir.
Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit yn rhoi’r Newyddion Diweddaraf am Brexit. |
16 Mehefin 2019 | ASau yn trafod cynnig ar Ymadael â’r UE: Busnes y Tŷ, symudiad trawsbleidiol wedi ei gynllunio i roi cyfle i ASau basio deddfwriaeth â’r bwriad i atal Brexit heb gytundeb. Gwrthodwyd y cynnig.
Y Comisiwn Ewropeaidd yn cyhoeddi dogfen yn amlinellu’r paratoadau a’r mesurau wrth gefn rhag ofn i’r DU ymadael â’r UE heb gytundeb. |
17 Mehefin 2019 | Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit yn traddodi araith Brexit a Datganoli yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru. |
18 Mehefin 2019 | Llywodraeth Cymru, wrth ymateb i Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn cytuno i sefydlu pedwar is-grŵp arbenigol annibynnol yn gwahodd ceisiadau ar gyfer aelodaeth. Y pedwar grŵp fydd:
Bydd y grwpiau yn helpu i lywio fframwaith buddsoddi newydd a bydd yn dechrau gweithredu yn gynnar yn 2021. |
24 Mehefin 2019 | Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn rhoi’r newyddion diweddaraf am ei baratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb posib. |
16 Gorffennaf 2019 | Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit yn rhoi datganiad ar Parodrwydd am Brexit |
18 Gorffennaf 2019 | Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, yn rhoi Y Diweddaraf Ynghylch Dyfodol Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit
Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn cyfarfod. |
23 Gorffennaf 2019 | Boris Johnson yn dod yn Brif Weinidog ar ôl cael ei ethol yn Arweinydd y Blaid Geidwadol. |
25 Gorffennaf 2019 | Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru a Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban yn ysgrifennu ar y cyd at Brif Weinidog newydd y DU yn gofyn iddo ddiystyru Brexit heb gytundeb ar unwaith, ac i lywodraeth y DU baratoi ar gyfer ail refferendwm yr UE.
Y Prif Weinidog Boris Johnson yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar flaenoriaethau ei Lywodraeth newydd, gan ymrwymo i’r dyddiad 31 Hydref ar gyfer Brexit a gwrthod diystyru’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. |
31 Gorffennaf 2019 | Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn cyfarfod â’r Prif Weinidog Boris Johnson a dweud wrtho y bydd Brexit yn drychinebus i Gymru. |
1 Awst 2019 | Y llywodraeth yn cyhoeddi cyllid ychwanegol o £2.1 biliwn i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, gan ddyblu’r swm a neilltuwyd yn gynharach ar gyfer y flwyddyn. |
1 Medi 2019 | Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i ysgolion yng Nghymru ar baratoi ar gyfer allanfa UE dim bargen. |
31 Hydref 2019 | Diwrnod Brexit: y dyddiad a bennwyd i’r DU ymadael â’r UE |
31 Rhagfyr 2020 | Daw’r cyfnod pontio i ben (oni bai y gwneir cytundeb i estyn y cyfnod) |
1 Ionawr 2021 | Bydd y cytundeb ar gysylltiadau yn y dyfodol yn dod i rym (oni bai y gwneir cytundeb i estyn y cyfnod pontio). |