Mae SMARTInnovation yn rhan o gyfres o raglenni integredig a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Mae’r gweithrediadau yn darparu cyngor arbenigol a chymorth i fusnesau yng Nghymru sy’n bwriadu ymgymryd ag Arloesi, Ymchwil a Datblygu, gan gael gwared ar y rhwystrau i arloesedd a sicrhau bod prifysgolion a’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni datrysiadau arloesi ar gyfer Ymchwil a Datblygu ar y cyd.
Nod SMARTInnovation yw cynyddu galluedd busnesau Cymru ar gyfer arloesi gan eu cynorthwyo i fuddsoddi mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesi cynaliadwy:
Rhagor o wybodaeth: https://businesswales.gov.wales/expertisewales/smartinnovation
Darperir y gweithrediad SMARTInnovation gan dîm profiadol ym maes arloesi a thechnoleg, sydd wedi gweithio yn y maes diwydiant, y sector cyhoeddus ac academia, ac mae ganddo brofiad o ddarparu rhaglenni arloesi gwerth miliynau o bunnoedd yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad o ddarparu prosiectau a ariennir gan yr UE.
Bydd tîm SMARTInnovation yn ychwanegu gwerth drwy weithio yn agos gyda SMARTCymru, SMART Expertise a gweithrediadau Gwyddoniaeth Amgylcheddol a Thechnoleg eraill, a hefyd raglenni Ymchwil, Datblygu ac Arloesi y DU a’r UE.
Bydd y gweithrediad hwn yn darparu cymorth ar gyfer datblygu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd, Ymchwil a Datblygu, Ymchwil a Datblygu Cydweithredol, Gweithgynhyrchu a Dylunio, Eiddo Deallusol ac arloesi Agored. Bydd hefyd yn cydweithio’n agos ag Innovate UK ac yn cyflawni gweithgaredd Horizon 2020 yng Nghymru.
Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Bydd y gweithrediad yn creu hinsawdd gadarnhaol ar gyfer datblygu entrepreneuriaeth a busnes ar draws Cymru, ac yn benodol bydd yn annog busnesau bach a chanolig i ffynnu a bod yn arloesol yn dechnegol.
SMARTInnovation fydd y darparwr llawr gwlad ar gyfer ymwybyddiaeth a gweithgaredd arloesi i fusnesau Cymru. Bydd yn helpu i nodi cwmnïau a phrosiectau y gellir eu hystyried yn erbyn meini prawf arbenigo clyfar ar gyfer buddsoddiad ar lefel uchel.
Mae SMARTInnovation yn blaenoriaethu cefnogaeth i gwmnïau sydd â mwy na 10 o gyflogeion ond gall hefyd gefnogi’r rhai sydd â llai na 10 cyflogai ar yr amod bod ganddynt botensial o ran twf uchel. Gellir dangos potensial o ran twf uchel mewn sawl ffordd wahanol gan gynnwys bod yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Llywodraeth Cymru neu drwy dystiolaeth am gefnogaeth gan raglenni twf eraill megis Busnes Cymru Lefel 4.
Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017