Amcan 1, 2 a 3

Gorsaf Coedwig Cwmcarn

Derbyniodd rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd gyllid amcan 1 a derbyniodd rhanbarth Dwyrain Cymru gyllid Amcan 2 a 3:

Ardaloedd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (Amcan 1) Ardaloedd Amcan 2 Dwyrain Cymru Ardaloedd Amcan 3 Dwyrain Cymru
Ynys Môn Powys Bro Morgannwg
Pen-y-bont ar Ogwr Casnewydd Caerdydd
Blaenau Gwent Sir Fynwy Sir Fynwy
Caerffili Caerdydd (rhannau) Casnewydd
Sir Gaerfyrddin Wrecsam (rhannau) Sir y Fflint
Ceredigion Bro Morgannwg Wrecsam
Conwy Powys
Sir Ddinbych
Gwynedd
Merthyr Tudful
Castell-nedd Port Talbot
Sir Benfro
Abertawe
Rhondda Cynon Taf
Torfaen

Dyfarnwyd dros £1.6 biliwn o gyllid yr UE i brosiectau ledled Cymru o’r pedair cronfa strwythurol, sef Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Cronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop ac Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddo Pysgodfeydd.

I gael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau rhaglenni Amcan 1, 2 a 3 yng Nghymru, ewch i wefan WEFO.

Rhaglen Amcan 1 Gorllewin Cymru a’r Cymoedd

  1. Cyflwynwyd Rhaglen Amcan 1 trwy chwe blaenoriaeth:
  2. Ehangu a datblygu’r sylfaen Busnesau Bach a Chanolig
  3. Datblygu dyfeisgarwch ac economi wedi’i seilio ar wybodaeth
  4. Adfywiad economaidd yn ein cymunedau
  5. Datblygu pobl
  6. Datblygiad gwledig a defnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy
  7. Datblygu’r iasadeiledd strategol

Blaenoriaethau Amcan 2

  1. Datblygu BBaChau cystadleuol a chynaliadwy
  2. Datblygiad gwledig cynaliadwy
  3. Adfywio cymunedau trefol

Blaenoriaethau Amcan 3

  1. Datblygu Polisïau Marchnad Lafur Actif er mwyn Atal a Datrys Diweithdra
  2. Cyfleoedd Cyfartal i Bawb a Hybu Cynhwysiant Cymdeithasol
  3. Dysgu Gydol Oes
  4. Hybu Cystadleuaeth mewn Busnesau
  5. Hybu Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yn y Farchnad Lafur