Priffddinas-Ranbarth Caerdydd

 

Yn ogystal â pholisïau a mentrau Llywodraeth Cymru, mae sawl polisi a menter ar waith yn y De-ddwyrain mewn 10 ardal awdurdod lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Torfaen a Chasnewydd.

Bargen Ddinesig

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw un o’r rhaglenni economaidd mwyaf arwyddocaol yn ardal y De-ddwyrain ers nifer o flynyddoedd ac yn ysgogydd allweddol ar gyfer yr holl ddatblygiadau yn yr ardal. Diolch i’r rhaglen, buddsoddir £1.2 biliwn yn y rhanbarth dros yr 20 mlynedd nesaf, a’r nod yw creu cynifer â 25,000 o swyddi newydd, gan fanteisio ar £4 biliwn arall o fuddsoddiad gan y sector preifat.

Bydd y Fargen Ddinesig yn helpu i roi hwb i dwf economaidd trwy fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar y rhanbarth cyfan – gwella cysylltiadau trafnidiaeth, cynyddu sgiliau, helpu pobl i gael gwaith, a darparu cymorth i fusnesau i’w helpu i dyfu.

Os oes gennych chi brosiect posibl a allai fod yn fanteisiol i economi’r rhanbarth, mae gwybodaeth am sut i wneud cais i Gronfa Buddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gael yma.

Gallwch lawrlwytho copi o ddogfen Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yma.

Llywodraethu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Cyd-Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (sy’n cynnwys aelodau gwleidyddol o bob un o’r deg awdurdod lleol) yn sefydlu cyrff rhanbarthol i sicrhau bod holl elfennau rhaglen y Fargen Ddinesig yn cael eu rhoi ar waith. Mae papurau’r Cabinet ar gael i’w gweld ar wefannau pob un o awdurdodau lleol y rhanbarth. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am beth sy’n cael ei drafod yn y Cabinet Rhanbarthol, mae copïau o bapurau’r cyfarfodydd ar gael yma.

Mae Bwrdd Rhaglen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn helpu i weithredu penderfyniadau’r Cyd-Gabinet. Aelodau’r bwrdd yw:

  • Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig
  • Rheolwr Rhaglen y Fargen Ddinesig
  • Cyfarwyddwyr Strategol, neu gyfarwyddwyr cyfatebol, o bob awdurdod perthnasol
  • Swyddogion Arbenigol
  • Cynrychiolwyr Cyfreithiol ac Ariannol.

Rhaglenni

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi sefydlu rhaglenni amrywiol i gynyddu cysylltedd, gwella seilwaith ffisegol a digidol, a gwella llywodraethu busnesau rhanbarthol.

Mae datblygiadau rhaglenni allweddol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys:

  • Cyflwyno gwasanaeth Metro yn y De-ddwyrain
  • Creu Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol anstatudol i gydlynu gwaith cynllunio a buddsoddi mewn trafnidiaeth
  • Datblygu galluogrwydd ym maes Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, gan greu clwstwr sector yn y De-ddwyrain
  • Sefydlu Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd er mwyn sicrhau bod darpariaeth sgiliau a chyflogaeth yn ymateb i anghenion busnes a chymunedau lleol
  • Partneriaeth Twf Economaidd rhanbarthol a Sefydliad Busnes gan roi llais i fusnesau sy’n gweithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol
  • Mae Llywodraeth Cymru a Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi ymrwymo i ddull gweithredu partneriaeth newydd ym meysydd adfywio a datblygu tai. Bydd hyn yn sicrhau cymunedau cynaliadwy trwy ddefnyddio ac ailddefnyddio eiddo a safleoedd.
  • Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £500 miliwn yr un at Gronfa Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd y deg awdurdod lleol sy’n aelodau o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyfrannu isafswm o £120 miliwn dros oes y Gronfa.

 

 

 

Metro

Bydd gan gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Metro Caerdydd oblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer sectorau eraill y tu hwnt i drafnidiaeth. Rydym wedi cynnwys cyflwyniad i’r Metro yma.

Tasglu’r Cymoedd

Er nad yw Tasglu’r Cymoedd yn fenter Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn unig mewn gwirionedd (gan ei fod yn cynnwys rhai ardaloedd yn Ninas Ranbarth Bae Abertawe), mae’n rhaglen broffil uchel sy’n cael effaith ar Brosiectau Ewropeaidd yn y De-ddwyrain. Mae rhagor o wybodaeth am y Tasglu ar gael yma.

Panel Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESI)

Mae’n rhaid i weithrediadau posibl a phresennol a ariennir gan Ewrop sy’n cael effaith ar y rhanbarth ddangos i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru eu bod yn diwallu angen strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn cyd-fynd â gweithgareddau eraill sydd eisoes yn bodoli. Mae Tîm Ymgysylltu Rhanbarth De-ddwyrain Cymru yn gyfrifol am brofi gweithrediadau ar lefel ranbarthol, ac mae rhagor o wybodaeth am y Panel ar gael yma.