Ffactor canolog yn narlun polisi economaidd de-ddwyrain Cymru yw cynllun Metro Llywodraeth Cymru ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Bydd yn cysylltu’r 10 ardal awdurdod lleol sy’n rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd â’i gilydd, gan ymdrin â’r cyfyngiadau sylweddol sydd ar rwydwaith y rheilffyrdd ar hyn o bryd; safleoedd datblygu strategol; a chanolfannau poblogaeth sy’n cael eu gwasanaethu’n wael gan y rheilffyrdd ar hyn o bryd.
Mae’r Metro yn rhaglen hirdymor sy’n cael ei datblygu er mwyn gallu ei hymestyn gam wrth gam.
Mae Metro Cam 1 ar waith. Mae’r estyniad i dref Glynebwy a mwy o welliannau capasiti ar y rheilffordd honno, ynghyd â gwelliannau i orsafoedd eraill ar draws y rhwydwaith, eisoes wedi eu cwblhau neu maent ar y gweill.
Bydd Metro Cam 2 (2017-2023) yn canolbwyntio ar foderneiddio Rheilffyrdd craidd y Cymoedd a rhwydwaith reilffyrdd ehangach de Cymru. Bydd y gwaith seilwaith hwn yn cael ei integreiddio gyda rhaglenni caffael masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau.
Canlyniad hyn fydd rhwydwaith sy’n galluogi gwasanaethau dibynadwy o ansawdd uchel sy’n gallu darparu pedwar cerbyd yr awr ar draws y rhwydwaith cyfan pan fo angen, gan ddarparu amseroedd teithio byrrach a’r capasiti ar gyfer ychwanegu gorsafoedd newydd ac ymestyn y rhwydwaith.
Os bydd Cam 2 yn cynnwys rhyw fath o reilffordd ysgafn, yna bydd hi’n haws ymgorffori ystod o estyniadau sy’n seiliedig ar reilffyrdd. Gallai hyn fod yn sail i raglen hirdymor o ymestyn gam wrth gam y tu hwnt i 2023.
“Mae’r Metro’n cynnig cyfle i wella economi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Drwy gyflawni prosiect unwaith mewn cenhedlaeth i greu rhanbarth mwy dynamig, wedi’i gysylltu sy’n hawdd byw ynddo, gallwn wella ein GYC/y pen sydd ar hyn o bryd yn 80% o gyfartaledd y DU…. Mae hanner poblogaeth Cymru, 1.49M o bobl, yn byw o fewn 20 milltir i ganol Caerdydd. Er mwyn sicrhau manteision y màs critigol hwn, mae angen i Dde-ddwyrain Cymru weithredu fel dinas-ranbarth ystyrlon… Mae’r Metro’n cynnig cyfle i ymgorffori’n ffisegol y cysyniad o ddinas-ranbarth sy’n datblygu ac i gyflawni manteision economaidd ledled de-ddwyrain Cymru.”
“Gall Metro helpu i gyflawni manteision economaidd tymor hir:
- Rhoi cymorth i greu 7,000 o swyddi.
- Cyfrannu £4Bn ychwanegol i’r economi ranbarthol dros 30 mlynedd.
- Cyflawni effaith adeiladu unwaith yn unig gwerth £4Bn o’r Metro a’r datblygiadau cysylltiedig.
Caiff hyn ei gyflawni o ganlyniad i:
- Gynyddu dalgylch y rhwydwaith trafnidiaeth rhanbarthol gan 420,000 neu 60%.
- Lleihau’r amserau teithio drws i ddrws ar gyfartaledd ar draws y rhanbarth.
- Rhoi cysylltiadau gwell i bobl â’r prif leoliadau cyflogaeth a datblygiad.”
Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: Astudiaeth Effaith – Crynodeb Gweithredol Hydref 2013
I gael rhagor o wybodaeth, newyddion a datblygiadau ewch i dudalennau Metro Llywodraeth Cymru.