Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

KESS 2 (Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2)

Disgrifiad o’r prosiect

Mae’r Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn brif raglen Gydgyfeirio Ewropeaidd dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran sector addysg uwch Cymru. Mae KESS 2 yn cynnig prosiectau ymchwil cydweithredol (Graddau Meistr a Doethuriaethau Ymchwil) mewn cysylltiad â chwmni partner lleol, ac mae’r ysgoloriaethau wedi’u cefnogi gan gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae KESS 2 yn gweithio ledled ardal Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, ac mae pob un o Brifysgolion Cymru yn rhan o’r gweithrediad.

Bydd y cynllun yn creu partneriaethau rhwng dros 500 o fusnesau ac academyddion ac ymchwilwyr ôl-raddedig i ddatblygu prosiectau ymchwil arloesol â’r nod o ysgogi twf busnes.

Nod cynllun KESS II yw cynyddu nifer yr unigolion a chanddynt sgiliau lefel uwch ym maes ymchwil ac arloesi ac mae ganddo’r nod o hyrwyddo a chynyddu gweithgarwch Ymchwil ac Arloesi mewn busnesau, gan gynnwys micro-gwmnïau. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar gynyddu nifer yr unigolion sy’n ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ac arloesi ar lefelau 7-8 ISCED mewn cydweithrediad â’r sector preifat ac wedi’u sbarduno gan anghenion y sector preifat ac yn canolbwyntio ar y meysydd Her Fawr. Bydd yn cynnig llwybrau dilyniant er mwyn i unigolion allu dilyn cymwysterau ar y lefel hon ac ymateb i anghenion sgiliau y nodwyd bod eu hangen i ategu twf a buddsoddiad.

Cwmpas daearyddol

Mae’r prosiect yn gweithredu ledled Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mae’n rhaid i brosiectau KESS 2 fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Bod wedi’u trefnu mewn partneriaeth â chwmni partner.
  • Mae’n rhaid i weithgarwch y Prosiect fod yn rhanbarth cydgyfeirio Cymru.
  • Bydd yn rhaid i’r cwmni partner roi cyfraniad arian parod blynyddol gwerth rhwng £3,000 a £4,000 +TAW (yn dibynnu ar faint y cwmni).
  • Mae’n rhaid i brosiectau KESS 2 fod wedi eu cynnwys yn un o feysydd her fawr Llywodraeth Cymru: Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd, Gwyddorau Bywyd ac Iechyd, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch, a TGCh a’r Economi Ddigidol.
  • Mae’n rhaid i bob prosiect KESS 2 arwain at Radd Feistr neu Ddoethuriaeth Ymchwil
  • Mae’n rhaid cyflawni prosiectau KESS 2 mewn 3.5 blynedd ar gyfer Doethuriaeth; 1 flwyddyn 3 mis ar gyfer Gradd Feistr Ymchwil.

Targedau penodol

  • Cyfranogion â gradd neu gyfwerth – gwryw 325, benyw 320
  • Cyfranogion sy’n gadael â chymhwyster ar lefel Gradd Feistr neu Ddoethuriaeth – gwryw 256, benyw 247
  • Cyfranogion sy’n gadael â swydd – gwryw 166, benyw 158
  • Mentrau sy’n cydweithredu â darparwyr dysgu ar weithgareddau Ymchwil ac Arloesi – 516

Manylion cyswllt

Enw: Dr Penny Dowdney
E-bost: p.j.dowdney@bangor.ac.uk
Rhif ffôn: 01248 282266
Cyfeiriad: E1.11, Canolfan Reoli, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL55 4YN
Gwefan: Website
Twitter: Twitter