Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gwibgyswllt Band Eang

Disgrifiad o’r prosiect

Prosiect Llywodraeth Cymru yw hwn, a wnaed yn bosibl gan gefnogaeth yr UE a Llywodraeth y DU. Nod y prosiect yw darparu cysylltiad band eang cyflym iawn mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd, pan nad yw cyflenwad masnachol yn ddilys yn economaidd. Fel prosiectau blaenorol o gyfran ERDF yn 2007-2013, ei nod yw parhau i osod seilwaith cyfathrebu cryf a hyblyg, sy’n edrych i’r dyfodol drwy ddarparu mynediad i’r rhwydwaith drwy gysylltiad ffeibr seiliedig ar gabinetau ar draws y De-ddwyrain a’r Gorllewin a’r Cymoedd. Nod arall y prosiect yw darparu mynediad cyffredin fforddiadwy i’r gwasanaethau sydd eu hangen i ddinasyddion a busnesau, ac yn sgil hynny, ddatblygu economi ddigidol ar gyfer Cymru.

Model Cyflawni

Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o’r cynllun strategol i ddarparu Band Eang Cyflym Iawn ar draws Cymru. Ystyrir hyn yn allweddol ar gyfer twf economaidd ynghyd â gwella ansawdd bywyd holl drigolion Cymru.

Bydd yn defnyddio’r dechnoleg darparu Ffeibr i’r adeilad (FTTP) a fydd â chyflymder o 100Mbps neu’n uwch ac mae’n cyd-fynd â phrosiect ychwanegol, o Ffeibr i Gabinet (FTTC*), a bwriedir darparu mynediad i’r adeilad ar gyflymder o fwy na 30 Mbps. Mae’r ddau brosiect yn bwriadu darparu mynediad ar gyfer o leiaf 96% o adeiladau.

Mae arbrofi’r adeiladau a gynhwysir yn annibynnol yn sicrhau bod y cyflymderau a nodwyd gan y partner sy’n ddarparwr yn cael eu monitro. Mae hyn yn helpu i gael y gwerth am arian gorau gan wneud taliadau ar gyfer gwiriadau llwyddiannus yn unig.

* FTTP – gosodir cysylltiad ffeibr yr holl ffordd o’r gyfnewidfa i adeilad y cwsmer, sy’n galluogi gwasanaethau band eang cymesur, â chyflymder arferol o 100Mbps. Ceir dau ddewis o FTTP: Gigabit Passive Optical Network (GPON) a Point-to-Point (PTP). Defnyddir y dechnoleg GPON i rannu llinell ffeibr rhwng sawl defnyddiwr, a defnyddir PTP i ddarparu llinell ffeibr sy’n cynnig band eang â pharamedrau pendant pwrpasol i adeilad. Mae GPON yn fwy addas i adeiladau preswyl a busnesau bach a chanolig, ac mae PTP yn fwy addas i adeiladau busnesau sy’n trosglwyddo llawer o wybodaeth. Fel y gellid disgwyl, mae technoleg PTP yn ddrutach i’w chyflwyno na thechnoleg GPON.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Y grwpiau targed penodol y disgwylir iddynt elwa ar gymorth gan y prosiect hwn yw deiliaid tai a busnesau yng Nghymru. Mae’n rhaid i’r cyflymder a gyrhaeddir fod yn 100Mbps o leiaf.  Ni chaiff yr adeiladau sydd eisoes wedi eu cynnwys mewn gweithredoedd cyflwyno masnachol eu hystyried yn gymwys ar gyfer y prosiect.

Targedau penodol

Y targed penodol ar gyfer y prosiect hwn yw: Y boblogaeth ychwanegol a gaiff mynediad at Gwibgyswllt Band Eang >100Mbps = 43,494 (dwyrain Cymru) a 91,053 (y Gorllewin a’r Cymoedd).

Manylion cyswllt

Enw: Vivien Collins - Rheolwr Prosiect
E-bost: NextGenerationBroadB1@gov.wales
Cyfeiriad: Llywodraeth Cymru - Adran yr Economi, Gwyddoniaeth ac Adnoddau Naturiol, Isadran Seilwaith TGCh, Llawr Cyntaf, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW
Gwefan: Website

Cynnydd

Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017

Ers diwedd mis Mehefin 2017, nifer y boblogaeth ychwanegol sydd â mynediad at Gwibgyswllt Fand Eang â chyflymder o 100Mbps, sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn, yw 35,538 o adeiladau yn y Dwyrain a 58,101 o adeiladau yn y Gorllewin a’r Cymoedd.