Horizon 2020

Rhaglen Horizon 2020, sy’n werth dros €70 biliwn, yw rhaglen ymchwil ac arloesi fwyaf erioed yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae’n galluogi sefydliadau Cymru i fod ar flaen y gad yn y byd ymchwil ac arloesi rhyngwladol, ac i gydweithio gyda’r prif sefydliadau ar draws Ewrop a’r byd.

Mae Horizon 2020 yn un o lawer o raglenni a reolir yn uniongyrchol gan y Comisiwn Ewropeaidd, ond mae Uned Horizon 2020 Llywodraeth Cymru ar gael i gynorthwyo’r holl sefydliadau yng Nghymru sy’n gwneud neu’n ystyried gwneud cais am gyllid ar gyfer ymchwil ac arloesi gan yr UE. Mae’r uned yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ar lefel Cymru, y DU a’r UE i gydgysylltu a hwyluso’r amrywiaeth eang o gymorth a chyngor sydd ar gael i sefydliadau Cymru.