Ffilmiau

Gan weithio gydag Orchard, byddwn yn cynhyrchu cyfres o chwe ffilm, fydd yn arddangos yr effaith gadarnhaol y mae prosiectau a Ariennir ag Arian Ewropeaidd yn ei chael o fewn y rhanbarth ynghyd â gwaith Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol y De-ddwyrain.

Gellwch ddarllen mwy am Orchard yma.

Ffilm 1 – Cyflwyniad i rôl Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol y De-ddwyrain

Rhyddhawyd ein ffilm gyntaf ym mis Tachwedd 2019. Mae’r ffilm yn arddangos rôl y tîm, gan dynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a’r angen i gysylltu datblygiadau strategol gyda chyflawni gweithredol er mwyn cynyddu effaith buddsoddiadau’r UE i’r eithaf.

Ffilm 2 – ERDF P2 Gallu Cystadleuol Busnesau Bychain a Chanolig

Mae’r ail ffilm, a gwblhawyd yn ystod y cyfnod clo yng Ngwanwyn 2020, yn dangos yr effaith y mae prosiectau Gallu Cystadleuol Busnesau Bychain a Chanolig Blaenoriaeth 2 Cronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF) yn ei chael ar draws y rhanbarth, gan ganolbwyntio ar rwydwaith B2 ERDF a sut mae’n dod â gweithrediadau, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill at ei gilydd i gynyddu’r buddion ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Ffilm 3 – ERDF P1 Ymchwil ac Arloesi

Cwblhawyd y drydedd ffilm hon yn gynnar yn 2022 ac mae’n darlunio sut mae ERDF wedi cefnogi arloesedd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan dynnu sylw at rai o’r amrywiaeth eang o brosiectau sy’n cael eu cyflawni gan ddefnyddio cyllid o Flaenoriaeth 1 ERDF.

Ffilm 4 – Cyflogadwyedd a Sgiliau ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Cwblhawyd y ffilm hon yng ngwanwyn 2023, a chafodd ei harddangos yn ein Digwyddiad Dathlu ar yr 11eg o Fai. Mae’r ffilm yn darlunio sut mae prosiectau a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yn cynorthwyo cyfranogwyr i oresgyn ystod eang o rwystrau i gael gwaith, hyfforddiant a gwneud cynnydd yn y gweithle.

Ffilm 5 – Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn Cefnogi Pobl Ifanc

Mae’r ffilm hon yn tynnu sylw at beth o’r gwaith a ariannwyd gan ESF, sydd wedi cynorthwyo pobl ifanc sy’n NEET neu mewn perygl o ddod yn NEET.

Ffilm 6 – Dathlu Effaith Cronfeydd yr UE ar draws y Rhanbarth

Rhydd y ffilm hon ddarlun o’r digwyddiad dathlu rhanbarthol a gynhaliwyd ar y 10fed o Fai 2023. Gan gynnwys cyfweliadau gydag arweinwyr gweithdai a chyflwynwyr, mae’r ffilm yn tynnu sylw at effaith lwyddiannus prosiectau a phartneriaethau a ariennir gan yr UE ar Brifddinas-ranbarth Caerdydd.

 

 

Ffilm 7 – ERDF Blaenoriaeth 4: Trawsnewid De Ddwyrain Cymru

Mae’r ffilm olaf hon yn amlygu ar rhai o’r datblygiadau ffisegol a’r effaith a gawsant dros yr holl ranbarth.