Cronfeydd Llywodraeth y DU ar ôl Cyllid yr UE

Y Gronfa Ffyniant Bro

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn cefnogi gwaith adfywio canol trefi a’r stryd fawr, prosiectau trafnidiaeth leol, ac asedau diwylliannol a threftadaeth. Mae’r gronfa gystadleuol yn werth £4.8 biliwn ledled y DU, gydag o leiaf £800 miliwn i’w neilltuo ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon dros bedair blynedd rhwng 2021 a 2025.

Cyhoeddwyd canlyniadau ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro ym mis Ionawr 2023, gyda £2.1 biliwn wedi’i ddyfarnu i 111 o brosiectau. Ar y cyd â chymeradwyaethau’r rownd gyntaf, mae’r Gronfa Ffyniant Bro wedi dyfarnu £3.8 biliwn i 216 o brosiectau.

Mae’r prosiectau wedi’u cynllunio i greu swyddi, ysgogi twf economaidd, helpu i adfer balchder pobl yn y mannau lle maent yn byw a lledaenu cyfleoedd yn fwy cyfartal. Dyfarnwyd £208m i brosiectau llwyddiannus yng Nghymru, gan gynnwys £105m ar gyfer y prosiectau canlynol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd:

  • £50m ar gyfer Cam 1 Crossrail Caerdydd. Bydd hyn yn helpu i ddarparu lein newydd rhwng Bae Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog, gan wella teithio i filoedd o bobl sy’n teithio bob dydd rhwng y gorsafoedd.
  • £18m i drawsnewid Pafiliwn y Grand, Porthcawl, un o’r adeiladau mwyaf adnabyddus yn Ne Cymru, sydd wedi dirywio ar ôl blynyddoedd o waith adnewyddu achlysurol.
  • £9m i adeiladu campws peirianneg newydd ar gyfer 600 o bobl ifanc ym Mlaenau Gwent a fydd yn cynnig rhaglen helaeth o brentisiaethau a lleoliadau diwydiant yn yr ardal i’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.
  • £7.6m i drawsnewid adeiladau adfeiliedig yn Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl, canolfan ddiwylliannol ffyniannus gyda bwyty newydd i hybu’r economi gyda’r nos.
  • £20m i adeiladu canolfan hamdden a lles o’r radd flaenaf yng Nghaerffili, gan gynnwys campfa a phwll nofio newydd.

Cyhoeddwyd 105 o geisiadau llwyddiannus o dan rownd 1 ar 3 Tachwedd 2021, gyda deg ohonynt yng Nghymru. O fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd roedd tri chais llwyddiannus yn RhCT:

  • £5.3m i adnewyddu Canolfan Gelfyddydau’r Muni ym Mhontypridd, gan helpu i ddiogelu dyfodol yr adeilad rhestredig Gradd II.
  • £3.5m ar gyfer Hwb Trafnidiaeth y Porth. Bydd yr hwb newydd yn gyfnewidfa bysiau a threnau integredig, wedi’i leoli yn yr orsaf reilffordd.
  • £11.4m i gyflawni cynlluniau deuoli Coed Elái ar yr A4119 ym Mhontypridd. Bydd y cynllun mawr yn darparu 1.5km o ffordd ddeuol a llwybr cymunedol a rennir ar wahân o Gylchfan Coed Elái i Barc Busnes Llantrisant – ynghyd â phont teithio llesol newydd sy’n croesi’r A4119 i’r de o gylchfan Coed Elái, i ddarparu llwybr cymunedol a rennir newydd i mewn i’r pentref.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cadarnhau y bydd rownd arall o’r Gronfa Ffyniant Bro.

Gweld y rhestr o ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer rownd 2 y Gronfa Ffyniant Bro

Gweld y rhestr o ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer rownd 1 y Gronfa Ffyniant Bro

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Cafodd y Gronfa Ffyniant Gyffredin ei chynnig gyntaf ym maniffesto’r Blaid Geidwadol yn 2017. Y weledigaeth ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw helpu i sicrhau ffyniant a chreu cyfleoedd ledled y DU ar gyfer pobl a lleoedd. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyllid domestig ledled y DU sydd o leiaf yn cyfateb i dderbyniadau’r Undeb Ewropeaidd, sef tua £1.5 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd.

Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cefnogi’r amcan ffyniant bro o feithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd trwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle
  • Cefnogi Busnesau Lleol; a
  • Pobl a Sgiliau

Yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU yn cefnogi darpariaeth ledled ardaloedd daearyddol strategol rhanbarthol De-ddwyrain Cymru/Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, a De-orllewin Cymru/Bae Abertawe.

Er mwyn cael mynediad at eu dyraniad o’r cyllid, gweithiodd pob awdurdod lleol gyda phartneriaid lleol i gytuno ar ganlyniadau ac ymyriadau mesuradwy sy’n adlewyrchu anghenion a chyfleoedd lleol. Roedd y rhain yn sail i Gynllun Buddsoddi Rhanbarthol y cytunwyd arno (yn cwmpasu’r holl Awdurdodau Lleol yn y rhanbarth) a gymeradwywyd gan Lywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2022. Cadarnheir y cyllid ar gyfer tair blwyddyn ariannol, a rhaid i bob ymyriad ddod i ben erbyn mis Mawrth 2025.

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, fel yr awdurdod arweiniol dynodedig, yn derbyn dyraniad yr ardal ac yn ymgymryd â’r rheolaeth strategol ar y gronfa ar gyfer De Ddwyrain Cymru. Mae’r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol yn cydnabod mai’r ffordd orau o gyflawni balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd cynyddol yw drwy ddarparu’n agos at bobl a busnesau lleol a thrwy awdurdodau sy’n deall cyd-destun a hunaniaeth leol unigryw pob lle. Bydd yr ymyriadau felly’n cael eu haddasu i weddu i nodweddion lleol a’r gwahanol heriau a chyfleoedd ar draws y rhanbarth.

Gellir gweld crynodeb o Gynllun Buddsoddi Rhanbarthol SPF ar gyfer y rhanbarth ar wefan Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae’r gronfa hefyd yn cynnwys rhaglen rhifedd newydd i oedolion sy’n werth £559 miliwn, a hynny ar gyfer y DU gyfan, sef Lluosi, a fydd yn cefnogi pobl sydd heb unrhyw sgiliau mathemateg, neu sydd â sgiliau lefel isel, i ddychwelyd i’r gwaith. Bydd y cynllun yn cynnig tiwtora personol am ddim, hyfforddiant digidol, a chyrsiau hyblyg i wella hyder a sgiliau rhifedd oedolion.

Gellir gweld Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r dogfennau ategol sydd ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.

Dyraniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i awdurdodau lleol unigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd

Awdurdodau unigol Cronfa Ffyniant Gyffredin Graidd y DU Lluosi Cyfanswm
Blaenau Gwent £23,301,572 £4,863,920 £28,165,492
Pen-y-bont ar Ogwr £19,116,296 £3,990,295 £23,106,591
Caerffili £28,272,298 £5,901,499 £34,173,797
Caerdydd £34,587,594 £7,219,740 £41,807,334
Merthyr Tudful £22,698,977 £4,738,136 £27,437,113
Sir Fynwy £5,919,533 £1,235,631 £7,155,164
Casnewydd £27,177,563 £5,672,986 £32,850,549
Rhondda Cynon Taf £37,320,994 £7,790,305 £45,111,298
Torfaen £20,431,241 £4,264,774 £24,696,014
Bro Morgannwg £11,606,505 £2,422,717 £14,029,222
Y cyfanswm ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd/De Ddwyrain Cymru £230,432,572 £48,100,003 £278,532,575

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin

Rhyddhaodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, ddatganiad ysgrifenedig pan gyhoeddwyd y gronfa, yn mynegi pryderon nad yw’r SPF yn bodloni ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyfateb i faint cronfeydd yr UE y mae Cymru wedi’u cael yn flaenorol ac y byddai wedi bod yn gymwys ar eu cyfer; ac nad oes digon o ffocws ar y cymunedau mwyaf anghenus.

Gweld y nodyn ar fethodoleg dyraniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar wefan Llywodraeth y DU.

Gellir gweld y datganiad gan Vaughan Gething AS ar ddyraniadau SPF y DU ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Rhyddhawyd datganiad pellach gan Vaughan Gething pan gyhoeddwyd cymeradwyaeth y Cynlluniau Buddsoddi Rhanbarthol gan Lywodraeth y DU, yn tynnu sylw at effaith yr oedi wrth gymeradwyo.

Gellir gweld y datganiad gan Vaughan Gething AS ar gyflawni SPF y DU ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae’r Fforwm Strategol ar gyfer Buddsoddiad Rhanbarthol, sy’n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru, yn parhau i gyfarfod i drafod cyllid buddsoddi rhanbarthol.

Gweld y cofnodion a’r papurau o’r Fforwm Strategol ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cronfa Adfywio Cymunedol y DU

Nod Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU (CRF) oedd cefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus ledled y DU, gan helpu i dreialu dulliau a rhaglenni newydd i fynd i’r afael â heriau lleol wrth baratoi ar gyfer cyflwyno’r SPF. Dewiswyd y prosiectau arloesol i gyd-fynd â blaenoriaethau lleol a chefnogi blaenoriaethau buddsoddi rhaglen y Gronfa Adfywio Cymunedol:

  • Buddsoddiad mewn sgiliau
  • Buddsoddiad ar gyfer busnesau lleol
  • Buddsoddiad mewn cymunedau a lle
  • Cefnogi pobl i mewn i gyflogaeth

Yn wreiddiol, cymeradwywyd prosiectau i fod yn weithredol tan fis Mehefin 2020 ac wedyn cawsant gyfle i ymestyn eu hamserlen cyflawni tan 30 Rhagfyr 2022. Mae pob prosiect wedi cau bellach.

Lluniodd Llywodraeth y DU fynegai o 100 o leoedd â blaenoriaeth, yn seiliedig ar gadernid economaidd, wedi’i fesur yn ôl cynhyrchiant, incwm aelwydydd, diweithdra, sgiliau, a dwysedd y boblogaeth. Fodd bynnag, roedd pob awdurdod arweiniol yn gallu gwahodd ceisiadau a chydlynu pecyn o geisiadau gwerth hyd at £3 miliwn ar gyfer eu hardaloedd. Mae’r prosbectws ar gyfer y buddsoddiad o £220 miliwn i’w weld yn Cronfa Adfywio Cymunedol y DU: prosbectws – GOV.UK (www.gov.uk).

Cymeradwywyd 70 o brosiectau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n werth cyfanswm o £19,610,821.

Darllen y rhestr lawn o’r prosiectau a gymeradwywyd ledled y DU

Cronfa Perchnogaeth Gymunedol

Cronfa gwerth £150 miliwn gan lywodraeth y DU yw’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol (COF) sy’n helpu grwpiau cymunedol i ddiogelu, drwy berchnogaeth gymunedol, asedau yn eu hardal leol sydd mewn perygl o fynd yn angof.

Gall grwpiau wneud cais am hyd at £250k o arian cyfatebol i helpu i gymryd yr awenau neu redeg ased er, mewn achosion eithriadol, mae hyd at £1m ar gael ar gyfer asedau chwaraeon. Yn y rownd gyllido gyntaf, ariannwyd tri phrosiect gwerth £464,258 yng Nghymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU brosbectws wedi’i ddiweddaru ar gyfer rownd 2 COF ddiwedd mis Mai 2022. Isod mae’r prif newidiadau o’r rownd gyntaf i fod yn ymwybodol ohonynt:

  • Mae proses ymgeisio dau gam bellach. Mae’r cam datganiad o ddiddordeb (EOI) ar agor bob amser. Bydd ymgeiswyr yn llenwi ffurflen fer (a ddylai gymryd rhwng 10 a 15 munud) i wirio eu cymhwysedd a chael adborth ar gynigion cyn cyflwyno cais llawn.
  • Dim ond ymgeiswyr sy’n llwyddo yn y cam datganiad o ddiddordeb sy’n cael ffurflenni cais llawn
  • Bydd tri chyfnod ymgeisio yn ystod y flwyddyn, a dim ond ar ôl llwyddo yn y cam datganiad o ddiddordeb y gellir cyflwyno ceisiadau.
  • Nod rheolwyr y gronfa yw rhoi adborth ar ddatganiadau o ddiddordeb o fewn tair wythnos
  • Erbyn hyn mae terfyn o ddau gais i bob prosiect
  • Mae’r prosbectws yn cynnwys mwy o fanylion am gymhwysedd ar gyfer asedau chwaraeon ac asedau’r sector cyhoeddus.
  • Mae’r amserlen ar gyfer cwblhau prosiectau wedi’i hymestyn o chwe mis i ddeuddeg mis
  • Prydlesi 25 mlynedd a ffefrir o hyd, ond bydd y gronfa’n caniatáu asedau sydd ag o leiaf bymtheg mlynedd o brydlesi a chymalau terfynu rhesymol yn awr
  • Mae’r gofyniad i brosiectau fod wedi cael defnydd cymunedol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf wedi’i ddileu, ond rhaid i asedau ddangos tystiolaeth o ddefnydd cymunedol yn y gorffennol o hyd.

Mae bwriad i gynnig cymorth datblygu yn y dyfodol ac mae Llywodraeth y DU wrthi’n caffael darparwr i gefnogi darpar ymgeiswyr. Rhagwelir y bydd hyn ar waith yn ddiweddarach eleni.

Nid yw’r meini prawf ar gyfer asesu ceisiadau wedi newid.

Cynghorir prosiectau i beidio â rhuthro gyda’u ceisiadau a’u cyflwyno pan fyddant yn barod.

Agorodd trydedd ffenestr ymgeisio Rownd 2 ar 15 Chwefror 2023 a bydd yn cau ar 14 Ebrill 2023, a disgwylir ffenestri ymgeisio pellach yn 2023 a 2024.

Darllen prosbectws COF.