Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF)

EMFF yn y DU

Mae’r Rhaglen Weithredol “Môr a Physgodfeydd 2014-2020” ar gyfer cymorth gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) yn y DU yn ceisio gwireddu blaenoriaethau datblygu cenedlaethol allweddol ynghyd ag amcanion “Ewrop 2020”. Mae’r Rhaglen Weithredol yn mynd i’r afael â diwygio cyffredinol y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP) a datblygu’r Polisi Môr Integredig (IMP).

Mae amcanion y DU wedi’u diffinio o dan 4 prif nod polisi:

  1. Addasu’r sector pysgodfeydd yn unol â gofynion y CFP diwygiedig – canolbwyntio ar drawsnewid y fflyd i bysgodfeydd wedi’u rheoli yn gynaliadwy heb bysgod taflu yn ôl, arloesi
  2. Meithrin y potensial ar gyfer twf ledled y cadwyni cyflenwi ym meysydd pysgodfeydd, dyframaethu a phrosesu – trwy gymorth ar gyfer arloesi, a buddsoddi mewn seilwaith ar y tir ac ar y môr
  3. Helpu i gynyddu cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y sector – trwy ddefnyddio adnoddau naturiol yn effeithlon, cefnogi polisïau i ddenu a chadw pobl mewn ardaloedd arfordirol, gwella llywodraethu lleol ac ati
  4. Cyflawni ymrwymiadau gorfodi a chasglu data’r DU – trwy ddatblygu adnoddau TG a thechnoleg i gefnogi prosesau rheoli a gorfodi, gwella’r gallu i olrhain cynhyrchion pysgodfeydd, ac addasu prosesau casglu data i ymateb i ofynion newydd y CFP diwygiedig

Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd – FLAG

Mae ardaloedd pysgodfeydd ledled yr UE yn wynebu heriau sylweddol. Mae’r dirywiad cyson mewn incwm a chyflogaeth yn y sector pysgota wedi tanlinellu’r angen am ymatebion arloesol sy’n gynaliadwy ac yn gynhwysol.

Mae Datblygiad Dan Arweiniad y Gymuned (CLLD) yn adnodd sy’n galluogi cymunedau pysgodfeydd lleol i fynd i’r afael â’r heriau hyn ar lawr gwlad gan ddefnyddio gwybodaeth rhanddeiliaid lleol i ddatrys problemau lleol.

Mae Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) yn ariannu Grwpiau Gweithredu Lleol Pysgodfeydd (FLAGs) i gyflwyno CLLD sy’n canolbwyntio ar bysgodfeydd yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud trwy Strategaeth Datblygu Lleol (LDS) wedi’i chynllunio gan bob un o’r FLAGs. O dan EMFF, bydd y FLAGs yn canolbwyntio’n bennaf ar gynorthwyo cymunedau pysgodfeydd i addasu i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP) diwygiedig a chefnogi twf economaidd cynaliadwy.

Dolenni defnyddiol

Canllawiau ar FLAGs

Cwestiynau Cyffredin am Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru