Mae prentisiaethau yng Nghymru yn ffordd o ennill cyflog a gweithio ochr yn ochr â staff profiadol er mwyn dysgu’r sgiliau penodol ar gyfer y gwaith hwnnw. Bydd y prentis hefyd yn cael hyfforddiant ychwanegol gan ddarparwr hyfforddiant sy’n rhan o’r bartneriaeth, a bydd yn gweithio tuag at ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.
Bydd cyfranogwyr yn cael yr un buddion â gweithwyr eraill. Bydd eu cyflog yn cynyddu wrth i’w sgiliau ddatblygu. Mae’n bosibl y gallant gael arian ychwanegol i brynu llyfrau hanfodol, dillad neu offer, neu gymorth i’w helpu gydag anabledd.
Bydd prentisiaeth yn rhoi’r cyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau sy’n benodol i waith arbennig, ennill gwybodaeth ac ennill cymwysterau proffesiynol. Byddant yn gweithio tuag at ennill cymhwyster seiliedig ar waith ar Lefel 2 o leiaf o dan Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
Bydd cyfranogwyr yn gwneud gwaith ‘go iawn’ i gyflogwr ‘go iawn’, a rhoddir targedau i’w cyflawni. Cynhelir archwiliadau cynnydd rheolaidd i sicrhau bod y cyflogwr yn cefnogi’r prentis a’i fod yn datblygu yn ei waith.
Gweithredir y prosiect ym mhob ardal awdurdod lleol.
Gall unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn, sy’n byw yng Nghymru ac nad ydynt mewn addysg amser llawn ymgeisio.