Mae’r Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn brif raglen Gydgyfeirio Ewropeaidd dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran sector addysg uwch Cymru. Mae KESS 2 yn cynnig prosiectau ymchwil cydweithredol (Graddau Meistr a Doethuriaethau Ymchwil) mewn cysylltiad â chwmni partner lleol, ac mae’r ysgoloriaethau wedi’u cefnogi gan gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae KESS 2 yn gweithio ledled ardal Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, ac mae pob un o Brifysgolion Cymru yn rhan o’r gweithrediad.
Bydd y cynllun yn creu partneriaethau rhwng dros 500 o fusnesau ac academyddion ac ymchwilwyr ôl-raddedig i ddatblygu prosiectau ymchwil arloesol â’r nod o ysgogi twf busnes.
Nod cynllun KESS II yw cynyddu nifer yr unigolion a chanddynt sgiliau lefel uwch ym maes ymchwil ac arloesi ac mae ganddo’r nod o hyrwyddo a chynyddu gweithgarwch Ymchwil ac Arloesi mewn busnesau, gan gynnwys micro-gwmnïau. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar gynyddu nifer yr unigolion sy’n ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ac arloesi ar lefelau 7-8 ISCED mewn cydweithrediad â’r sector preifat ac wedi’u sbarduno gan anghenion y sector preifat ac yn canolbwyntio ar y meysydd Her Fawr. Bydd yn cynnig llwybrau dilyniant er mwyn i unigolion allu dilyn cymwysterau ar y lefel hon ac ymateb i anghenion sgiliau y nodwyd bod eu hangen i ategu twf a buddsoddiad.
Mae’r prosiect yn gweithredu ledled Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
I fod yn gymwys ar gyfer cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mae’n rhaid i brosiectau KESS 2 fodloni’r meini prawf canlynol: