Y Timau Ymgysylltu Rhanbarthol

Mae pedwar Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol (RET) wedi eu sefydlu ledled Cymru i helpu i sicrhau bod cynigion am gyllid Ewropeaidd yn bodloni cyfleoedd a buddsoddiadau’r dyfodol ar lefelau rhanbarthol – Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru.

Mae’r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol yn gweithio ar draws pob sector i sicrhau cyfranogiad effeithiol a llwyddiant ar gyfer buddsoddiadau a ariennir gan yr UE – gan ychwanegu gwerth at fuddsoddiadau presennol/a gynlluniwyd yng nghyd-destun gweithgareddau a chyfleodd thematig sydd wedi eu sefydlu ac sy’n datblygu. Rydym yn cyflawni hyn drwy’r camau gweithredu canlynol:

Amcanion y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol Camau Gweithredu’r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol
Cynnal trosolwg strategol o flaenoriaethau/gweithgareddau rhanbarthol
  • Caffael gwybodaeth am flaenoriaethau/trafodaethau rhanbarthol gan weithgorau rhanbarthol
  • Rhwydweithio ac Ymgysylltu
Prawfesur polisïau o safbwynt rhanbarthol a blaenoriaethu gweithrediadau
  • Cefnogi strwythurau partneriaeth rhanbarthol i sicrhau consensws o ran gweithgarwch arfaethedig (blaenoriaethu)
Sicrhau bod blaenoriaethau a buddiannau rhanbarthol yn rhan o raglenni’r UE
  • Sicrhau ystyriaeth a chyfranogiad rhanbarthol mewn prosiectau strategol cenedlaethol (gweithgareddau ychwanegol, yr effaith ar gyflenwad/galw am sgiliau, sicrhau ymgysylltiad traws-sector, cysondeb ag uchelgeisiau strategol, sicrhau integreiddio a dim dyblygu)
  • Adrodd ac ymgysylltu yn rheolaidd â WEFO
  • Hwyluso’r adolygiad rheolaidd o’r Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd (EPF)
Nodi integreiddiad/dyblygiad/bylchau posibl o ran gweithgarwch
  • Mapio gweithgarwch parhaus (a gymeradwywyd, sy’n datblygu ac sy’n dod i’r amlwg) ar draws pob ffrwd ariannu yn y rhanbarth
  • Hyrwyddo rhwydweithio ymhlith prosiectau/cysylltiadau trwy ymgysylltu a digwyddiadau
Codi proffil ac ymwybyddiaeth am gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ar lefel rhanbarthol Hyrwyddo cyfleoedd a llwyddiannau prosiectau trwy:

  • Gylchlythyrau rheolaidd
  • Datganiadau i’r Wasg
  • Digwyddiadau a Gweithdai lledaenu
Cefnogi agweddau rhanbarthol ar Fonitro a Gwerthuso, a themâu trawsbynciol
  • Monitro ac asesu effaith a chwmpas gweithgarwch a ariennir gan Ewrop yn y rhanbarth trwy gyswllt rheolaidd â WEFO, cyllidwyr eraill, a chyda Buddiolwyr Arweiniol er mwyn casglu gwybodaeth yn gywir i lywio adroddiadau rheolaidd
Cefnogi strwythurau partneriaeth rhanbarthol sy’n adlewyrchu anghenion a chyfleoedd rhanbarthol
  • Timau Ymgysylltu Rhanbarthol yn cefnogi/wedi eu hintegreiddio ar draws Byrddau Dinas-Ranbarthau (Rhanbarthau Bae Abertawe a Dinas Caerdydd), Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.

Manylion Cyswllt

Os ydych chi’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio ar draws mwy nag un rhanbarth, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gysylltu â’r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol trwy ddefnyddio’r manylion isod:

Gogledd Cymru

Gwefan: www.northwaleseab.co.uk/regional-engagement-team/?lang=cy (gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ei gylchlythyr misol)
E-bost: Barbara.Burchell@conwy.gov.uk

Canolbarth Cymru

Gwefan: https://www.growinpowys.com/grow-in-mid-wales
E-bost: claire.miles@ceredigion.gov.uk

De-orllewin Cymru

E-bost: JELewis@carmarthenshire.gov.uk
 @RLSPSWMWTwitter