Cyflymu Cymru
Mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop ar gael trwy Raglenni Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a Dwyrain Cymru ar gyfer 2014-2020.
2011: Cynhaliodd WEFO ‘ymarfer myfyrio’ i gael barn rhanddeiliaid ar y gwersi a ddysgwyd o’r Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol rhwng 2007 a 2013 yng Nghymru.
2012: Comisiynwyd Dr Grahame Guilford i gynnal adolygiad annibynnol o’r trefniadau gweithredu (‘Adolygiad Guilford’). Roedd yr adroddiad a luniwyd o ganlyniad i hyn, Europe Matters to Wales, yn cynnwys deuddeng argymhelliad ar gyfer y rhaglenni 2014-2020 gan gynnwys creu Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd i dargedu’r buddsoddiadau’n well.
2013: Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y Rhaglenni Gweithredu drafft ar gyfer Cronfeydd Strwythurol 2014-2020, a nododd hyn y dadansoddiad economaidd-gymdeithasol a’r blaenoriaethau a’r themâu ar gyfer cyllid.
2014: Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru ar gyfer Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2014-2020. Mae’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni yn gyfrifol am fonitro cyflawniad effeithiol y rhaglenni ar gyfer Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, ac mae’n ystyried sut mae’r cronfeydd yn cydweithio i gyflawni’r effaith fwyaf.
Caiff y Pwyllgor ei gadeirio gan Julie Morgan AC ac mae 27 o aelodau wedi’u penodi iddo. Cynhelir cyfarfodydd 3-4 gwaith y flwyddyn. Mae cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor, a rhestr lawn o aelodau ar gael ar wefan WEFO.
2015: Cymeradwyodd y Comisiwn Ewropeaidd y Rhaglenni Gweithredol ar gyfer rhaglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a rhaglen Dwyrain Cymru. Mae crynodebau o Raglenni Cronfeydd Strwythurol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a Dwyrain Cymru ar gael ar wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Bydd WEFO yn ystyried ac yn arfarnu’r ceisiadau yng nghyd-destun amrywiaeth o ddogfennau, gan gynnwys Rhaglen Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop a’r Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd. Maen nhw’n dymuno sicrhau bod y prif bartneriaid wedi deall bod eu cynlluniau wedi’u gosod yng nghyd-destun darlun ehangach o fuddsoddiad yng Nghymru ac mai’r Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd fydd yn eu llywio.
Datblygwyd y Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd er mwyn helpu i lywio defnydd cronfeydd yr UE yn ystod cyfnod rhaglennu 2014-2020. Mae’n cynnwys crynodeb o’r gwahanol fuddsoddiadau sy’n cael eu gwneud ledled Cymru er mwyn sicrhau bod gweithrediadau a ariennir gan Ewrop wedi’u datblygu o fewn y cyd-destun cyllido a pholisi priodol.
Bydd disgwyl i bobl sy’n gwneud cais am arian gan WEFO ddangos sut y byddan nhw’n ychwanegu gwerth at yr hyn sy’n digwydd eisoes neu sydd yn yr arfaeth yng Nghymru a’r Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd fydd y pwynt cyfeirio. Bydd yn eu helpu i gynllunio’u prosiectau er mwyn osgoi dyblygu, nodi partneriaid a rhwydweithiau a mireinio eu cynlluniau cyflawni.
Mae elfen ranbarthol i’r Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd sy’n nodi’r prif ysgogiadau a chyfleoedd ledled y pedwar rhanbarth yng Nghymru. Bydd yr adran sy’n ymwneud â De-ddwyrain Cymru yn hollbwysig i weithrediadau sy’n dymuno cyflawni yn y rhanbarth hwnnw.
Mae pedair dogfen Rhaglen ar wahân:
Mae’r dogfennau hyn yn esbonio’n fanwl y gweithgareddau cymwys, targedau a chanlyniadau’r Rhaglenni. Mae crynodeb o’r rhaglenni ar gael hefyd.
Mae’r rhaglenni wedi’u strwythuro o amgylch nifer o Amcanion Penodol sy’n darparu pwyslais ar gyfer y buddsoddiad ac yn amlinellu’r newidiadau a’r canlyniadau i’w cyflawni. Mae’n rhaid i’r holl weithrediadau a gaiff eu cefnogi gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop neu Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop gyfrannu at y canlyniadau hyn trwy eu camau.
Echelin Flaenoriaeth 1: | Trechu Tlodi drwy Gyflogaeth Gynaliadwy |
Amcan Penodol 1: | Cynyddu cyflogadwyedd pobl sy’n Economaidd Anweithgar ac sydd wedi bod yn Ddi-waith am Gyfnod Hir sy’n 25 oed a hŷn sy’n wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth. |
Echelin Flaenoriaeth 2: | Sgiliau ar gyfer Twf |
Amcan Penodol 1: | Cynyddu lefelau sgiliau, gan gynnwys sgiliau sy’n berthnasol i waith, y rhai yn y gweithlu sydd â lefel isel o sgiliau, os o gwbl. |
Amcan Penodol 2: | Cynyddu nifer y bobl yn y gweithlu sydd â sgiliau technegol a phenodol i waith ar lefel ganolraddol ac uwch. |
Amcan Penodol 3: | Gwella sefyllfa menywod yn y gweithlu. |
Echelin Flaenoriaeth 3: | Cyflogaeth Pobl Ifanc |
Amcan Penodol 1: | Lleihau nifer y bobl ifanc 16-24 oed Nad ydynt mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant (NEET). |
Amcan Penodol 2: | Lleihau nifer y bobl ifanc rhwng 11 a 24 oed sy’n wynebu risg o ddod yn NEET. |
Echelin Flaenoriaeth 1: | Ymchwil ac arloesedd |
Amcan Penodol 1: | Cynyddu cyllid ymchwil cystadleuol a phreifat. |
Amcan Penodol 2: | Trosi prosesau ymchwil ac arloesedd yn gynhyrchion, prosesau a gwasanaethau masnachol newydd a gwell. |
Echelin Flaenoriaeth 2: | Cystadleurwydd BBaCh |
Amcan Penodol 1: | Cynyddu faint o gyllid sydd ar gael i BBaChau. |
Amcan Penodol 2: | Cynyddu nifer y BBaCh newydd. |
Amcan Penodol 3: | Cynyddu’r defnydd o rwydweithiau NGA a seilwaith TGCh gan BBaChau. |
Amcan Penodol 4: | Cynyddu twf y BBaChau hynny â photensial. |
Amcan Penodol 5: | Cynyddu faint o gyllid sydd ar gael ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesedd, yn arbennig cyfalaf risg, ar gyfer BBaChau yng Nghymru. |
Echelin Flaenoriaeth 3: | Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni |
Amcan Penodol 1: | Cynyddu nifer y cynlluniau ynni adnewyddadwy bach a sefydlir. |
Amcan Penodol 2: | Cynyddu effeithlonrwydd ynni stoc dai bresennol Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd tlodi tanwydd. |
Echelin Flaenoriaeth 4: | Cysylltedd |
Amcan Penodol 1: | Mwy o symudedd trefol a llafur i ac o ganolfannau trefol a chyflogaeth allweddol. |
Amcan Penodol 2: | Cyfrannu at dargedau UE am fynediad o 100% i fand eang (30Mbps ac uwch) a mynediad o 50% i 100Mbps. |
Echelin Flaenoriaeth 5: | Cymorth Technegol |
Amcan Penodol 1: | Sicrhau y caiff rhaglenni 2014-2020 eu rheoli’n effeithlon ac yn effeithiol. |
Amcan Penodol 2: | Darparu cyngor o safon i bartneriaid allweddol sy’n rhan o gynllunio a chyflawni gweithrediadau. |
Amcan Penodol 3: | Gwella integreiddio buddsoddiadau â Chronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd a rhaglenni ehangach. |
Echelin Flaenoriaeth 1: | Trechu Tlodi drwy Gyflogaeth Gynaliadwy |
Amcan Penodol 1: | Cynyddu cyflogadwyedd y rhai sydd agosaf at y farchnad lafur ac sy’n wynebu’r risg fwyaf o dlodi. |
Amcan Penodol 2: | Cynyddu cyflogadwyedd pobl sy’n Economaidd Anweithgar ac sydd wedi bod yn Ddi-waith am Gyfnod Hir sy’n 25 oed a hŷn sy’n wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth. |
Amcan Penodol 3: | Gostwng cyfraddau tangyflogaeth neu absenoldeb ar gyfer unigolion cyflogedig sydd â chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar iaith a / neu rwystrau eraill sy’n eu hatal rhag ymgysylltu â’r farchnad lafur mewn ffordd gynaliadwy. |
Echelin Flaenoriaeth 2: | Sgiliau ar gyfer Twf |
Amcan Penodol 1: | Cynyddu lefelau sgiliau, gan gynnwys sgiliau sy’n berthnasol i waith, y rhai yn y gweithlu sydd â lefel isel o sgiliau, os o gwbl. |
Amcan Penodol 2: | Cynyddu nifer y bobl yn y gweithlu sydd â sgiliau technegol a phenodol i waith ar lefel ganolraddol ac uwch. |
Amcan Penodol 3: | Cynyddu nifer y bobl â graddau neu gymhwyster cyfatebol sy’n cyflawni gweithgareddau ymchwil ac arloesedd ym myd busnes. |
Amcan Penodol 4: | Gwella sefyllfa menywod yn y gweithlu. |
Echelin Flaenoriaeth 3: | Cyflogaeth a Chyrhaeddiad Pobl Ifanc |
Amcan Penodol 1: | Lleihau nifer y bobl ifanc 16-24 oed Nad ydynt mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant (NEET). |
Amcan Penodol 2: | Lleihau nifer y bobl ifanc rhwng 11 a 24 oed sy’n wynebu risg o ddod yn NEET. |
Amcan Penodol 3: | Cynyddu lefelau cofrestru a chyrhaeddiad pynciau STEM ymhlith pobl ifanc 11-19 oed. |
Amcan Penodol 4: | Cynyddu sgiliau’r gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant. |
Echelin Flaenoriaeth 1: | Ymchwil ac arloesedd |
Amcan Penodol 1: | Cynyddu cyllid ymchwil cystadleuol a phreifat. |
Amcan Penodol 2: | Trosi prosesau ymchwil ac arloesedd yn gynhyrchion, prosesau a gwasanaethau masnachol newydd a gwell. |
Echelin Flaenoriaeth 2: | Cystadleurwydd BBaCh |
Amcan Penodol 1: | Cynyddu faint o gyllid sydd ar gael i BBaChau. |
Amcan Penodol 2: | Cynyddu nifer y BBaCh newydd. |
Amcan Penodol 3: | Cynyddu’r defnydd o rwydweithiau NGA a seilwaith TGCh gan BBaChau. |
Amcan Penodol 4: | Cynyddu twf y BBaChau hynny â photensial. |
Amcan Penodol 5: | Cynyddu faint o gyllid sydd ar gael ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesedd, yn arbennig cyfalaf risg, ar gyfer BBaChau yng Nghymru. |
Echelin Flaenoriaeth 3: | Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni |
Amcan Penodol 1: | Cynyddu nifer y dyfeisiau ynni tonnau a llanw a brofir yn nyfroedd Cymru. |
Amcan Penodol 2: | Cynyddu nifer y cynlluniau ynni adnewyddadwy bach a sefydlir. |
Amcan Penodol 3: | Cynyddu effeithlonrwydd ynni stoc dai bresennol Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd tlodi tanwydd. |
Echelin Flaenoriaeth 4: | Cysylltedd a Datblygu Trefol |
Amcan Penodol 1: | Ymdrin ag ymyloldeb drwy wella’r Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-ewropeaidd. |
Amcan Penodol 2: | Mwy o symudedd trefol a llafur i ac o ganolfannau trefol a chyflogaeth allweddol. |
Amcan Penodol 3: | Cyfrannu at dargedau UE am fynediad o 100% i fand eang (30Mbps ac uwch) a mynediad o 50% i 100Mbps. |
Amcan Penodol 4: | Cynyddu cyflogaeth drwy fuddsoddiadau mewn seilwaith â blaenoriaeth sy’n ategu strategaeth ranbarthol neu drefol. |
Echelin Flaenoriaeth 5: | Cymorth Technegol |
Amcan Penodol 1: | Sicrhau y caiff rhaglenni 2014-2020 eu rheoli’n effeithlon ac yn effeithiol. |
Amcan Penodol 2: | Darparu cyngor o safon i bartneriaid allweddol sy’n rhan o gynllunio a chyflawni gweithrediadau. |
Amcan Penodol 3: | Gwella integreiddio buddsoddiadau â Chronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd a rhaglenni ehangach. |
Mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cynnwys yr ardaloedd awdurdod lleol canlynol:
Mae rhaglenni Dwyrain Cymru yn gweithredu yn yr awdurdodau lleol canlynol:
Mae map sy’n dangos ardaloedd y rhaglen i’w weld yma.