Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)

Mae Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yng Nghymru wedi’i chyfuno ag arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru i ffurfio’r Rhaglen Datblygu Gwledig.

Nod y Rhaglen Datblygu Gwledig yw:

  • helpu i gefnogi cystadleurwydd ffermio Cymru;
  • sicrhau rheolaeth gynaliadwy dros adnoddau naturiol a hinsawdd Cymru; a
  • hyrwyddo twf economaidd gwledig cadarn a chynaliadwy.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfres o gynlluniau ar waith i gael gafael ar gyllid prosiect o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig. Gweler yma i gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau sydd ar gael a dyddiadau’r cyfnodau pan ellir gwneud cais iddynt.

Un o’r cynlluniau hyn yw LEADER sy’n ffurf ar Ddatblygiad dan Arweiniad y Gymuned. Mae LEADER yn ffurfio rhan o’r Rhaglen Datblygu Gwledig ac fe’i rheolir ledled de-ddwyrain Cymru gan nifer o Grwpiau Gweithredu Lleol. Mae pob grŵp gweithredu lleol yn gyfrifol am gyflawni LEADER yn y wardiau cymwys ledled ei ardal ei hun. Trwy ddull partneriaeth, maent yn dylunio ac yn gweithredu Strategaeth Datblygu Lleol ar gyfer eu hardal. Y grŵp gweithredu lleol yw’r corff sy’n gwneud y penderfyniadau o ran dewis prosiectau hefyd. Mae’n rhaid i’r holl brosiectau gyfrannu at y blaenoriaethau a nodir yn eu Strategaeth Datblygu Lleol.

Isod ceir dolenni i’r grwpiau gweithredu lleol yn rhanbarth y de-ddwyrain. I gael gwybodaeth am y wardiau cymwys, a’r Strategaethau Datblygu Lleol, ewch i’r wefan berthnasol ar gyfer eich ward neu ardal eich awdurdod lleol.

Cynllun arall Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yw’r Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig sy’n darparu buddsoddiad sy’n canolbwyntio ar grwpiau cymunedol er mwyn helpu i ddiwallu anghenion lleol ac atgyfnerthu cymunedau i allu tyfu a ffynnu. Er bod y cynllun hwn wedi’i reoli gan Lywodraeth Cymru, mae’n dibynnu yn fawr iawn ar y grwpiau gweithredu lleol. Mae angen i fentrau a gaiff eu cefnogi gan y gronfa gyfrannu at gyflawniad strategaethau datblygu lleol y LEADER yn eu hardal nhw.